LEILA RAMADA
NASHVILLE FOOD GROUP
Cawsom sgwrs â Leila tuag at ddiwedd ei lleoliad i ofyn ychydig o gwestiynau iddi am ei chyfnod yn y Nashville Food Group.
Helo Leila, beth wyt ti wedi bod yn ei wneud yn y Nashville Food Group yn ystod dy leoliad?
Mae fy rôl yn golygu rheoli’r gwaith marchnata ar gyfer Nashville. Rwyf hefyd yn pacio coffi ac yn argraffu’r labeli priodol sydd eu hangen y diwrnod hwnnw, tra’n dilyn gweithdrefnau iechyd a diogelwch.
Yn dy farn di, sut mae’r Rhaglen Lleoliadau Myfyrwyr wedi helpu o ran dy baratoi ar gyfer dechrau dy yrfa?
Mae wedi fy ngalluogi i weld y sector bwyd a diod yn ehangach, ac i archwilio pethau na fyddwn i byth wedi meddwl amdanynt o’r blaen. Mae’r digwyddiadau a fynychais, a’r bobl a gwrddais, wedi gwneud i mi sylweddoli mai i’r sector hwn rwyf eisiau mynd ac y bydd yn rhoi cyfleoedd enfawr i mi.
Pa sgiliau wyt ti wedi’u dysgu wrth fod ar leoliad yn Nashville?
Rwyf wedi dysgu’r gallu i weithio dan bwysau amser, gan orfod pecynnu’r cynnyrch mewn pryd, neu fel arall byddai’n arafu’r broses gynhyrchu. Rwyf hefyd wedi dysgu’r sgil cyfathrebu a gwaith tîm, sy’n hanfodol mewn unrhyw fusnes rydych chi’n gweithio ynddo, yn enwedig mewn sefydliadau llai o faint lle nad oes llawer o weithwyr. Yn olaf, rwyf wedi cael y sgil o ymchwilio i gynnyrch, gorfod llunio adroddiadau am fy nghanfyddiadau, yn ogystal â chynllun busnes ar gyfer fy nghwmni.
I gloi, a fyddet ti’n argymell y Rhaglen Lleoliadau Myfyrwyr i fyfyrwyr eraill, a pham?
Yn sicr! Mae wedi bod yn brofiad gwerthfawr ac ni wnaf byth ei anghofio. Mae’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi’n eu cael yn rhywbeth na fyddech chi byth yn gallu ei brofi drwy astudiaethau academaidd. Mae’n ddiddorol cymharu’r wybodaeth a wyddoch o’r brifysgol, a’i rhoi ar waith yn ymarferol. Mae’r bobl rydych chi’n eu cyfarfod yn chwarae rhan bwysig yn eich cyfnod ar leoliad, yn dysgu am eu cefndir a’u hagwedd mewn bywyd, ac yn eich ysbrydoli i lwyddo yn y dyfodol.
Mae wedi bod yn wych gweld persbectif person ifanc yn ein busnes. Roedd yn ddiddorol gweld sut mae person ifanc yn gweld y farchnad yr ydym yn gweithredu ynddi, a pha lwyfannau / allfeydd y mae’n prynu cynnyrch o’r fath ganddynt. Mae cael Leila yn y tîm wedi bod yn gymorth mawr yn y busnes ac mae wedi bod yn brofiad da i bawb. Mae bod yn rhan o’r Rhaglen Lleoliadau Myfyrwyr wedi tynnu sylw at y ffaith y bydd angen cefnogaeth arnom o fewn y sefydliad yn y dyfodol, yn sicr.