top of page
Background

Cyllido Torfol Ecwiti

Daw Cyllido Torfol Ecwiti o dan ‘ymbarél’ cyllido torfol ehangach

CYLLIDO TORFOL ECWITI

CYLLIDO TORFOL
DYLEDION

CYLLIDO TORFOL 
 GWOBR

CYLLIDO TORFOL
ELUSENNOL

Mae cyllido torfol ecwiti yn ffordd i gysylltu cwmnïau â miloedd o fuddsoddwyr o bosibl ar un platfform ar-lein. Ond, gan ei fod yn ofod gorlawn a swnllyd, nid oes sicrwydd o lwyddiant. Cofiwch, mae angen torf er mwyn gyllido torfol, felly fe'ch cynghorir i sicrhau eich bod wedi adeiladu dilyniant eich hun o flaen llaw. Disgwylir i chi hefyd fod wedi gwneud rhywfaint o gyn-werthu fel bod o leiaf oddeutu 25% o'r targed cyllido eisoes wedi'i ymrwymo. Efallai na fydd y llwyfannau cyllido torfol yn eich rhestru oni bai bod gennych chi rai buddsoddwyr y cytunwyd arnynt ymlaen llaw i'r ymgyrch.

 

Mae hyn o bosibl yn ddewis arall yn lle angel busnes neu fuddsoddiad cyfalaf menter, yn bennaf oherwydd nifer y buddsoddwyr a all wneud bargen. Ond gallai fod yn fodd i ddenu buddsoddwyr angel ar gyfer y dyfodol os yw unigolion eisiau cynnig am gyfran fwy.

 

Cofiwch, mae cyllid ecwiti o bosibl yn ddrud iawn fel ffordd o godi arian Maint Arferol y Buddsoddiad: Cyfran: ac felly ni ddylech gynnig mwy o ecwiti nag sy'n angenrheidiol. Mae wedi bod yn ddull llwyddiannus iawn i rai cwmnïau bwyd a diod, yn enwedig bragwyr, sydd wedi adeiladu dilyniant mawr.

 

Nid oes unrhyw ofyniad i dalu difidendau. Yn aml mae pobl yn buddsoddi trwy ariannu torfol gan eu bod yn gobeithio gweld twf ‘cyfalaf’ dramatig. Mae'r llwyfannau cyllido torfol yn awyddus i gwmnïau geisio codi arian ar draws mwy nag un ymgyrch ariannu, felly mae'n werth ystyried yn union sut y bydd y cyllid yn sicrhau twf (offer cyfalaf, adeiladu stoc, ymgyrchoedd cyfathrebu).

 

Mae'r neges y gallwch ei chyflwyno i ddarpar fuddsoddwyr yn gyfyngedig, felly bydd angen cynllun busnes a rhagolygon ariannol, ac yn aml mae angen fideo i grynhoi'r cyfle. Mae'r gost yn fwy na ffioedd, mae hefyd yn cymryd amser ac ymdrech i roi'r cyfle gorau i'r ymgyrch.

Maint Arferol y Buddsoddiad: £50,000 – Miliynau (dibynnu ar y platfform)

Cyfran: Fel arfer llai na 30%

Amserlen: 5-7 Mlynedd

MANTEISION

ANFANTEISION

Gall fod yn fath rhad o gyllid. Nid oes unrhyw rwymedigaeth i dalu difidendau o gyfranddaliadau cyllido torfol ecwiti, ac mae'r buddsoddwyr yn ymwybodol o hyn.

Mae nifer o fuddsoddwyr yn golygu nifer o lysgenhadon ar gyfer eich busnes, ac er na fyddan nhw’n ymwneud yn uniongyrchol, byddan nhw’n helpu i farchnata eich cynnyrch drwy gyfryngau cymdeithasol ac ar lafar.

Rhoi hyder yn eich cynnyrch a all helpu i gael cyllid ychwanegol wrth y banc.

Mae cyllido torfol ecwiti yn amgylchedd sydd wedi’i reoleiddio, ac felly mae'n cynnig amgylchedd wedi’i reoli i fuddsoddwyr a busnesau gysylltu.

Yn gwanhau perchnogaeth y sylfaenydd o'r busnes.

 

Bydd rhaid i chi dalu ffioedd platfform i’ch darparwr.

​

​

Nid oes unrhyw sicrwydd o lwyddiant gydag ymgyrch cyllido torfol, a allai arwain at embaras a gallai wastraffu eich amser yn paratoi ar ei gyfer.

Gall y diwydrwydd dyladwy a wneir gan blatfform effeithio ar eich adroddiadau credyd personol a busnes yn dibynnu ar y math o wiriadau y maen nhw’n eu cynnal.

NODWCH:

Bwriad y ddogfen hon yw bod yn gymorth i'ch helpu chi i ystyried gwahanol fathau o gyllid a pha rai a allai fod yn briodol i'ch busnes; nid yw'n ganllaw cynhwysfawr i bob math o gyllid. Gallai fod goblygiadau treth a chyfreithiol gwahanol yn gysylltiedig â gwahanol fathau o gyllid. Dylid ceisio cyngor treth a chyfreithiol proffesiynol i baratoi ar gyfer y gwahanol fathau hyn o gyllid.

bottom of page