Cynnig Cyhoeddus Cychwynnol
Mae cynnig cyhoeddus cychwynnol yn galluogi busnes i godi arian yn gyhoed- dus. Mae hynny’n golygu y gall y busnes sefydlu ei hun ar gyfnewidfa stoc, drwy werthu canran benodol o gyfranddaliadau i nifer o fuddsoddwyr. Gall hyn swnio'n debyg i gyllido torfol, ond yn yr achos hwn, mae marchnad rwydd ar gael i fuddsoddwyr i werthu eu cyfranddaliadau. Gall maint yr ecwiti a gynigir amry- wio, ond defnyddir cynigion cyhoeddus cychwynnol yn aml fel strategaeth yma- dael ar gyfer y sylfaenwyr a buddsoddwyr cynnar i wireddu eu buddsoddiad.
Mae tair marchnad wahanol yng Nghyfnewidfa Stoc Llundain:
• Y Brif Farchnad: Ar gyfer busnesau sy’n ddigon mawr i’w cynnwys o fewn y FTSE (Financial Times Stock Exchange) 100 a 250
• Y Segment Twf Uchel: Yn bennaf ar gyfer marchnadoedd technoleg-benodol sydd ddim yn ddigon mawr ar gyfer y Brif Farchnad
• AIM: sef Marchnad Fuddsoddi Amgen (Alternative Investment Market - AIM) - ar gyfer busnesau llai sy'n dal i dyfu ar gyfradd gyflym ac sydd â'r maint i'w rhestru, ond sydd ddim yn ddigon mawr ar gyfer y Farchnad FTSE.
Os yw busnesau yn gallu rhestru, gallan nhw ddisgwyl codi hyd at £200m ar yr AIM, neu hyd at £1bn ar y brif farchnad. Mae hynny’n dibynnu ar werth y busnes a faint o ecwiti sy'n cael ei roi. Er mwyn i fusnesau restru, mae angen iddyn nhw gael o leiaf £5m o drosiant a bod yn sefydledig ac yn tyfu. Mae'r broses ar gyfer ennill buddsoddiad drwy'r dull hwn yn gostus iawn ac yn cymryd llawer o amser, felly mae'n rhaid ei hystyried fel strategaeth hirdymor.
Disgwylir i CCC fod â manteision graddfa ac mae angen iddynt allu dangos i fuddsoddwyr mor amrywiol â rheolwyr cronfeydd pensiwn neu fuddsoddwyr preifat mai nhw yw’r ffordd fwyaf effeithlon o dyfu cyfalaf a chynnig enillion ar fuddsoddiad. Mae'r uwch reolwyr yn aml yn treulio cymaint â dau neu dri diwrnod yr wythnos yn gweithio ar gynnal hyder buddsoddwyr. Gall rheolau a thrylwyredd rhedeg cwmni cyhoeddus ymddangos yn feichus ar adegau.
Maint Arferol y Buddsoddiad: Hyd at £200m (AIM), hyd at £1bn (Prif Farchnad)
Cyfran: 25% hyd at dros 50%
Amserlen: Am byth
MANTEISION
ANFANTEISION
Bydd y buddsoddiad a geir o gynnig cyhoeddus cychwynnol ymhlith rhai o'r symiau mwyaf o arian y gall busnes obeithio eu derbyn.
Fel strategaeth hirdymor, mae’n haws codi arian unwaith mae’r busnes wedi’i restru.
Mae cynigion cyhoeddus cychwynnol yn hyblyg o ran y swm o ecwiti sy’n cael ei ildio. Yn dibynnu ar werth eich busnes, gallwch gadw cyfran reoli, neu gallwch ei defnyddio fel strategaeth ymadael.
Gall cynigion cyhoeddus cychwynnol helpu gyda chysylltiadau cyhoeddus positif, cynyddu proffil eich busnes, fydd yn ei dro yn helpu i gynyddu gwerthiant, ac o’r herwydd, twf.
Gan ei fod yn cynnwys rhestru cyhoeddus, mae hyn yn creu marchnad eilaidd ar gyfer y cyfranddaliadau yn eich busnes gan alluogi buddsoddwyr cyfredol i allu gwerthu eu cyfranddaliadau yn weddol rhwydd.
Yn gwanhau perchnogaeth y sylfaenydd o'r busnes, yn aml i leiafrif. Mae hynny’n golygu na fyddwch yn gallu gwneud y penderfyniadau terfynol mewn busnes os ydych chi'n dal i fod eisiau bod yn rhan o bethau.
Mae’r broses o gyflawni cynnig cyhoeddus cychwynnol yn gostus iawn, gyda ffioedd ar gyfartaledd yn 8% o'r arian a godwyd.
Fel arfer, mae buddsoddwyr mewn cwmnïau rhestredig yn gofyn am enillion ar ffurf difidendau. Mae difidendau yn aml yn ddrytach na thalu llog ar fenthyciadau ac felly bydd eich cost cyfalaf yn cynyddu.
Mae'r uwch reolwyr yn aml yn treulio cymaint â dau neu dri diwrnod yr wythnos yn gweithio ar gynnal hyder buddsoddwyr.
​
Mae'r uwch reolwyr yn aml yn treulio cymaint â dau neu dri diwrnod yr wythnos yn gweithio ar gynnal hyder buddsoddwyr.
​
NODWCH:
Bwriad y ddogfen hon yw bod yn gymorth i'ch helpu chi i ystyried gwahanol fathau o gyllid a pha rai a allai fod yn briodol i'ch busnes; nid yw'n ganllaw cynhwysfawr i bob math o gyllid. Gallai fod goblygiadau treth a chyfreithiol gwahanol yn gysylltiedig â gwahanol fathau o gyllid. Dylid ceisio cyngor treth a chyfreithiol proffesiynol i baratoi ar gyfer y gwahanol fathau hyn o gyllid.