Cyllid Anfoneb
Y MANTEISION A'R ANFANTEISION: CYLLID ANFONEB
Mae dwy fersiwn wahanol o gyllid anfoneb. Mae’r cyfleusterau hyn yn cael eu darparu gan fanciau yn y DU a / neu gwmnïau cyllid anfoneb arbenigol fel Bibby, Close Bros. neu Hitachi Finance.
Yn gyntaf, disgownt anfonebau lle mae arian yn cael ei godi yn erbyn yr anfonebau rydych chi'n ei godi. Cyn belled â bod yr anfonebau'n cael eu codi yn erbyn busnesau eraill sydd yn risg dda, gallwch dynnu mwyafrif gwerth yr anfoneb i lawr cyn y dyddiad dyledus.
Yn ail, ffactoreiddio anfonebau, lle rydych chi'n gwerthu'r anfoneb ar ddisgownt i ddarparwr ffactoreiddio anfonebau sydd wedyn yn casglu gwerth yr anfoneb yn uniongyrchol pan fydd yn ddyledus.
​
Rhybudd! Gall ffactoreiddio anfonebau ymyrryd â'r perthnasoedd gyda'ch cwsmeriaid. Gall ffactoreiddio anfonebau hefyd fod yn ddrud pan gymerir yr holl gostau i ystyriaeth - peidiwch â chael eich denu gan y gyfradd llog yn unig.
Ar ben hynny, gall cyllid anfonebau, yn union fel gorddrafftiau, fod yn anodd i adael unwaith y bydd y cwmni wedi dechrau ei ddefnyddio, felly mae'n wir bwysig defnyddio'r cyfleusterau hyn gyda rheolaeth a disgyblaeth ac nid dod yn or-ddibynnol arno. Yn ddelfrydol, dim ond defnyddio cyllid anfonebau i dalu costau uniongyrchol a gorbenion a pheidiwch â chael eich temtio i'w defnyddio ar gyfer peiriannau, offer newydd, cerbydau - neu ddifidendau!
MANTEISION
ANFANTEISION
Mae gwerth cyfleuster yn cynyddu wrth i werthiannau gynyddu. Felly'n ddelfrydol ar gyfer busnesau twf cyflym.
Yn ddelfrydol ar gyfer busnesau lle mae ‘dyledwyr’ yn ased mawr yn eu mantolen. Mae cyfleusterau cyllid anfoneb i bob pwrpas yn caniatáu i'r busnes fenthyca yn erbyn yr ased hwnnw.
.
.
Gall fod yn anodd dod allan ohono, yn arbennig os yw gwerthiant yn dirywio am ba bynnag reswm
Costau - mae yna lawer o gostau ynghlwm, nid y cyfradd llog yn unig. Mae'n bwysig iawn i fod yn glir ynghylch cyfanswm y costau cyn mynd ymlaen a'r cyfleusterau hyn.
Ddim yn ddelfrydol ar gyfer busnesau sydd ag elw isel oherwydd bod y gost yn waharddol.
Mae ffactoreiddio anfonebau yn cynnwys 3ydd partïon yn casglu eich dyledion - gall hyn greu ansicrwydd ymhlith eich cwsmeriaid ac ymyrryd ag adeiladu perthynas.