top of page
Background

Prydlesu Adeiladau

Y MANTEISION A'R ANFANTEISION: PRYDLESU ADEILADAU

Dewis arall ar gyfer ariannu adeilad busnes yw prydlesu, ble mae eich busnes yn rhentu adeilad ond nid yw’n berchen ar yr adeilad ar ddiwedd cyfnod y brydles. Mae'n bosib trafod telerau gan gynnwys y nifer o flynyddoedd, cymalau torri, hawliau terfynu, rhent, adolygiadau rhent ac ati.

 

Os ydych chi'n bwriadu prydlesu / rhentu, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cymryd cyngor cyfreithiol i'ch helpu i drafod y telerau cyn llofnodi'r cytundeb prydles.

MANTEISION

ANFANTEISION

Mae prydlesu adeilad yn aml yn broses gyflymach na phrynu un, sy'n golygu y gallwch chi adleoli'n gyflymach

Ni fydd yn rhaid i chi glymu swm mawr o arian parod ar gyfer blaendal

Nid yw cwymp yng ngwerth yr adeilad yn effeithio arnoch chi, a gallai hyd yn oed yn roi sail i chi ar gyfer gostyngiadau rhent

Rhwymedigaeth treth - Mae costau prydles yn ei wrthbwyso gydag elw, dim ond yr elfen llog o ad-daliad benthyciad sydd yn lleihau elw

.

Efallai y byddwch yn atebol am atgyweiriadau yn dibynnu ar amodau'r brydles

Gall rhent gynyddu heb fawr o rybudd

Ni fyddwch yn cael budd o gynnydd yng ngwerth yr adeilad

Gall gadael prydles cyn diwedd y tymor fod yn ddrud

Efallai na chaniateir i chi wneud newidiadau i'r adeilad i siwtio anghenion y busnes - yn dibynnu ar delerau ac amodau

NODWCH:

Bwriad y ddogfen hon yw bod yn gymorth i'ch helpu chi i ystyried gwahanol fathau o gyllid a pha rai a allai fod yn briodol i'ch busnes; nid yw'n ganllaw cynhwysfawr i bob math o gyllid. Gallai fod goblygiadau treth a chyfreithiol gwahanol yn gysylltiedig â gwahanol fathau o gyllid. Dylid ceisio cyngor treth a chyfreithiol proffesiynol i baratoi ar gyfer y gwahanol fathau hyn o gyllid.

Cysylltwch

Amdanom Ni

Polisi Preifatrwydd

Cyswllt

 

​

© 2023 SSU Cluster

Ffôn01656 861536

E-bost: bwyd-food@bic-innovation.com

 

Cyfeiriad: BIC Innovation, 1 Court Road, Bridgend, CF31 1BE

  • LinkedIn
  • Twitter
  • Instagram
  • YouTube

Wedi'i greu'n falch ganJake TregoninggydaWix.com

Government Logo-01.png

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Cyflwynir gan BIC Innovation.

Cyflwynir Gan:

BIC New Logo.PNG
bottom of page