Mae Gweithlu Bwyd Cymru yn ymgyrch a gyflenwir gan Sgiliau Bwyd Cymru (Lantra) ar ran Bwyd a Diod Cymru (Llywodraeth Cymru).
Gan arddangos pa mor foddhaus ac amrywiol y gall gyrfa yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru fod, nod yr ymgyrch hon yw i roi ffocws ar rolau sydd yn helpu i fwydo’r genedl. O gyfrannu ar draws y gadwyn gyflenwi a chynhyrchu bwyd i fod ar flaen y gad o ran datblygu cynnyrch rhyngwladol newydd ac arloesol, mae gan bob rôl ei ran yn y siwrne bwysig o gynhwysion i gynnyrch terfynol.
I ddysgu mwy ac i gymryd rhan, cysylltwch â thîm Gweithlu Bwyd Cymru drwy: wales@lantra.co.uk
Comments