top of page
Search

Budd Ôl-ddoethineb Mewn Byd sy’n Newid yn Gyflym

Gan John Taylerson, Rheolwr Rhaglen y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy


Gyda fy nghefndir llaeth, rwyf wedi bod yn aelod o’r Society of Dairy Technology (SDT) ers nifer o flynyddoedd. SDT yw’r corff proffesiynol cydnabyddedig sy’n meithrin datblygiadau gwyddonol a thechnolegol yn niwydiannau llaeth y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon. Yn ddiweddar gofynnwyd i mi gyfrannu at eu bwletin chwarterol a dewisais fyfyrio ar gyngor da a gefais unwaith wrth benderfynu a ddylwn brynu darn o offer, a’i berthnasedd yn y byd heddiw.


Os hoffech chi ddarganfod mwy am y SDT a sut i ddod yn aelod, ewch i'w gwefan yma.


Yn fy swydd fel Rheolwr Rhaglenni Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy newydd Bwyd a Diod Cymru, rydw i’n aml yn cael trafodaethau gyda chwmnïau bwyd a diod yng Nghymru ynglŷn â phrynu gwahanol gyfarpar. Yn aml, mae’r dewis yn seiliedig ar beth y gallwch chi ei gael am bris, o’i gyferbynnu ag effeithlonrwydd technegol y cyfarpar hwnnw. Yr hen benbleth oesol o beth y gallwch chi ei fforddio yn erbyn beth yr hoffwch chi ei gael.


Dylai fod rhai ffyrdd gwell o benderfynu faint i’w wario a/neu wneud cyfrifiad ynglŷn a gwerth. Rhywfaint o gyngor gwirioneddol dda a gefais gan gyfrifydd llawer o flynyddoedd yn ôl oedd “prynwch y cyfarpar y byddwch chi’n dymuno eich bod wedi’i brynu flwyddyn o’r presennol.”


Felly, beth fyddwn ni’n dymuno ein bod wedi’i brynu blwyddyn o’r presennol?


Mae’r byd yn newid yn gyflym; o chwaeth y defnyddwyr a gofynion y farchnad at ddatblygiadau mewn technoleg a chost cynyddol mewnbynnau fel ynni.



Er mwyn rhoi un enghraifft yn unig ynglŷn â boeleri: gyda phrisiau nwy yn cynyddu’n gyflym iawn, a allai’r brys i symud oddi wrth olew at nwy sefyll yn stond yn syth; neu a fydd prisiau nwy yn setlo yn ystod y flwyddyn nesaf? Efallai y gall effeithlonrwydd thermol a swyddogaeth ynni adnewyddadwy chwarae rhan yn hyn? Mae swyddogaeth ynni adnewyddadwy mewn triniaethau gwres yn dod fwyfwy pwysig. Fodd bynnag, er bod angen archwilio prosesau amgen, dylid cofio bod y gyfraith yn aml yn diffinio pa broses y mae’n rhaid ei defnyddio i wneud bwyd yn ddiogel ac yn farchnadwy.


Ond beth am faterion sylfaenol, fel pa gynnyrch a fyddwn ni’n ei brosesu ymhen blwyddyn, ai cynhyrchion llaeth gwahanol efallai?


A oes angen i’r cyfarpar adlewyrchu’r newid yn y galw sydd yn y farchnad hefyd? Mae hynny’n golygu’r amser cynhyrchu, y manylion ar gyfer sianeli a meintiau pibellau, oherwydd gallan nhw orfod trin cynnyrch newydd nad oeddech chi wedi cynllunio i’w brosesu blwyddyn neu ddwy yn ôl. Efallai nad system diwbaidd sy’n addas ar gyfer llaeth fyddai’r system orau ar gyfer dewis sy’n seiliedig ar blanhigion.


Mae achrediad yn newid gyda byd newydd y corfforaethau b, newid yn yr hinsawdd, a bydd ynni a’i darddiad yn effeithio ar ddewisiadau. Efallai y bydd dewisiadau gwahanu, rheoli prosesau ac amser-tymheredd hefyd yn newid. Yn aml, mae rheoli prosesau yn gallu cael ei ailraglennu yn hawdd, ond o gofio’r newid yn chwaeth y defnyddiwr, efallai y bydd angen i driniaethau safonol, pwyseddau homogeneiddio a systemau rheoli a chofnodi adlewyrchu'r lefelau uwch o gofnodi a chipio data, yn ogystal â rheoli prosesau, er mwyn galluogi gwahanu a phrosesu cynnyrch sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd.


Beth am y dyfodol felly? Os bydd pethau yn newid, sut ydym ni’n rhagweld beth fydd goblyigadau’r newidiadau hynny os ydym yn dewis cyfarpar neu’n gwario arian?


Gallai defnyddio rhywfaint o offer a thechnegau gwneud penderfyniadau gynorthwyo gyda hyn. Un yr ydw i’n ei ddefnyddio yn aml gyda busnesau yw dadansoddiad GECTAD (goblygiadau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, technolegol, amgylcheddol a deddfwriaethol ar gyfer busnes neu’r farchnad y mae’n gweithredu ynddo) sydd yn eich helpu chi i asesu beth sy’n mynd ymlaen, beth sy’n dod a sut ddylech chi ymateb. Mae hyn yn cael ei wneud orau fel ymarfer tîm ac yn cael ei hwyluso gan rywun a fydd yn sicrhau bod y tîm yn meddwl mewn gwirionedd am y broses. Mae busnesau llwyddiannus yn gwrando ac yn ymateb i’r farchnad. Fodd bynnag, fel y gwyddom ni oll, os ydym ni’n gwrando yn unig ar y rheolwyr masnachol ar ôl iddyn nhw dychwelyd o ymweliadau gyda chwsmeriaid, efallai na fyddwch chi’n rhedeg ffatri effeithlon byth eto oherwydd yr holl ofynion am newid maint, newid labeli, newid cynnyrch. Wedi dweud hynny, mae cynnwys y timau masnachol a’r timau marchnata yn yr ymarfer GECTAD yn werthfawr.


Ymarfer defnyddiol arall yw archwilio beth yr ydych chi’n ei wneud yn nhermau capasiti a gallu. Gallai hyn fod mor syml â matrics o’r prosesau a’r mathau o becynnau sydd gennych chi. Pa gapasiti sydd ei angen i wneud beth? Pa allu ydych chi’n ei gynnig? Beth yw amrediad y prosesau a’r fformatau y gallwch chi eu cynnig? A oes yna rywbeth nad ydych chi’n ei wneud mwyach, neu a oes gennych chi offer sy’n cael ei danddefnyddio? A oes yna gyfyngiad a all gyfiawnhau buddsoddi mewn capasiti mwy priodol?


Pa ffactorau eraill all eich cynorthwyo chi i benderfynu sut i ddewis yn ddoeth? Mae cost pobl yn ystyriaeth amlwg, ynghyd â’r costau o ddenu a chadw’r sgiliau hynny. Mae prinder sgiliau a llafur yn y diwydiant wedi’i ddogfennu’n dda. A oes achos busnes ar gyfer awtomateiddio? Yn gynyddol, mae lefel soffistigeiddrwydd wrth dorri a phecynnu cynnyrch hyd at y gallu i gymryd cynnyrch bregus, ei gasglu, a’i osod a’i becynnu mewn papur a’i roi mewn blwch wedyn heb ymyrraeth ddynol yn golygu bod busnesau yn buddsoddi mewn cyfarpar er mwyn parhau yn gost-gystadleuol. Mae cyfeirio at ymweliadau, treialon a gwarantau perfformio i gyd yn helpu i leihau risgiau’r penderfyniadau buddsoddi hyn.


I grynhoi, mae’r byd yn newid ac mae disgwyl i chi newid hefyd drwy ddefnyddio llai o ynni, llai o ddŵr a gwneud gweithio yn y diwydiant yn fwy diddorol drwy gael gwared â phethau bob dydd.


Rhan o’m swydd i gyda’r Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy yw helpu busnesau bwyd a diod yng Nghymru i wneud penderfyniadau deallus, sy’n seiliedig ar well dealltwriaeth o ofynion y farchnad a’r grymoedd a’r ystyriaethau allanol. Rydym yn ceisio eu helpu nhw i “ddadrisgio” eu proses o wneud penderfyniadau, darganfod y cyllid cywir a chadw cost y cyfalaf i lawr. Wedi’r cwbl, mae’n rhaid i rywun dalu am hyn i gyd, a’r rhywun hwnnw yw’r cwsmer!


Felly, wrth i chi geisio cynllunio eich penderfyniadau buddsoddi, symudwch ymlaen flwyddyn – yn y dyfodol beth fyddwch chi’n dymuno eich bod wedi’i ddewis yn awr?



11 views0 comments

Comments


bottom of page