top of page
Search
Writer's pictureSSU Cluster

Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy Bwyd a Diod Cymru Rhaglen Interniaeth Rheoli Busnes BSc 2il Flwyddyn

Mewn cydweithrediad ag Ysgol Busnes Caerdydd


Mae'r Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy, ar y cyd ag Ysgol Busnes Caerdydd, yn gwahodd

ceisiadau gan fusnesau bwyd a diod o Gymru sydd â diddordeb mewn cynnig interniaeth 20 wythnos wedi'i hariannu'n llawn i fyfyrwyr Rheoli Busnes yn eu hail flwyddyn, i ddechrau ym mis Ionawr 2022.


Gall y rolau, sydd i'w cynnig gan y busnes cynnal, fod ym maes cyllid, gweithrediadau, y gadwyn gyflenwi, gwerthu a marchnata, AD, rheolaeth fasnachol neu gyffredinol, gyda'r nod o gyflawni prosiectau penodol gwella busnes.


Er mwyn cymryd rhan yn y rhaglen beilot hon rhaid i'ch busnes fod:


  • Busnes micro neu fusnes bach a chanolig sy'n gweithredu yn sector cynhyrchu / prosesu bwyd neu ddiod yng Nghymru

  • Aelod o'r Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy Bwyd a Diod Cymru

  • Yn gallu cynnig rôl sydd â phrosiectau o fewn y rôl honno sy'n dangos gwir angen rheoli yn y busnes ac yn cyfrannu at y cynlluniau twf ar gyfer eich busnes


Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Sul 1 Awst 2021.


Cliciwch yma i gael manylion llawn y meini prawf, y telerau a'r amodau a'r ffurflen gais



14 views0 comments

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page