top of page
Search

Cylchlythyr - Awst 2022

Cyflwyniad


Mae wedi bod yn galonogol gweld cynifer o ddigwyddiadau allweddol yn cael eu cynnal dros yr haf am y tro cyntaf ers tair blynedd. Roedd hi’n wych gweld cynifer o’n haelodau’n brysur yn masnachu yn y neuadd fwyd yn y Sioe Frenhinol fis diwethaf, ymysg llawer o ddigwyddiadau eraill.

Mae’r tîm Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy nawr yn brysur yn paratoi i fynd ar daith gyda’n Cymorthfeydd Uwchraddio – eich cyfle chi i archebu sesiynau un-i-un cyfrinachol i gael cyngor arbenigol, gweler yr erthygl a’r dolenni isod i weld sut gall y tîm eich helpu chi. Gan ein bod yn wynebu misoedd heriol o’n blaenau, gwnewch yn siŵr eich bod hefyd yn darllen blog Wyn Jones, ein Rheolwr Clwstwr Rhanbarthol, ar y camau y gallwch eu cymryd nawr i reoli risg yn eich busnes bwyd neu ddiod.

Y mis hwn, fe wnaethom groesawu Alison Haselgrove i’r tîm. Mae gan Alison dros 35 mlynedd o brofiad ym maes prynu archfarchnadoedd a datblygu cynnyrch newydd, ac mae’n awyddus i weithio gydag aelodau’r Clwstwr ar eu strategaethau cynnyrch a’u cynlluniau datblygu cynnyrch newydd. Bydd Alison yn ymuno â’r Cymorthfeydd Uwchraddio ym mis Medi a mis Hydref – gwnewch yn siŵr eich bod yn trefnu apwyntiad ymlaen llaw gydag Alison i ddysgu mwy am NPD.




Cymorthfeydd Uwchraddio


Mae ein tîm ar grwydr gyda’n Cymorthfeydd Uwchraddio. Ymunwch â ni am sgwrs gyfrinachol gyda’n harbenigwyr uwchraddio am eich cynlluniau twf ar gyfer eich busnes, a sut gallwn ni eich helpu i’w gwireddu.



Rheoli Risg yn eich Busnes Bwyd a Diod


Mae’n anodd osgoi’r penawdau presennol am gostau cynyddol sy’n taro busnesau a defnyddwyr fel ei gilydd. Mae adroddiad Banc Lloegr ar gyfer mis Awst yn dangos bod gennym rai misoedd heriol o’n blaenau o hyd, felly mae’n bwysig nawr yn fwy nag erioed i gynllunio ymlaen llaw a bod yn barod. Mae Wyn Jones, ein Rheolwr Clwstwr Rhanbarthol yng Ngogledd Cymru, wedi treulio dros 37 o flynyddoedd yn gweithio yn y diwydiant bancio ac mae wedi wynebu rhai cyfnodau o ddirwasgiad yn ei yrfa! Gofynnom i Wyn pa gamau y dylai busnesau bwyd a diod Cymru eu cymryd yn awr i reoli risg dros y misoedd nesaf Darllenwch fwy YMA



Canllawiau: Sut i Gyflogi Pobl o Wcráin

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyflogi pobl sydd wedi cael eu dadleoli o Wcráin yn dilyn y goresgyniad gan Rwsia. Mae cael gafael ar waith yn bwysig i bobl Wcráin er mwyn iddynt adeiladu bywydau newydd yng Nghymru. Mae cyflogi pobl o’r Wcráin hefyd yn rhoi cyfle i gyflogwyr yng Nghymru fanteisio ar dalent, sgiliau a phrofiad i gefnogi eu sefydliadau.

Rhagor o wybodaeth YMA.




Blog Gwadd: Fareshare Cymru - Atal bwyd da rhag mynd i wastraff, a lleihau ôl troed carbon Cymru


Mae FareShare Cymru am siarad â busnesau bwyd a diod sy’n wynebu problemau gyda’r bwyd sydd dros ben, ac sydd am fynd i’r afael â’u hôl troed carbon. Darllenwch fwy YMA




Sut gall strategaeth cynnyrch a’r datblygu cynnyrch newydd helpu fy musnes i dyfu?


Gall arloesi mewn cynnyrch newydd neu gynnyrch wedi’i addasu chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sbarduno twf mewn busnes bwyd neu ddiod. Er bod rhai busnesau’n cefnu ar arloesi a datblygu cynnyrch i arbed arian yn y cyfnod cythryblus hwn, mae perygl iddynt beidio ag addasu i amodau newydd yn y farchnad. Mae patrymau gwario defnyddwyr yn debygol o newid, ac, yn bwysicach na hynny, mae’n bosib bod eich cystadleuwyr eisoes yn mabwysiadu ffyrdd newydd a mwy cost-effeithiol o weithio ac yn lansio cynnyrch mwy deniadol. Darllenwch fwy YMA

Cyllid Pynciau Poeth


Mae’r Sefydliad Uwchraddio Eisiau Clywed Gennych Chi

Mae’r Sefydliad Uwchraddio yn gweithio i wneud y DU y lle gorau yn y byd i fusnes uwchraddio a thyfu. Mae Arolwg Uwchraddio eleni’n cael ei gynnal ar adeg dyngedfennol i’r wlad, felly fel arweinydd busnes sy’n tyfu, yn chwarae rhan hollbwysig yn economi’r DU ac yn sbardun i’w ddyfodol, mae angen i’ch llais gael ei glywed

Darllenwch fwy YMA



Cipolwg Ch2 Grant Thornton ar Fwyd a Diod


Mae heriau amlwg wedi effeithio ar y nifer o gytundebau yn y maes bwyd a diod yn ystod Ch2. Darllenwch ymlaen am esboniad Grant Thornton o’r hyn sydd wedi digwydd.

Darllenwch fwy YMA


Cyhoeddi Fersiwn Newydd o’r Cynllun Benthyciadau Adfer

Mae fersiwn newydd y Cynllun Benthyciadau Adfer (RLS) wedi’i gynllunio i gefnogi mynediad at gyllid ar gyfer busnesau yn y DU wrth iddynt geisio buddsoddi a thyfu. Gall busnesau ddefnyddio’r cyllid at unrhyw ddiben busnes cyfreithlon – gan gynnwys rheoli llif arian, buddsoddi a thwf a gallant ddewis o fenthyciadau tymor, gorddrafftiau, cyllid asedau a chyllid anfonebu, er na fydd pob benthyciwr yn gallu cynnig pob cynnyrch. Mae benthycwyr achrededig yn cynnwys: Banc yr Alban, BCRS Business Loans, Ymddiriedolaeth Ailfuddsoddi Coventry a Swydd Warwick (CWRS), Genesis Asset Finance, HSBC UK, Banc Lloyds, NatWest, Royal Bank of Scotland.

Darllenwch ymlaen YMA.




Gadewch i ni drafod Cyfarwyddwyr Anweithredol


A dyna’n union wnaethon ni yn ein digwyddiad diweddar ar gyfer y Cyfarwyddwyr Anweithredol sydd wedi cofrestru ar gyfer Rhaglen Cyfarwyddwyr Anweithredol newydd y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy. Dan ofal Capital Law yn eu swyddfeydd yng Nghaerdydd, daeth un ar ddeg Cyfarwyddwr Anweithredol i’r gweithdy i drafod rôl Cyfarwyddwyr Anweithredol a sut gall eu profiad a’u sgiliau gefnogi busnes bwyd neu ddiod sy’n tyfu drwy’r Rhaglen Cyfarwyddwyr Anweithredol.

Darllenwch ymlaen YMA.



Gwella Eich Llwyfan Digidol yng Ngwynedd

Mae Cyngor Gwynedd wedi lansio prosiect newydd ar gyfer busnesau lletygarwch a bwyd a diod yn y sir i fanteisio ar hyfforddiant arbenigol i wella eu sgiliau digidol ac uwchraddio eu platfform digidol.



Digwyddiadau Sydd ar y Gweill


Cymorthfeydd Uwchraddio: Conwy


Conolfan Fusnes Conwy | Dydd Mawrth 20 Medi 2022

Apwyntiadau ar gael rhwng: 9:30YB - 4:00YP

Conolfan Fusnes Conwy, Junction Way, Llandudno LL31 9XX



Cymorthfeydd Uwchraddio: Wrecsam


Prifysgol Glyndŵr | Dydd Mercher 21 Medi 2022

Apwyntiadau ar gael rhwng: 9:30AM - 4:00PM

Glyndŵr University, Mold Rd, Wrexham LL11 2AW


Cymorthfeydd Uwchraddio: Arberth


The Queen's Hall | Dydd Mawrth 4 Hydref 2022

Apwyntiadau ar gael rhwng: 9:30AM - 4:00PM

The Queen's Hall, High St, Narberth SA67 7AS



Cymorthfeydd Uwchraddio: Y Fenni


The Priory Centre | Dydd Mercher 5 Hydref 2022

Apwyntiadau ar gael rhwng: 9:30AM - 4:00PM

The Priory Centre, St Mary's Priory, 5 Monk St, Abergavenny NP7 5ND


Cymorthfeydd Uwchraddio: Pen-y-Bont ar Ogwr


Swyddfa BIC Innovation | Dydd Mercher 12 Hydref 2022

Apwyntiadau ar gael rhwng: 9:30AM - 4:00PM

Swyddfa BIC Innovation, One Court Road, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1BE


Cysylltwch!

A ydych chi’n gwmni bwyd a diod yng Nghymru, gydag uchelgais i uwchraddio, ond nid ydych chi’n sicr lle i ddechrau? Mae ein Rheolwyr Clwstyrau Rhanbarthol ar gael ar gyfer ymgynghoriadau un i un er mwyn dysgu mwy am eich uchelgais o ddatblygu.

Cysylltwch â nhw YMA i drefnu eich ymgynghoriad un i un.

4 views0 comments
bottom of page