A hithau’n agos i ganol haf, mae sôn am y Nadolig yn ymddangos yn rhyfedd, ond os nad ydych wedi dechrau cynllunio eto i ateb y galw dros y Nadolig, gallai fod yn rhy hwyr.
Eleni bydd yn bwysicach nag erioed i chi gynllunio’ch gwaith cynhyrchu ymlaen llaw. Gan fod cadwyni cyflenwi dan bwysau am nifer o wahanol resymau, yn cynnwys diffyg logisteg a chynnydd aruthrol mewn costau yn gorfodi cyflenwyr i ddal llai o stoc, allwch chi byth ddechrau cynllunio’n ddigon cynnar.
Dyma rai camau syml y gall busnesau eu cymryd nawr i helpu i leihau’r risg o golli gwerthiant ar adeg o’r flwyddyn a ddylai fod yn un o’r rhai mwyaf cadarnhaol a phroffidiol.
Edrychwch yn ôl ar y cyfansymiau gwerthiant ar gyfer y ddwy flynedd “call” diwethaf, h.y. cyn y pandemig. Cofnodwch y niferoedd.Gwnewch nodyn o’r cwsmeriaid hynny rydych yn gwybod y gallwch ddibynnu arnynt am archebion. Galwch nhw i weld a allan nhw gadarnhau (mae bob tro’n beth braf cael archebion prynu). Wedyn gwnewch nodyn o’r rheini rydych yn credu y gallwch ddibynnu arnynt a’u galw nhw hefyd. Yna cymharwch y rhain â blynyddoedd blaenorol a rhag-weld beth fydd y balans posibl.
Nawr bydd gennych chi olwg gweddol ar y gwerthiant rydych yn ei ddisgwyl. Y gobaith yw y byddwch yn gallu rhag-weld rhywfaint o’r gwerthiant dros y Nadolig. Ond beth am y gwerthiant achlysurol hwnnw dros y Nadolig? Efallai y byddai gwneud rhagfynegiad ‘uchaf, canolig ac isaf’ o’r hyn a allai ddigwydd yn eich helpu i ffurfio rhagolygon ar gyfer cynhyrchiant, gwerthiant a chyfalaf gweithio?
Siaradwch â’ch cyflenwyr hefyd – yn enwedig cyflenwyr cynhwysion neu ddeunydd pacio i weld beth maen nhw’n ei rag-weld ar eich cyfer. Oeddech chi wedi rhoi unrhyw archebion munud olaf am ddeunydd pacio neu gynhwysion i gyflenwi archebion ychwanegol at y Nadolig? Byddai’r wybodaeth hon yn gallu’ch helpu i rag-weld y galw eleni.
Pa bryd y bydd angen i mi ddechrau cynhyrchu er mwyn cwrdd â’r galw? Mae hyn yn creu goblygiadau o ran cyfalaf gweithio. Ar un llaw, os oes cyfyngiadau ar gapasiti, bydd y gallu i rag-weld a chynhyrchu stoc yn golygu eich bod wedi gwneud defnydd da o adnoddau. Ar y llaw arall, gallech fod wedi rhwymo cyfalaf gweithio gwerthfawr.
Llif arian parod – edrychwch ar hyn ac wedyn adolygu’r cyfnodau talu ar gyfer cwsmeriaid rhag ofn bod modd i chi wella’ch sefyllfa o ran cyfalaf gweithio. Allwch chi leihau’ch diwrnodau dyledwyr er mwyn derbyn arian parod yn gynt a thalu am fwy o rediadau cynhyrchu?
Ydych chi’n gwybod beth oedd eich elw gros ar werthiant y Nadolig? A ddylech chi adolygu prisiau?
Mae’r amseroedd arwain ar gyfer deunydd pacio printiedig a blychau cardbord rhychiog yn hirach o lawer. Holwch y cyflenwr a rhoi archebion ymlaen llaw yn ôl ei ateb.
Ystyriwch beth fydd oes silff y stoc sy’n weddill os na fyddwch yn ei gwerthu dros gyfnod y Nadolig. Pa opsiynau sydd gennych chi?
Nid yw’n debygol y byddwch yn gallu rhag-weld y galw yn union ond peidiwch a llaesu dwylo a dim ond aros i’r archebion eich cyrraedd. Mae cynllunio ymlaen llaw yn atal perfformiad gwael.
Comentarios