Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cynaliadwyedd wedi dod yn flaenllaw yn amcanion busnes bwyd a diod, yn bennaf wrth ymateb i fentrau sefydliadol fel UN Sustainable Development goal 2: i ddod â newyn i ben, gwella maeth a hyrwyddo amaethyddiaeth gynaliadwy. Mae corfforaethau a brandiau mawr, fel Danone a Ben & Jerry’s, yn dechrau rhannu eu ‘bottom line’ yn dri, gan ganolbwyntio nid yn unig ar eu llwyddiant economaidd, ond ar eu heffaith gymdeithasol ac amgylcheddol hefyd. Fodd bynnag, gyda chorfforaethau mawr yn ymddangos fel pe baent yn chwarae Top Trumps ar addewidion drwy geisio bod yn well na’i gilydd ar dargedau cynaliadwyedd, sut felly mae disgwyl i fentrau bach a chanolig uwchraddio, tra hefyd yn rhoi sylw i gynaliadwyedd a chyfrifoldeb cymdeithasol hefyd?
Er mwyn tyfu, mae angen cyllid ar fusnesau. Fel rheol, mae pedwar math o gyllid ar gael i fusnesau:
Yn aml, y peth pwysicaf i fusnesau yn ystod eu cyfnod tyfu yw ecwiti. Mae'r cyllid hwn nid yn unig yn darparu ffynhonnell arian parod ond gellir ei ddefnyddio hefyd fel adnodd ar gyfer rhwydweithio a mentora, yn dibynnu ar y math o fuddsoddiad a gafwyd. Wedi dweud hyn, y broblem a gyflwynir yma yw, tra bod disgwyl cynyddol i fusnesau ofalu am eu ‘triple bottom line’, gall darpar fuddsoddwr gael ei anghymell gan y posibilrwydd y bydd ei hadenillion ar fuddsoddiad yn cael ei taflu i’r ochr oherwydd y ffocws ar amcanion eraill. Mae buddsoddiad er mwyn effaith yn helpu i bontio'r bwlch hwn, gan roi'r cyfle i fusnesau sy'n tyfu cynhyrchu enillion ariannol tra hefyd yn dilyn strategaeth fwy amgylcheddol gynaliadwy.
Beth yw hwn?
Mae Buddsoddiad er mwyn Effaith yn gyfystyr â thermau eraill, megis ESG (Environmental, Social and Governance), Buddsoddi Cymdeithasol Gyfrifol a Buddsoddi Cynaliadwy. Yn syml, buddsoddiad ydyw i gwmnïau sy'n ceisio sicrhau enillion ariannol tra hefyd yn gweithredu a chynhyrchu yn amgylcheddol gynaliadwy a hefyd yn gymdeithasol gynaliadwy.
Yn ôl y Global Impact Investing Network (GIIN), mae Buddsoddiad er mwyn Effaith werth oddeutu £380bn. Mae hyn yn arddangos yr awydd i fuddsoddi'n gynaliadwy, ac mae'n faes a fydd yn parhau i dyfu.
Mae buddsoddiad er mwyn effaith yn gyfrwng i fuddsoddwyr sefydliadol, fel cyfalafwyr Menter, a hefyd i fuddsoddwyr preifat, fel angylion busnes. Byddai'r buddsoddwyr hyn yn ceisio buddsoddi mewn busnesau sydd yn awchus i dyfu ac yn awchus i rannu eu hathroniaeth o gynaliadwyedd amgylcheddol a chymdeithasol. I'w roi yn syml: Mae'r buddsoddwyr hyn eisiau i'w harian wneud mwy na darparu enillion. Gall eich busnes ddenu buddsoddiad tra hefyd yn dilyn nodau cynaliadwy.
Gall hyn swnio'n wrth-reddfol; Nid yw'n datrys y broblem o orfod treulio mwy o amser ar ofalu am yr amgylchedd na thyfu eich busnes. Wedi'r cyfan, mae Buddsoddwyr yn dal i fod eisiau ennill arian hyd yn oed os yw'ch busnes yn gweithio tuag at fod yn garbon niwtral. Wedi dweud hynny, does dim rhaid i'r rhain fod yn amcanion sy'n annibynnol ar ei gilydd, a gall Buddsoddi er mwyn effaith eu helpu i weithio gyda'i gilydd.
Pam ddylech chi edrych ar Fuddsoddi er mwyn Effaith?
Mae'n dal i fod yn fath o gyfalaf
Mae buddsoddiad er mwyn effaith yn union fel cyfalaf ecwiti traddodiadol, ond trwy lens newydd, ac felly byddwch yn dal i dderbyn arian parod a fydd yn gwneud i'ch mantolen edrych yn iachach. Cyn belled â bod eich arian parod yn cael ei reoli'n dda a'ch bod yn cadw at gynllun busnes priodol, gall yr arian a gynhyrchir helpu i sbarduno twf mawr i'ch busnes. Nid yw buddsoddiad er mwyn effaith yn mygu twf, mewn gwirionedd, mae ymchwil gan Beauhurst yn awgrymu, bod cwmnïau yn y DU sydd wedi derbyn buddsoddiad yn ystod eu camau Cychwyn ac Uwchraddio, hanner yn fwy tebygol o lwyddo pe bai buddsoddwr effaith gymdeithasol yn eu cefnogi.
Graffeg wedi’i gymryd oddi ar Beauhurst
Bydd buddsoddwyr yn eich helpu
Yn yr un modd â buddsoddwyr cyfalaf traddodiadol Angel a Venture, mae Buddsoddi er mwyn Effaith yn dod â buddion anariannol fel mynediad at rwydwaith newydd (e.e cyflwyniadau ar hyd y gadwyn gyflenwi) a Mentora. Y ffordd y mae'n wahanol yw y bydd gan y rhai sy'n buddsoddi mewn cyfrifoldeb cymdeithasol ac amgylcheddol, ddiddordeb neu brofiad yn y mudiad ESG, ac felly byddant yn cael eu cymell i'ch tywys tuag at gyflawni eich nodau ariannol ac ESG.
Mae cynaliadwyedd yn boblogaidd
Nododd astudiaeth defnyddiwr gan Unilever fod traean o ddefnyddwyr bellach yn edrych i brynu oddi wrth frandiau y dangosir eu bod yn dilyn amcanion sy'n fwy cymdeithasol ac amgylcheddol gyfeillgar. Fel buddsoddwr Buddsoddwr er mwyn Effaith, bydd eich busnes a'ch brand yn cael ei gynrychioli fel un mwy credadwy a gallai, yn ei dro, arwain at fwy o ddiddordeb i ddefnyddwyr. Yn y cyfamser, o safbwynt cydymffurfio, mae sicrhau buddsoddiad er mwyn effaith yn golygu bod eich cwmni ar ei ffordd tuag at gyflawni model busnes cynaliadwy. Gyda gofynion adrodd ESG yn anelu at ddod yn orfodol ar draws economi'r DU erbyn 2025 (KPMG), bydd y busnes yn gweld y trawsnewid yn un hwylus.
Rydych chi'n gwneud gwahaniaeth
Fel rhan o brosiect cydweithredu rhwng The Impact Investing Institute a’r Good Economy, fe welwyd bod Cymru (ymhlith rhannau eraill o'r DU) wedi’i adael ar ôl o ran datblygu economaidd-gymdeithasol, neu o ganlyniad i COVID-19. Er mwyn helpu i wyrdroi hyn, nodwyd y bydd datgloi Buddsoddiad er mwyn Effaith yn cynorthwyo nid yn unig i ysgogi eich busnes, ond i'ch ardal leol hefyd.
Wedi dweud hyn, gall buddsoddiad er mwyn effaith ddod ag anfanteision hefyd. Gan ei fod yn tyfu mewn poblogrwydd, mae buddsoddiad er mwyn effaith yn wledd symudol, ac felly mae'n anodd deall yn llawn beth mae’r buddsoddwyr wir eisiau. Yn ogystal, trwy ddilyn y triple bottom line, bydd hyn yn gofyn am fwy o ymdrech i arddangos metrigau ariannol a chymdeithasol-amgylcheddol cadarnhaol.
Sut allwch chi ddenu buddsoddiad er mwyn effaith?
Yn yr un modd ag unrhyw gyfle i fuddsoddi, mae angen cynllun busnes cryf arnoch sy'n amlinellu eich strategaeth gwerthu a marchnata, ond, yn bwysicach efallai, y broblem rydych chi'n ei datrys. Yr allwedd i Fuddsoddi er mwyn Effaith yw datrys y broblem o ddyfodol cynaliadwy. Mae angen i chi brofi bod gennych chi gynnyrch neu broses arloesol a fydd yn helpu gyda'r broblem honno. Gall hwn fod yn gynnyrch hollol newydd sy'n tarfu ar y farchnad yn llwyr wrth fod yn gyfeillgar i'r amgylchedd (cynhyrchu algâu, proteinau amgen); neu gallai fod yn addasiad o gynnyrch neu broses newydd, megis byrhau'ch cadwyn gyflenwi i Gymru, a thrwy hynny feithrin cydweithredu, creu mwy o swyddi, a lleihau eich ôl troed carbon.
Mae angen i chi hefyd fod ymhell ar eich ffordd i fesur eich effaith ESG, neu fod â chynllun ar ei gyfer. Efallai na fydd gan fusnesau bach a chanolig gymaint o allu i wneud hyn, a dyna pam ei bod yn bwysig, yn gyntaf, i sefydlu eich amcanion, ac yna gosod DPA mesuradwy a all werthuso pa mor dda rydych chi'n cyflawni'r targedau hyn. Gall defnyddio meddalwedd mesur ôl troed carbon fel Carbon Analytics eich helpu i fesur eich allyriadau carbon o ddydd i ddydd trwy eich pecyn cyfrifyddu fel QuickBooks neu Xero. Ar ben hynny, gall dilyn cynlluniau achredu fel yr Ymddiriedolaeth Garbon neu statws B Lab’s B Corporation gynorthwyo i ganolbwyntio eich amcanion a helpu i nodi’r arfer gorau o fewn Buddsoddi er mwyn Effaith.
Mae angen i chi sicrhau eich rhesymau o Fuddsoddi er mwyn Effaith yn gywir. Nid yw buddsoddwyr ‘m ond yn buddsoddi yn y cynnyrch, maent yn buddsoddi yn y bobl hefyd. Mae hyn hyd yn oed yn fwy perthnasol ar gyfer Buddsoddi er mwyn Effaith, lle mae agweddau tuag at newid yn allweddol i gyflawni'r newid hwnnw. Mae angen i chi amgylchynu'ch hun gyda phobl o'r un anian sydd nid yn unig â'r craffter busnes priodol, ond sydd hefyd ag angerdd am hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol a chymdeithasol.
Casgliad
Mae buddsoddiad er mwyn effaith yma i aros. Gyda mwy a mwy o lwyfannau buddsoddi yn cynnig math o gronfa Buddsoddi er mwyn Effaith, mae'r galw am y triple bottom line yn tyfu. Fodd bynnag, nid oes rhaid i hyn gael effaith negyddol ar eich busnes. O'i drin yn gywir, gall buddsoddiad er mwyn effaith ddod â holl fanteision arferol buddsoddiad ecwiti, tra hefyd yn eich helpu i ddilyn eich nodau cymdeithasol-amgylcheddol a denu mwy o gwsmeriaid. Wedi dweud hynny, mae angen i chi sicrhau bod eich rhesymau am fuddsoddi er mwyn effaith yn gywir. Mae nodi'ch dyheadau ar gyfer buddsoddi, eich cynnydd hyd yn hyn, ac amgylchynu'ch hun gyda'r bobl iawn yn lle da i ddechrau. Fodd bynnag, os nad ydych yn teimlo eich bod yn barod i fentro, peidiwch â phoeni, gan fod digon o lwybrau amgen eraill i’ch helpu uwchraddio eich busnes.
Comments