Dylai Bwrdd cwmni fod yn dîm sy’n cynnwys sgiliau, gwybodaeth a phrofiad sy’n ategu ei gilydd. Mae’r Archwiliad o Sgiliau Bwrdd yn cofnodi lefel sgil, gwybodaeth a phrofiad pob aelod o’r Bwrdd. Bydd y canlyniad yn dangos y bylchau yn y busnes.
Wrth wneud Archwiliad o Sgiliau, cofiwch mai rôl ‘feddwl’ nid ‘gwneud’ yw llywodraethu, y sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol yw’r rheini sy’n galluogi aelodau’r Bwrdd i ofyn y cwestiynau iawn, dadansoddi data a chael trafodaethau penodol sy’n creu atebolrwydd cadarn.

Os hoffech siarad ag un o'n Rheolwyr Clwstwr Rhanbarthol, cysylltwch â ni FAN HYN.