Paul Bezani, Rheolwr Rhanbarthol y Clwstwr, De Ddwyrain Cymru
O ragamcanu gwerthiannau yn y dyfodol i reoli eich llif arian, mae llunio rhagolygon yn hynod bwysig i unrhyw fusnes. Yn anffodus, nid yw llawer o berchnogion busnes yn ymgysylltu â’r nac yn adolygu'r broses yn rheolaidd oherwydd, yn naturiol, maent yn brysur yn datrys problemau a chwilio am y gwerthiant nesaf! Fodd bynnag, unwaith y bydd eich rhagolygon ar waith, mae gennych lwybr da ar gyfer strategaeth, rheoli arian parod a gwneud gwell penderfyniadau.
Pam mae llunio rhagolygon mor bwysig?
Mae llunio rhagolygon yn llawer rhatach na’r gost o fethu - posibilrwydd go iawn os nad ydych chi'n rhagweld y gwahanol ffactorau annatod o redeg eich busnes. Yn fy ngyrfa o 35 mlynedd yn y diwydiant cadwyn gyflenwi bwyd, roedd llunio rhagolygon yn ganolog i bob penderfyniad a wneuthum. Dyma fy mhum rheswm pam y dylech flaenoriaethu amser ar gyfer llunio rhagolygon yn eich busnes:
1. Gwella eich rheolaeth llif arian:
Llif arian yw anadl einioes unrhyw fusnes sy’n gallu cael effaith negyddol cyflym os na chaiff ei reoli'n gadarn. Gall y mwyafrif o systemau cyfrifyddu roi trosolwg hanesyddo i chi o'ch llif arian, anaml y maent yn caniatáu ichi ragweld i’r dyfodol a gweld beth allai fod o'ch blaen. Yn nodweddiadol, nid yw busnesau bach a chanolig yn rhagweld problemau llif arian yn dod ac yn methu â rhagweld biliau mawr, sy’n gallu arwain at oblygiadau mwy na'r disgwyl.
2. Gwella'ch elw
Yn yr un modd â rheoli eich llif arian, bydd eich meddalwedd gyfrifo yn gallu dangos eich elw hanesyddol i chi, ond ni fydd yn gallu dangos i chi rhagolygon i’r dyfodol ar gyfer eich elw.
Mae llwyddiant eich elw a'ch llif arian yn dibynnu ar lawer o wahanol ffactorau ac mae pob un o'r rhain yn cael effaith ar eich llif arian a'ch elw yn y dyfodol. Dychmygwch pe bai chi’n gallu gweld effaith newid un neu ddau o'r ffactorau hyn? Mae'r penderfyniadau y gallech chi eu gwneud gyda'r wybodaeth honno bron yn ddiddiwedd ac yn amhrisiadwy!
3. Osgoi gwall ariannol neu weithredol posib
Boed yn llif arian, gwerthiant neu stoc, mae llunio rhagolygon yn rheolaidd yn rhoi golwg gliriach i chi i'r dyfodol a dylai grybwyll unrhyw rwystrau a allai effeithio’ch busnes. Mae hyn yn caniatáu ichi roi camau adfer ar waith i lywio unrhyw beryglon posibl yn llwyddiannus.
4. Gwneud penderfyniadau gwell
Mae gwybodaeth yn bwerus a bydd y wybodaeth y gallwch ei chasglu'n gyflym drwy lunio rhagolygon yn well yn caniatáu ichi wneud penderfyniadau mwy gwybodus a fydd yn golygu busnes cryfach.
5. Cynllunio ar gyfer twf
Yr unig ffordd y gallwch chi gynllunio twf eich busnes yn effeithiol ac yn ddibynadwy yw drwy lunio rhagolygon. Gallwch chi ragweld gwahanol sefyllfaoedd twf i weld pa rai sy'n hyfyw a pha rai sydd ddim. Bydd rhagolygon ariannol dibynadwy yn dangos i chi o ble y gallai'r posibiliadau ar gyfer twf ddod a beth allai'r amserlen debygol fod ar gyfer y twf hwnnw. Mae hefyd yn hanfodol os ydych chi'n gwneud cais am gyllid neu fuddsoddiad.
Gallai anfantais peidio â neilltuo amser ac ymdrech i lunio rhagolygon arwain at faterion fel: - diffyg gwybodaeth, problemau llif arian, gormod / dim digon o stoc a methu â chynllunio adnoddau yn ddigonol neu atal twf eich busnes.
Os hoffech wybod mwy am lunio rhagolygon neu angen cefnogaeth i ddeall sut i adeiladu model rhagolwg busnes, cysylltwch â Paul.
Paul yw Rheolwr Clwstwr Rhanbarthol De Ddwyrain Cymru ac mae'n cefnogi busnesau bwyd yn bennaf ym meysydd gweithredol caffael, rheoli costau, prosesau Gwybodaeth Reoli (ERP), rheoli stoc a gwytnwch busnes.
Oes gennych chi unrhyw gwestiynau? Siaradwch ag un o'n Rheolwyr Clwstwr, mae eu manylion cyswllt i'w gweld yma.
Comments