Mae’n anodd osgoi’r penawdau presennol am gostau cynyddol sy’n taro busnesau a defnyddwyr fel ei gilydd. Mae adroddiad Banc Lloegr ar gyfer mis Awst yn dangos bod gennym rai misoedd heriol o’n blaenau o hyd, felly mae’n bwysig nawr yn fwy nag erioed i gynllunio ymlaen llaw a bod yn barod. Mae Wyn Jones, ein Rheolwr Clwstwr Rhanbarthol yng Ngogledd Cymru, wedi treulio dros 37 o flynyddoedd yn gweithio yn y diwydiant bancio ac mae wedi wynebu rhai cyfnodau o ddirwasgiad yn ei yrfa!
Gofynnom i Wyn pa gamau y dylai busnesau bwyd a diod Cymru eu cymryd yn awr i reoli risg dros y misoedd nesaf:
Y camau cyntaf y gall busnes eu cymryd yw rhoi trefn ar bethau. Blaenoriaethu adolygiad o’r canlynol:
Cyflenwyr
Siaradwch â’ch cyflenwyr, gofynnwch am delerau estynedig os oes angen. Ystyriwch gynyddu nifer y cyflenwyr i ledaenu’r risg i’ch busnes.
Dyledwyr
Adolygwch eich rhestr dyledwyr bob dydd! Gwnewch yn siŵr eu bod yn glynu wrth y telerau rydych wedi cytuno arnynt a sicrhewch eich bod yn cymryd camau prydlon os nad ydynt. Cofiwch ymchwilio i statws credyd eich holl ddyledwyr hefyd er mwyn canfod unrhyw fflagiau coch.
Stoc
Os yw wedi bod yn gyfnod ers i chi gynnal archwiliad stoc, gwnewch un cyn gynted â phosibl – faint o stoc sydd gennych? A yw materion yn ymwneud â’r gadwyn gyflenwi yn dal yn berthnasol? Os nad ydynt, pam fod gennych gymaint o stoc ddiangen? Efallai fod gennych lawer mwy o gyfalaf gweithio nag rydych yn ei feddwl, ond ei fod wedi’i glymu mewn stoc ddiangen.
Goddefiant risg
Yn bwysicach na dim, gwnewch yn siŵr bod y rhifau ar flaenau’ch bysedd er mwyn i chi allu rhagweld yn rhwydd ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd a gwneud penderfyniadau mwy gwybodus am eich busnes, er enghraifft, beth fyddai’r effaith ar eich busnes pe bai’r gyfradd llog sylfaenol yn codi i 4%? Ydych chi’n defnyddio eich system Rheoli Gwybodaeth i’w llawn botensial? Oes gennych chi fodel costau ar waith i helpu gyda rhagolygon?
Y Camau Nesaf
Os hoffech chi siarad â’r Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy am reoli risg yn eich busnes bwyd neu ddiod, archebwch apwyntiad un-i-un cyfrinachol YMA yn un o’n Cymorthfeydd Uwchraddio ym mis Medi a Hydref
Manteisio i’r eithaf ar eich systemau cyfrifyddu a gwybodaeth reoli
Dod o hyd i'r math cywir o gyllid ar gyfer eich busnes
Deall proffidioldeb llinellau cynnyrch
Rhagolygon a modelu costau mewn byd ansicr
Uwchraddio eich busnes drwy ddatblygu cynnyrch newydd
Cynllunio strategaethau gadael/olyniaeth/caffael
Pryd a sut i gynyddu capasiti
Pryd i fuddsoddi mewn systemau Cynllunio Adnoddau Menter neu Gynllunio Gofynion Deunyddiau
Commentaires