top of page
Search

SSU Clwstwr Cylchlythyr - Mehefin 2022

Cyflwyniad

Roedd yn braf iawn gweld cynifer o fusnesau’n dod i’n cynhadledd Arian i Dyfu yn y Bathdy Brenhinol. Roedd llawer wedi dweud mor galonogol oedd gallu cwrdd wyneb yn wyneb unwaith eto, a chymaint roedden nhw wedi methu’r cyfleoedd hyn i rwydweithio. Roedd cymysgedd da o fusnesau bwyd a diod, darparwyr cyllid, buddsoddwyr a rhanddeiliaid eraill yn bresennol, fel bod digon o wybodaeth ddefnyddiol iawn ar gael ar y diwrnod. Os nad oeddech chi’n gallu bod yno ar y diwrnod, gallwch ddal i fyny â beth wnaethoch ei golli YMA a darllen blog John Taylerson isod am beth a ddysgodd yn y gynhadledd. Yn sgil ein cynhadledd, mae tîm y Clwstwr yn awyddus i fynd ar y ffordd a chynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau ledled Cymru – pob un â’r nod o hybu twf busnesau bwyd a diod yng Nghymru. Gwyliwch eich mewnflwch a’n tudalen digwyddiadau am fanylion y digwyddiadau hyn wrth iddyn nhw gael eu cyhoeddi.



Cost Arian: Buddsoddi Ecwiti – Beth Mae Hynny’n ei Olygu? Rhan 2

Wyn Jones, Rheolwr Clwstwr Rhanbarthol



Yn ein cylchlythyr diwethaf, roeddwn wedi edrych yn fwy manwl ar yr opsiynau ecwiti i fusnesau sydd fel arfer ar y camau cynnar yn eu cylch bywyd: arian y sefydlydd, ei deulu a’i ffrindiau; cyllido torfol; ac angylion busnes. Y tro hwn, byddaf yn edrych ar gyfalaf menter; ecwiti preifat; a chynigion cyhoeddus cychwynnol. Fel arfer, bydd yr opsiynau hyn yn fwyaf addas i fusnesau sydd wedi cael eu traed danynt yn bellach yn eu cylch bywyd.

Darllenwch ran dau YMA



Beth ddysgais i yn y gynhadledd Arian i Dyfu, gan John Taylerson



Ar 24 Mawrth, roeddwn yn bresennol yng nghynhadledd flynyddol gyntaf y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy yn y Bathdy Brenhinol gyda grŵp mawr o fusnesau bwyd a diod, banciau a chyllidwyr, cyfarwyddwyr anweithredol a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant i ddangos beth mae gweithgynhyrchwyr bwyd a diod yn gallu ei wneud ar raddfa fawr, a chlywed hefyd am y gefnogaeth ariannol sydd ar gael gan y cyllidwyr proffesiynol.

Darllenwch fwy YMA


Rhaglen Cyfarwyddwyr Anweithredol y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy


“Roedd gwendid yn ein strwythur drwy’r amser; doedd neb ond fi a oedd â phrofiad ar lefel uwch mewn busnes bwyd…”

Mike Woods, Rheolwr Gyfarwyddwr, Just Love Food


Cydnabod bod bylchau yng nghymwyseddau’ch cwmni yw un o’r heriau mwyaf y mae busnesau bwyd neu ddiod yn eu hwynebu wrth gynllunio i uwchraddio. Mae Rhaglen Cyfarwyddwyr Anweithredol newydd y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy yn ceisio helpu busnesau i ganfod y bylchau hynny yn eu gwybodaeth, sgiliau neu brofiad a chynnig ateb ar ffurf Cyfarwyddwr Anweithredol.


Mae Cyfarwyddwyr Anweithredol yn weithredwyr uwch profiadol sy’n cymryd golwg eang ar fusnes a’r sector ac sy’n gallu edrych yn fanwl ar strategaeth fusnes. Yn aml, byddant â rhan allweddol yn llywodraethiant y busnes, fel eu bod yn rhai y gellir troi atynt yn gyson wrth drafod penderfyniadau sy’n gallu effeithio ar y busnes.


Mae dau Gyfarwyddwr Anweithredol ar fwrdd y gweithgynhyrchydd teisennau heb alergenau, Just Love Food. Gallwch glywed y Rheolwr Gyfarwyddwr Mike Woods yn trafod ei brofiad o gydweithio â Chyfarwyddwyr Anweithredol YMA.


Sut allwch chi wybod a fyddai’ch busnes chi’n gallu elwa o benodi Cyfarwyddwr Anweithredol? Beth mae’n ei olygu? Gallwch ddarllen rhagor am Gyfarwyddwyr Anweithredol yma a lawrlwytho’r Matrics Sgiliau Bwrdd i’ch helpu i ganfod unrhyw fylchau yn eich busnes.


Beth sydd ar i fyny a beth sydd ar i lawr ym myd Cyllid


JamJar Investments yn codi cronfa o £100 miliwn i gefnogi cenhedlaeth newydd o frandiau heriol.

JamJar Investments yn codi cronfa o £100 miliwn i gefnogi cenhedlaeth newydd o frandiau heriol.

Darllenwch fwy YMA


Cynllunio at y Nadolig



A hithau’n agos i ganol haf, mae sôn am y Nadolig yn ymddangos yn rhyfedd, ond os nad ydych wedi dechrau cynllunio eto i ateb y galw dros y Nadolig, gallai fod yn rhy hwyr.


Eleni bydd yn bwysicach nag erioed i chi gynllunio’ch gwaith cynhyrchu ymlaen llaw. Gan fod cadwyni cyflenwi dan bwysau am nifer o wahanol resymau, yn cynnwys diffyg logisteg a chynnydd aruthrol mewn costau yn gorfodi cyflenwyr i ddal llai o stoc, allwch chi byth ddechrau cynllunio’n ddigon cynnar.


Darllenwch Blog John YMA


Adroddiad Blynyddol y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy 2021-22

Dros y blynyddoedd diwethaf, un thema sydd wedi codi’n gyson yn sector bwyd a diod Cymru yw’r angen i fusnesau allu uwchraddio’n gynaliadwy mewn ffordd sy’n fforddiadwy ac yn ymarferol. Mae gweledigaeth a datganiad cenhadaeth y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy yn hyrwyddo twf busnesau, ac mae’n gyson â strategaeth y sector, “Gweledigaeth ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod o 2021 – Adeiladu ar ein llwyddiant”, a lansiwyd gan Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd yn 2021.


Rydym yn falch o rannu adroddiad blynyddol cyntaf y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy sy’n disgrifio’r prif weithgareddau a themâu yn y flwyddyn gyntaf o ddatblygiad y clwstwr. Rydym hefyd wedi cynnig rhai ystyriaethau polisi ar sail yr heriau penodol y mae aelodau’r clwstwr yn eu hwynebu wrth geisio uwchraddio ar ôl y blynyddoedd cythryblus diwethaf. Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad i gyd.


AMRC – AI yn y Diwydiant Bwyd a Diod


Mae AMRC Cymru yn cydweithio â Llywodraeth Cymru ac FDF Cymru i helpu gweithgynhyrchwyr bwyd a diod i liniaru’r risgiau wrth arloesi a chyflymu twf cynaliadwy drwy gael mynediad at dechnolegau uwch er mwyn hyrwyddo gwelliannau, perfformiad ac ansawdd.


Bydd Mabwysiadu Deallusrwydd Artiffisial yn ffordd i ddelio â’r canlynol:


• Diffyg gweithwyr crefftus drwy helpu gweithwyr presennol i gyflawni eu tasgau’n fwy effeithlon.


• Lleihau gwastraff drwy ddarganfod anomaleddau ar linell gweithgynhyrchu neu rag-weld y galw am gynhyrchion er mwyn rheoli’r stocrestr yn effeithlon.


• Gwella safonau hylendid drwy fonitro gweithgareddau ar lawr y gwaith heb fod angen goruchwylio gan weithwyr llaw.


Mae AMRC yn ceisio pennu llinell sylfaen o’r dealltwriaeth o AI yn y sector bwyd a diod a byddai’n ddiolchgar os gallech sbario 5 munud i lenwi’r holiadur hwn


I gael gwybod rhagor am beth sydd gan AMRC i’w gynnig i fusnesau bwyd a diod yng Nghymru, rydym wedi trefnu ymweliad â’u cyfleuster gwych ger Brychdyn yn sir y Fflint ar ddydd Mawrth 28 Mehefin rhwng 9.00am a 11.30am. Lle i 20 o bobl sydd ar yr ymweliad – y cyntaf i’r felin gaiff falu.


I sicrhau lle, anfonwch e-bost at Angharad.evans@bic-innovation.com



Cysylltu!

Ydych chi’n gwmni bwyd a diod yng Nghymru sydd ag uchelgais i uwchraddio ond heb fod yn sicr ble i ddechrau? Mae ein Rheolwyr Clwstwr Rhanbarthol ar gael ar gyfer ymgyngoriadau un i un i gael gwybod rhagor am eich uchelgais am dwf.


Gallwch gysylltu â nhw YMA i drefnu ymgynghoriad.


3 views0 comments
bottom of page