Gall arloesi mewn cynnyrch newydd neu gynnyrch wedi’i addasu chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sbarduno twf mewn busnes bwyd neu ddiod. Er bod rhai busnesau’n cefnu ar arloesi a datblygu cynnyrch i arbed arian yn y cyfnod cythryblus hwn, mae perygl iddynt beidio ag addasu i amodau newydd yn y farchnad. Mae patrymau gwario defnyddwyr yn debygol o newid, ac, yn bwysicach na hynny, mae’n bosib bod eich cystadleuwyr eisoes yn mabwysiadu ffyrdd newydd a mwy cost-effeithiol o weithio ac yn lansio cynnyrch mwy deniadol.
Mae datblygu cynnyrch yn waith cymhleth ac amlddisgyblaethol sy’n gofyn am ffocws clir ac sy’n cyfrannu’n gadarnhaol at gyflawni eich nodau busnes cyffredinol. Mae’n cymryd amser, arian ac arbenigedd i fynd â’ch cynnyrch o’r cam cysyniad i’r cam lansio, felly mae angen i chi wneud yn siŵr y bydd yn dod â’r budd mwyaf i chi ac yn cyd-fynd yn agos â’ch nodau busnes. Mae hyn yn fwy gwir nag erioed yn amodau marchnad heriol heddiw gyda chwyddiant prisiau, cynnydd mewn costau, prinder llafur a defnyddwyr yn newid eu patrymau prynu gan fod ganddynt lai o arian i’w wario.
Mae’r Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy yma i gefnogi aelodau gyda Phecyn Cymorth Strategaeth Cynnyrch, a fydd yn darparu ffordd strwythuredig o feddwl am eich cynnyrch a thactegau eich busnes. Gan eich tywys drwy adolygiad o sefyllfa eich busnes, tirwedd gystadleuol y farchnad rydych yn gweithredu ynddi, a’ch annog i nodi eich cynnig unigryw, bydd y pecyn cymorth yn eich galluogi i wneud penderfyniadau mwy gwybodus am eich agenda datblygu cynnyrch, gan gynyddu’r cyfle i wneud elw llwyddiannus ar eich costau datblygu cynnyrch.
Pan fydd wedi’i lunio’n dda a’i weithredu’n gywir, mae datblygu cynnyrch yn gyfle pwysig i symud eich busnes yn ei flaen yn eich uchelgeisiau uwchraddio. Felly, beth am gwneud apwyntiad gyda un o Rheolwyr Clwstwr i ddarganfod mwy am y Pecyn Cymorth, yn ogystal â sut gallwn ni eich helpu i gysoni eich strategaeth cynnyrch â’ch cynlluniau uwchraddio?
Gall strategaeth cynnyrch eglur a chynllun datblygu cynnyrch newydd penodol sicrhau’r canlynol...
Comments