top of page
Search

Y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy yn cofrestru'r hanner canfed aelod

Wrth i’r Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy gyrraedd ei ben-blwydd cyntaf, rydym yn falch iawn o fod wedi cofrestru ein hanner canfed aelod busnes. Dan arweiniad y Rheolwr Clwstwr Rhanbarthol ar gyfer de-orllewin Cymru, Andrew Macpherson, y 50fed busnes i ymuno â’r Clwstwr yw The Welsh Saucery yng ngogledd Sir Benfro, sy’n creu sawsiau artisan i gyd-fynd â chynnyrch Cymreig. Dywedodd y cyd-berchennog, Steve Lewis, “Rydym yn falch iawn o gael ein derbyn i’r Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy a manteisio ar y cyfoeth o arbenigedd sydd ynddo. Rydym bellach yn dawel ein meddwl ac yn hyderus y gallwn dyfu ein busnes mewn ffordd a fydd yn gynaliadwy yn y tymor hir”.



Cafodd y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy ei lansio ym mis Ionawr y llynedd, a’i weledigaeth yw creu cymuned o fusnesau bwyd a diod Cymreig sy’n uchelgeisiol ac yn tyfu, gan sbarduno twf economaidd yn y sector a’r cymunedau y mae’r busnesau hyn yn gweithredu ynddynt.


Fel yr esbonia Rheolwr y Rhaglen Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy, John Taylerson, “Mae’r Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy yn dîm amlddisgyblaethol, sy’n cynnwys cyfrifwyr profiadol o’r sector bwyd a diod ynghyd ag uwch reolwyr o fyd bancio, marchnata a gweithrediadau. Mae’r tîm yn falch iawn eu bod wedi gallu cysylltu â, a helpu, busnesau bwyd a diod o Gymru sy’n amrywio o fusnesau bach i fusnesau sy’n werth miliynau o bunnoedd. Mae blwyddyn gyntaf y Clwstwr nid yn unig wedi golygu twf cyflym ond adferiad ac ailosod hefyd, oherwydd economeg gythryblus y cyfnod. Mae’r profiad a gynigir gan y tîm yn gwneud gwahaniaeth mawr i aelodau’r Clwstwr, ac rydym yn edrych ymlaen at gefnogi’r 50 nesaf!”


Dywedodd Jon Langmead, Prif Swyddog Cyllid Puffin Produce a chadeirydd Grŵp Cynghori’r Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy, “Mae’n newyddion gwych fod y Clwstwr Uwchraddio yn ymgysylltu â chymaint o fusnesau bwyd a diod sy’n awyddus i dyfu, er gwaethaf yr heriau a wynebwyd dros y blynyddoedd diwethaf. Fel cwmni sy’n tyfu ein hunain, rydym yn gwybod pa mor werthfawr yw cael y math hwn o arbenigedd wrth law i helpu busnesau i lywio taith o uwchraddio.”


Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru: “Mae’n newyddion gwych fod y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy wedi cofrestru ei hanner canfed aelod, lai na blwyddyn ar ôl dechrau.


“Rydym eisiau gweld ein sector Bwyd a Diod yng Nghymru yn parhau i ffynnu, ac mae’r Clwstwr yn cynnig cymorth pwysig i fusnesau sy’n awyddus i dyfu, gan gynnwys drwy gydweithio ag eraill ar yr un daith.


“Rwy’n dymuno’r gorau i bawb sy’n cymryd rhan nawr ac yn y dyfodol.”


Mae’r prosiect hwn wedi cael cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Cyflwynir gan BIC Innovation


14 views0 comments
bottom of page