top of page
Search

5 Rheswm Pam y Dylech Ddeall eich Cyfrifon

Fel perchennog busnes bwyd neu ddiod, mae’n hanfodol eich bod yn deall ac yn cymryd rheolaeth dros gyllid eich busnes; fodd bynnag, mi all hyn weithiau fod yn ddigon i’n brawychu a’n drysu os nad ydym wedi cael hyfforddiant mewn cyllid, ac oni dyna pam yr ydym yn talu am gyfrifydd?


Mae sawl rheswm pam y dylai perchennog busnes bwyd neu ddiod ddysgu deall eu cyfrifon yn well:


  1. Rheolaeth Ariannol: Mae deall eich cyfrifon yn eich galluogi i gael mwy o reolaeth ariannol dros eich busnes. Gallwch gadw golwg ar eich incwm a threuliau, monitro eich llif arian, a gwneud penderfyniadau gwell ar ble i ddyrannu eich adnoddau.

  2. Canfod Cyfleoedd a Heriau: Drwy adolygu eich cyfrifon, gallwch ganfod meysydd lle’r ydych yn perfformio’n dda a meysydd lle mae angen gwelliant. Mae hyn yn eich galluogi i gymryd camau i fanteisio ar gyfleoedd a rhoi sylw i unrhyw heriau.

  3. Cynllunio ar gyfer y Dyfodol: Bydd deall eich cyfrifon yn eich helpu i gynllunio ar gyfer dyfodol eich busnes. Gallwch ddefnyddio data ariannol i bennu cyllidebau, rhagamcanu gwerthiant, a gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch buddsoddiadau yn eich busnes.

  4. Cydymffurfio â Threthiant: Fel perchennog busnes, rydych yn gyfrifol am gydymffurfio â’r cyfreithiau a’r rheoliadau treth. Bydd deall eich cyfrifon yn eich helpu i baratoi eich ffurflenni treth yn fanwl ac osgoi cosbau costus.

  5. Adroddiadau Ariannol: Bydd dealltwriaeth dda o’ch cyfrifon yn eich galluogi i baratoi adroddiadau ariannol, fel datganiadau elw a cholled a mantolenni, sy’n bwysig i ddangos perfformiad ariannol eich busnes i randdeiliaid, fel buddsoddwyr a benthycwyr.


Os hoffech chi ddysgu mwy, mae ein cyfres o weminarau ‘Sut allaf i gael Gwell Rheolaeth Ariannol dros fy Musnes?’ sy’n ymdrech i egluro mewn iaith glir sut y gallwch fanteisio ar eich data cyfrifyddu i reoli eich busnes ac i wneud penderfyniadau allweddol, rhywbeth nad yw eich cyfrifydd yn cael ei dalu i’w wneud!


“…siaradwyr da sy’n egluro pethau’n glir. Mi ges i lawer o wybodaeth ddefnyddiol o’r sesiwn – pethau nad oeddwn yn gwybod amdanynt (croniadau/ rhagdaliadau/ dibrisiad ac ati) sydd i gyd yn bethau a fydd yn ein helpu i gael adroddiadau wythnosol / misol yn gywir yn y dyfodol” un a fynychodd weminar



11 views0 comments
bottom of page