top of page

Rhys Llywelyn:

Rheolwr Clwstwr Rhanbarthol

Mae Rhys yn gweithio gyda busnesau bwyd a diod o Gymru i ddod o hyd i farchnadoedd newydd. Fel perchennog busnes ei hun, mae gan Rhys ddealltwriaeth dda o’r heriau sy’n wynebu busnesau bach a chanolig yn yr hinsawdd bresennol.

Cyn ymuno a'r Clwstwr bu Rhys yn gweithio yn y diwydiant cig coch am 6 blynedd gan arwain isadran Datblygu Marchnadoedd Hybu Cig Cymru, gan ddatblygu busnes manwerthu a gwasanaethau bwyd yn y DU ac o gwmpas y byd. Gyda phrofiad eang o farchnata a datblygu busnes mewn sectorau mor amrywiol â thwristiaeth, bwyd a thechnoleg cyfathrebu, mae Rhys wedi gweithio ar draws y sector preifat a chyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt.

bottom of page