top of page
Search

Yr hyn a Ddysgwyd am Gynhyrchiant yn Cynhyrchiant: Trefnu er mwyn Tyfu

Ar 2 Chwefror croesawyd Lesley Griffiths AS i’r Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy i agor yr ail gynhadledd flynyddol yn swyddogol yng nghyfleusterau gwych AMRC Cymru (Y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch) ym Mrychdyn, Sir y Fflint, gyda chynhyrchiant fel thema’r dydd.


Roedd y siaradwyr ar yr agenda’n amrywio o Brif Economegydd Santander i’r arbenigwr mewn arloesi Tom Abbott o Marks and Spencer, gydag amrywiaeth o arbenigwyr mewn cynhyrchiant a busnesau bwyd a diod yn gwmni iddynt.


Diffiniwyd cynhyrchiant gan Frances Haque, Prif Economegydd Santander, fel mesur o allbwn gan unigolion. Yn syml, yr uchaf yr allbwn y pen, y mwyaf cynhyrchiol fydd eich busnes. Fodd bynnag, mae ychydig yn fwy cymhleth na hynny ac aeth Frances ymlaen i ddangos cymariaethau rhwng gwledydd a’r gwahaniaethau rhwng diwydiannau. Deuthum i ddeall fod gweithgynhyrchu bwyd yn amrywio o gynnyrch prif ffrwd hynod o effeithlon i gynhyrchwyr artisanal sydd efallai’n llai effeithlon, ac sy’n gwneud iawn am eu cyfraddau cynhyrchu is drwy sianelau premiwm.


Bu aelodau ein panel yn trafod materion gan gynnwys lleihau costau mewnbynnau, cynyddu allbynnau a mesur y broses gynhyrchu mewn ffordd sydd wedi helpu i wella’r broses honno. Y casgliad oedd mesuriadau gwell, rheoli stoc yn well ac, wrth gwrs, gwneud gwell defnydd i ryddhau capasiti fel y gellir amsugno costau gorbenion drwy niferoedd mwy. Nododd dau o’r panelwyr mai meddwl a phrosesau syml oedd y gyfrinach.


Amlygodd Rheolwr Gyfarwyddwr Radnor Hills, William Watkins, y materion hyn a thynnodd sylw at broblemau pob dydd cynhyrchion, deunydd pacio, a chyflwyno rheoliadau newydd yn ogystal â chwilio am farchnadoedd newydd i gynyddu niferoedd. Tynnodd sylw at berthynas agos y cwmni â’i bartner awtomeiddio sydd wedi eu helpu i fuddsoddi mewn technoleg newydd.


Soniodd Tom Abbott o M&S am y tyndra rhwng gofynion y timau Gweithrediadau a oedd am gael system gynhyrchu esmwyth a’r angen i arloesi ac i ddatblygu cynnyrch newydd a’r aflonyddwch sy’n rhwym o ddod yn eu sgil.



Roedd talu am welliannau i gynhyrchiant yn destun trafod pwysig. Barn y banciau oedd, rhagolygu, rhagolygu a rhagolygu eto - gan ddefnyddio cynllunio senarios i ddangos yr achosion gorau, gwaethaf a thebygol. Maent yn chwilio am achosion busnes sy’n dangos y gwelliannau i effeithlonrwydd a all ddod yn sgil cynyddu capasiti neu fod modd gwneud arbedion drwy ddefnydd effeithlon o fewnbynnau fel ynni, tasgau wedi’u hawtomeiddio neu ddefnydd gwell o gyfarpar.


Yn olaf, dangosodd ein cydweithwyr yn AMRC enghreifftiau gwych i ni o sut y gellir mapio prosesau a chanfod diffygion am gyfran yn unig o’r gost y byddai pobl wedi’i dychmygu. Rheoli ansawdd cynnyrch AI am lai na £500, bargen sydd hefyd yn rhyddhau pobl i wneud pethau eraill.


Gadawodd dros 100 o gynrychiolwyr y gynhadledd wedi’u hysbrydoli i edrych eto ar eu cynhyrchiant a sut maent yn ei fesur. Wedi’r cyfan, fel y dywedodd y Gweinidog wrth y cynrychiolwyr ar ddechrau’r gynhadledd, “mae’r hyn sy’n cael ei fesur yn cael ei reoli!”


Os hoffech chi siarad ag un o’r Rheolwyr Clystyrau am gynhyrchiant yn eich busnes, cysylltwch â ni YMA.

9 views0 comments
bottom of page