top of page
Conference Background-12.png
Productivity-ShapeUpToScaleUp Logo (CY WHITE)

Apwyntiadau 1:1 

A ydych yn ystyried cyrchu buddsoddiad ar gyfer eich busnes bwyd neu ddiod?  I archwilio pa atebion a allai fod ar gael, bwciwch eich apwyntiadau 1:1 am ddim ymlaen llaw gyda'r arbenigwyr isod. 

​

Bwciwch apwyntiad YMA.

1-1 Appointments-08.png

Mae Rhodri Evans yn Ddirprwy Reolwr Cronfa gyda Banc Datblygu Cymru, yn gweithio fel rhan o’r tîm Buddsoddiadau Newydd. Gyda dros 20 mlynedd o brofiad o gyflawni buddsoddiad dyled ac ecwiti ar draws sectorau a maint busnesau amrywiol, mae Rhodri wedi gweithio gyda nifer o fusnesau gweithgynhyrchu bwyd ledled Cymru i gyflawni eu cynlluniau twf.

Speakers Cymreag-13.png

Mae cefnir Tim yn y diwydiant bwyd, fel Cyfarwyddwr Whitworths a Northern Foods, nid o fanc, felly mae'n deall eich prosiectau a sut i'w hariannu. Mae'n siarad eich iaith chi, a nhw nawr, gan wneud cyllid yn haws ei gael.

1-1 Appointments-09.png

Mae Mark yn Rheolwr Perthynas sydd wedi bod gyda HSBC ers dros 12 mlynedd. Ei rôl yw deall cyfleoedd, heriau a chynlluniau twf busnesau bach a chanolig. Mae Mark yn darparu cynhyrchion ac atebion a fydd yn helpu busnesau i gyflawni eu nodau.

1-1 Appointments-11.png

Ar hyn o bryd mae Simon yn gweithio gyda Thîm Bancio Masnachol NatWest yn gofalu am bortffolio o fusnesau gweithgynhyrchu sy'n wynebu heriau o ran y gadwyn gyflenwi, prinder ynni a llafur, cefnogi twf a chynorthwyo'r busnesau hynny sy'n dymuno troi at awtomeiddio ac agenda Sero Net. Mae'n darparu atebion gan weithio ochr yn ochr â'r farchnad allanol / asiantaethau'r Llywodraeth.

1-1 Appointments-07.png

Ymunodd Ian â Bathgate Business Finance yn 2014. Yn ystod ei 35 mlynedd yn y diwydiant cyllid, mae Ian wedi gweithio mewn bancio masnachol, cyllid anfonebau, a masnach ryngwladol. Mae Ian wedi datblygu perthynas gref gyda banciau, cyfrifwyr, a gweithwyr proffesiynol eraill, ac wedi defnyddio ei brofiad i helpu cleientiaid i ddod o hyd i atebion cyllid ar gyfer eu hanghenion.

1-1 Appointments-10.png

Mae Paul yn Gyfarwyddwr Perthynas i Fanc Barclays gydag arbenigedd arbennig mewn gweithgynhyrchu, manwerthu a chyfanwerthu. Mae gan Paul bortffolio o 40 o gleientiaid BBaCh corfforaethol, gyda throsiant o hyd at £100m, a rhwydwaith cryf o gysylltiadau proffesiynol a pherchnogion busnes yn ardal Gogledd Cymru a Chaer.

1-1 Appointments New-15.png

Mae Joan yn gyfrifydd cymwysedig sy'n arwain y Rhaglen Barod Am Fuddsoddiad yn helpu perchnogion busnes i ddeall eu systemau ariannol a'r wybodaeth bwysig sydd ynddynt. Mae Joan hefyd yn helpu cwmnïau i ddod o hyd i fuddsoddiad trwy grantiau, sefydliadau ariannol, neu ecwiti preifat.

1-1 Appointments New-16.png

Mae’r Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd (FBAS) wedi’i gynllunio i helpu’r busnesau hynny sy’n cynnig manteision clir a mesuradwy i’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru. Mae’r FBAS yn cwmpasu buddsoddiadau cyfalaf mewn offer prosesu a seilwaith, ynghyd â rhai costau cysylltiedig ag yn cefnogi prosiectau sy’n cynnig manteision clir a mesuradwy i’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.

Lloyds-08.png

Mae gan Trevor dros 20 mlynedd o brofiad yn helpu busnesau bach a chanolig gyda thwf a llwyddiant busnes.  Mae fy meysydd arbenigedd yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i: gwasanaethau bancio corfforaethol a masnachol, cyllid corfforaethol, rheoli cyfalaf gweithio, masnach y DU a rhyngwladol, cynllunio busnes a strategaeth, Rheoli risg credyd, dadansoddi a benthyca.   

Sam-18.png

Fel rhan o dîm Arloesi Llywodraeth Cymru, mae Samantha yn gweithio i gefnogi cyfleoedd cydweithredol a arweinir gan y Diwydiant gyda sefydliadau ymchwil ledled Cymru.

Sam Galt-20.png

Mae Santander Navigator yn coladu ein blynyddoedd o brofiad a gwybodaeth mewn un porth ar-lein i'ch helpu ar eich taith i fasnach ryngwladol. Mae Navigator yn borth i nodi cyfleoedd twf, archwilio marchnadoedd newydd, llywio heriau biwrocrataidd, optimeiddio logisteg, ac adeiladu cysylltiadau. Mae Bwyd a Diod yn un o'n 5 sector sy'n ymroddedig i Navigator  a gall gynorthwyo gydag is-sectorau ychwanegol gan gynnwys gweithgynhyrchu bwyd a diod, diodydd, gwasanaeth bwyd, iechyd a lles a Halal.

bottom of page