top of page
Background

Pontio’r Bwlch

Nod Pontio'r Bwlch, a ffurfiwyd yn 2021, yw mynd i’r afael â’r rhwystrau y mae entrepreneuriaid o leiafrifoedd ethnig ac aelodau o’r gymuned yn eu hwynebu o ran dechrau a thyfu busnesau, fel y nodwyd mewn ymchwil a gynhaliwyd gan Fanc Busnes Prydain, ac sy’n cael ei ddangos hefyd yn Adroddiad Rose.

Arweinir y grŵp gan yr entrepreneur bwyd Maggie Ogunbanwo, sydd hefyd yn aelod o Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, a Bernie Davies, siaradwr TEDx ac enillydd y wobr Cynhwysiant ac Amrywiaeth.  

Wrth sôn am ddatblygu’r grŵp Pontio’r Bwlch, dywedodd Maggie, “Yn ôl yn hydref 2021, roeddem yn falch iawn o gynnal taith o BlasCymru/TasteWales i arddangos talent ac arloesedd y sector bwyd a diod yng Nghymru.  Roedd aelodau o’n grŵp yn gallu cwrdd ag arbenigwyr a darparwyr cyllid a allai eu cefnogi gyda’u syniadau busnes a’u twf. 

Maggie asking Q 3.jpg

Wrth dderbyn y stori, ychwanegodd Bernie “Mae aelodau’r grŵp wedi gweld llawer o effeithiau cadarnhaol, gan gynnwys mwy o hyder mewn busnes a gwell ymwybyddiaeth ariannol. Mae Mis Hanes Pobl Dduon wedi bod yn gyfle delfrydol i ddal i fyny ac ystyried sut mae cymorth y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy wedi effeithio ar eu busnesau dros y 12 mis diwethaf. Rydym nawr yn brysur yn cynllunio cam nesaf cymorth Pontio’r Bwlch, sy’n cynnwys mentora 1:1 a gweminarau cyllid. Edrychwn ymlaen at weld pa ganlyniadau y byddant yn eu cyflawni i’r grŵp” 

Mae’r Rheolwr Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy Andrew Macpherson, sy’n gweithio’n agos gyda’r grŵp, yn egluro “Mae’r Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy wedi ffurfio Pontio'r Bwlch i ddarparu mynediad gwell i berchnogion busnesau bwyd a diod sydd o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru at wybodaeth am y sectorau bwyd a diod, mynediad gwell at y cyllid priodol a chyfleoedd i ddechrau a thyfu busnes bwyd neu ddiod yng Nghymru. Felly mae’n galonogol iawn gwylio cyfweliadau Maggie a Bernie gydag aelodau’r grŵp a chlywed am eu llwyddiannau”  

​

Gallwch wylio cyfweliadau Maggie a Bernie gydag aelodau Pontio’r Bwlch isod:

Deall gwahanol fathau o cyfryngau masnach ac Eiddo Deallusol (IP) ar gyfer busnesau bwyd a diod

Bydd y cyflwyniad hynod addysgiadol hwn gan Capital Law yn esbonio’r gwahanol fathau o fasnachu sydd ar gael ar gyfer busnesau bwyd a diod, o fasnachwr unigol neu bartneriaeth gyffredinol i gwmni cyfyngedig trwy gyfranddaliadau, yn ogystal ag edrych ar Eiddo Deallusol (ED) a’r gwahaniaethau rhwng hawlfraint, nodau masnach a phatentau, sut i sicrhau bod eich busnes yn cael ei ddiogelu'n briodol

bottom of page