POLISI PREIFATRWYDD
CYFLWYNIAD
​
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro pa ddata personol yr ydym yn ei gasglu, pam a sut yr ydym yn ei gasglu, yr hyn a wnawn ag ef a pha mor hir y byddwn yn ei gadw.
​
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich data personol ac rydym ond yn casglu data personol sy’n berthnasol i’r gwaith a wneir ar eich cyfer.
​
Gallem newid y polisi hwn o bryd i’w gilydd. Dylech wirio’r dudalen hon ar ein gwefan er mwyn gwirio p’un ai ydych yn hapus neu beidio â sut rydym yn ymdrin â data personol.
​
Daw’r polisi hwn i rym o fis 2021
PWY YDYM NI?
​
Mae BIC Innovation Limited yn gwmni cyfyngedig cofrestredig yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cwmni 05092027. Rydym yn gweithio gyda busnesau er mwyn eu helpu i gyflawni eu potensial o ran twf. Rydym yn gweithio gyda busnesau naill ai’n uniongyrchol neu drwy gyflwyno rhaglenni cynorthwyo a ariennir gan y sector cyhoeddus.
Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i BIC Innovation Limited.
​
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisi preifatrwydd hwn, neu unrhyw ymholiadau eraill ynghylch diogelu data, cysylltwch â’n Rheolwr Data ar datacontroller@bic-innovation.com
BETH YW DATA PERSONOL?
​
Data personol yw “unrhyw wybodaeth yn ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn benodol trwy gyfeiriad at adnabyddwr”. Mae hyn yn golygu bod unrhyw wybodaeth amdanoch chi yn eich galluogi i gael eich adnabod. Mae’n cynnwys gwybodaeth amlwg fel eich enw, cyfeiriad e-bost a manylion cyswllt yn ogystal â ffurfiau eraill o ddata.
PA DDATA PERSONOL YDYN NI’N EI GASGLU?
​
1. Rydym yn casglu, defnyddio, cadw, prosesu a throsglwyddo data sylfaenol amdanoch chi a’ch cwmni er mwyn darparu gwasanaethau a/neu gyflwyno rhaglenni a ariennir gan y sector cyhoeddus sy’n berthnasol i’ch busnes. Mae’r math o wybodaeth yr ydym yn ei chasglu yn cynnwys:
​
2. Eich enw, teitl eich swydd, cyfeiriad e-bost busnes, rhifau ffôn cyswllt (ffôn llinell ddaear a/neu ffôn symudol), enw’r cwmni, maint y cwmni, amcangyfrif o drosiant blynyddol (gan gynnwys trosiant allforio lle y bo’n berthnasol), sector diwydiant, cyfeiriad ar y we.
​
3. Manylion talu gan gynnwys manylion banc neu fanylion cerdyn credyd ar gyfer talu am wasanaethau
​
4. Gallem dynnu lluniau neu ffilmio digwyddiadau felly gallai fod gennym lun ohonoch yn eich cofnodion. Rydym bob amser yn rhag-rybuddio dirprwyon os rydym yn bwriadu tynnu llun o ddigwyddiad neu ei ffilmio a chaiff mynychwyr y cyfle i roi neu wrthod caniatâd. Gallai gweminarau a chyfarfudydd ar-lein gael eu recordio.
​
5. Fel rhan o unrhyw weithgareddau recriwtio, gallem gasglu a defnyddio categorïau arbennig o ddata personol yn ôl yr angen wrth gyflawni ein rhwymedigaethau. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth fel hanes eich addysg a chyflogaeth, hunaniaeth, gwiriadau i’ch cefndir (gan gynnwys gwiriadau troseddol ac ariannol priodol a chadarnhad o hawl i weithio yn y DU), geirda, iechyd, tarddiad hiliol, cred grefyddol, a throseddau neu droseddau honedig.
​
6. Gwybodaeth a gasglwyd trwy ddefnyddio cwcis ar ein gwefan – Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i’ch gwahaniaethu chi rhag eraill sy’n defnyddio ein gwefan. Mae hyn yn ein helpu ni i’ch darparu chi â phrofiad ardderchog pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan ac yn ein caniatáu ni i wella ein gwefan.
​
6.1 Caiff y casgliad hwn o ddata ei ddefnyddio ar gyfer dadansoddiad ystadegol am ein gwefan. Ni fydd unrhyw wybodaeth a rennir yn eich enwi, ond bydd yn hytrach yn ddata mathemategol am ein hymwelwyr a’u defnydd ar ein safle, Nid yw’r data yn dosbarthu unrhyw fanylion personol.
​
6.2 Efallai y caiff cwcis eu defnyddio i gasglu’r data rhyngrwyd cyffredinol hwn. Pan fyddant yn cael eu defnyddio, bydd cwcis yn cael eu lawrlwytho i’ch cyfrifiadur yn ddigymell. Caiff y ffeil cwcis ei storio ar eich disg galed, ble caiff ffeiliau eu trosglwyddo. Mae’r wybodaeth hon yn ein helpu i wella ein gwefan a’n gwasanaethau i chi. Gall pob cyfrifiadur rwystro cwcis drwy roi’r gosodiadau pori cywir ar waith. Mae lle i’ch galluogi chi i wrthod cwcis o dan y ddewislen opsiynau. Sylwch, os byddwch yn gwrthod cwcis, efallai y byddwch yn cael eich cyfyngu i rai ardaloedd yn unig ar ein safle.
​
6.3 Ar y wefan hon, rydym yn defnyddio cyn lleied o gwcis â phosibl, yn cadw’r swm lleiaf o wybodaeth sydd ei hangen arnom, am amser mor fyr â phosibl a cheisio ond defnyddio cwcis sy’n hanfodol i’ch darparu chi â’r Gwasanaethau neu i wella’ch profiad fel defnyddiwr.
DATA PERSONOL SENSITIF
​
Yn nodweddiadol, nid ydym yn casglu categorïau sensitif neu arbennig o ddata personol am unigolion. Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddwn ar adegau yn casglu a phrosesu categorïau arbennig o ddata megis:
​
1. Cyfyngiadau o ran diet neu ofynion mynediad wrth i chi gofrestru am ddigwyddiadau allai ddatgelu credoau crefyddol neu gyflyrau meddygol/iechyd corfforol
​
2. Gwybodaeth a ddarperir i ni gan ein cleientiaid yn ystod cysylltiad proffesiynol
​
3. Dogfennau hunaniaeth personol fel manylion pasbort allai ddatgelu tarddiad hiliol neu ethnig
DATA AR BLANT
​
Nid yw ein gwasanaethau ar gyfer plant o dan 13 oed; felly, nid ydym yn fwriadol yn casglu gwybodaeth am na chan unigolion o dan 13 oed. Os byddwch yn ymwybodol ein bod wedi derbyn data personol am blentyn, cysylltwch â’n Rheolwr Data ar datacontroller(at)bic-innovation.com.
SUT RYDYM YN CASGLU DATA PERSONOL?
​
Rydym yn casglu data personol oddi wrthoch chi ac amdanoch chi trwy amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys:
​
1. Pan fyddwch yn cofrestru am wybodaeth neu gylchlythyron ar ein gwefan
​
2. Gwneud ymholiad, gwneud cais am unrhyw un o’n gwasanaethau neu’n eu derbyn, gan gynnwys y gwasanaethau hynny a ddarperir ar ran rhaglenni cynorthwyo busnes a ariennir yn gyhoeddus
​
3. Mynychu ein digwyddiadau, gweminarau, cyfarfodydd
​
4. Gwneud cais am wybodaeth marchnata am ein gwasanaethau a rhaglenni cyflwyno
​
5. Llenwi arolwg
​
6. O drydydd parti fel ein partneriaid sector cyhoeddus e.e. Llywodraeth Cymru, Innovate UK
​
7. Pan fyddwch yn ei ddarparu i ni’n uniongyrchol fel rhan o’n darpariaeth gwasanaeth i chi
​
8. Pan fyddwch yn rhyngweithio â ni trwy safleoedd rhwydweithio cymdeithasol a phroffesiynol fel LinkedIn, Twitter.
​
9. Rydym yn casglu gwybodaeth yn ymwneud â’ch ymweliadau i’n gwefan ac unrhyw adnoddau a ddefnyddiwyd gennych. Ni fydd unrhyw wybodaeth a rennir yn eich enwi, ond yn hytrach yn ddata mathemategol am ein hymwelwyr a’u defnydd ar ein safle
SUT RYDYM YN DEFNYDDIO EICH DATA PERSONOL?
​
Mae BIC Innovation yn cyflwyno gwasanaethau yn uniongyrchol i gleientiaid ac yn cyflwyno rhaglenni cymorth ar ran cyrff y sector cyhoeddus. Caiff y wybodaeth bersonol yr ydych yn ei darparu i ni ei defnyddio er mwyn:
​
1. Anfon gwybodaeth berthnasol atoch chi am wasanaethau, rhaglenni cynorthwyo busnesau a allai fod o ddiddordeb i’ch busnes
​
2. Gofyn i chi gyfranogi mewn arolwg busnes perthnasol
​
3. Darparu ein gwasanaethau, cyngor a chyflwyno adroddiadau
​
4. Anfon gwahoddiadau a darparu mynediad priodol i westeion sy’n mynychu ein swyddfeydd, digwyddiadau a gweminarau. Mae hyn yn cynnwys unrhyw ddigwyddiadau neu weminarau ar ran partïon eraill fel Llywodraeth Cymru
​
5. Gwneud trefniadau teithio ar eich rhan, gan gynnwys, er enghraifft, trefniadau teithio er mwyn cyfranogi mewn cenhadaeth fasnach dramor neu deithiau astudio
​
6. Cyflwyno ein rhwymedigaethau cytundebol o fewn y rhaglenni a ariennir gan y sector cyhoeddus yr ydym yn eu rheoli
​
7. Ar gyfer dadansoddi ystadegol er mwyn ein caniatáu i wella ein gwefan.
EIN SYLFAEN GYFREITHIOL AR GYFER PROSESU DATA PERSONOL
​
Gallem ddibynnu ar y rhesymau cyfreithlon canlynol pan fyddwn yn casglu ac yn defnyddio data personol er mwyn gweithredu ein busnes a darparu ein gwasanaethau:
​
1. Cytundeb: mae’n bosibl y byddwn yn prosesu data personol er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau cytundebol i’n cleientiaid a’n partneriaid yn y sector cyhoeddus
​
2, Caniatâd: mae’n bosibl y byddwn yn dibynnu ar eich caniatâd a roddir yn rhydd ar yr adeg y rhoddoch chi eich data personol i ni
​
3. Buddiannau cyfreithlon: mae’n bosibl y byddwn yn dibynnu ar fuddiannau cyfreithlon ar sail ein gwerthusiad bod y prosesu yn deg, rhesymol a chytbwys ac nad yw’n niweidio unrhyw rai o’ch hawliau a’ch buddiannau. Byddem yn defnyddio buddiannau cyfreithlon fel rheswm cyfreithiol i gyflawni marchnata uniongyrchol o fusnes i fusnes gan gyflwyno newyddion am ddiwydiant a gwybodaeth arbenigol yr ydym yn credu ei bod yn berthnasol ac yn cael ei chroesawu gan ein cleientiaid busnes sydd wedi rhyngweithio gyda ni. Pan fyddwn yn dibynnu ar ein buddiant cyfreithlon fel sail i brosesu eich data personol, gallwch ofyn i ni beidio; mae hyn yn cynnwys peidio â thanysgrifio i’r cylchlythyr rydym yn ei ddosbarthu yn ystod cyfnod cyflwyno ein gwasanaeth/rhaglen. Rhaid i ni ufuddhau i hyn, oni bai ein bod yn credu bod gennym reswm pwysicach cyfreithlon i barhau i brosesu eich data personol fel rhwymedigaethau cytundebol
YDYN NI’N RHANNU DATA PERSONOL?
​
Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu data personol gyda thrydydd parti dibynadwy er mwyn ein cynorthwyo i gyflwyno gwasanaethau effeithlon o ansawdd da. Mae hyn yn cynnwys ein partneriaid trydydd sector fel Llywodraeth Cymru, Innovate UK, Partneriaethau Menter Lleol, partneriaid academaidd a phartneriaid cyflwyno rhaglenni eraill
Mae’n bosibl y byddwn yn gweithio mewn cydweithrediad â thrydydd parti cyfrifol arall er mwyn iddynt ein cynorthwyo i gyflwyno gwasanaethau a/neu raglenni a ariennir gan y sector cyhoeddus. Bydd y trydydd parti hwn yn derbyn y lleiafswm o ddata personol er mwyn iddynt gyflawni eu rhan o’r broses o gyflwyno gwasanaeth/rhaglen. Bydd ein cytundebau a’n trefniadau â nhw yn mynnu na ddylid defnyddio eich data am unrhyw reswm arall.
Byddwn yn rhannu gwybodaeth bersonol ag asiantaethau ac awdurdodau perthnasol, a heb rybudd, pan fydd cais i ni wneud hynny neu pan fydd amheuaeth o weithgaredd twyllodrus/troseddol.
​
Efallai y byddwn yn gwneud gwiriadau credyd gydag asiantaethau dibynadwy os oes angen i ni gadarnhau eich hunaniaeth a’ch hanes credyd.
​
Mae bron yr holl ddata sydd gennym amdanoch yn cael ei gadw ar weinyddion diogel o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Yn yr amgylchiadau cyfyngedig pan allai eich data personol gael ei drosglwyddo y tu allan i’r AEE, byddwn yn cymryd camau addas er mwyn sicrhau y caiff eich data personol ei drin yr un mor ddiogel ag y byddai o fewn y DU.
​
Caiff gwybodaeth sy’n deillio o gwcis ei rhannu gyda Google a’i defnyddio ar gyfer Google Analytics, y gellir ei chadw gan Google ar weinyddion o fewn yr AAE neu UDA. Mae pob gweithred gan Google o ran data unigolion yn y DU yn ddarostyngedig i’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol ac nid ydynt yn dangos pwy yw ymwelwyr unigol.
Nid ydym byth yn gwerthu eich data personol i sefydliadau eraill fel asiantaethau marchnata uniongyrchol.
PA MOR HIR FYDDWN NI’N CADW DATA PERSONOL?
​
Byddwn ond yn cadw eich data personol mor hir ag sydd angen er mwyn cyflawni’r dibenion y gwnaethom ei gasglu ar eu cyfer, gan gynnwys rhwymedigaethau cytundebol, gofynion cyfreithiol ac adrodd.
DOLENNI I WEFANNAU ERAILL
​
Nid yw’r polisi preifatrwydd hwn yn cynnwys dolenni o fewn y safle hwn sy’n cysylltu â gwefannau eraill. Rydym yn argymell eich bod yn darllen yr hysbysiadau preifatrwydd ar y gwefannau eraill yr ydych yn ymweld â nhw cyn cyflwyno unrhyw ddata personol ar y safleoedd hynny.
BETH YW EICH HAWLIAU?
​
O dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, mae gennych amrywiaeth o hawliau, gan gynnwys:
​
1. Yr hawl i gael gwybod ein bod yn casglu ac yn defnyddio eich data personol
​
2. Yr hawl i gael mynediad i’r data personol sydd gennym amdanoch
​
3. Yr hawl i gywiro unrhyw ddata anghywir neu anghyflawn
​
4. Yr hawl i gael gwared ar y data personol sydd gennym amdanoch
​
5. Yr hawl i gyfyngu neu atal prosesu eich data personol
​
6. Yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol ar sail buddiannau cyfreithlon
​
7. Yr hawl i gael gafael ar eich data personol a’i ailddefnyddio ar gyfer eich dibenion eich hun
​
Gellir cael rhagor o wybodaeth am hawliau unigol o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth https://ico.org.uk/for-organisations/guide-to-the-general-data-protection-regulation-gdpr/individual-rights/
​
Gallwch ymarfer eich hawliau drwy gysylltu â ni ar datacontroller(at)bic-innovation.com
PA MOR AML FYDDWN NI’N NEWID EIN POLISI PREIFATRWYDD?
​
Byddwn yn adolygu’r polisi preifatrwydd hwn ac yn arddangos unrhyw ddiweddariadau ar y wefan hon.
​
​
MARCHNATA E-BOST
​
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth i ddarparu ein newyddion a'n digwyddiadau diweddaraf i chi. Gallwch newid eich meddwl trwy ddiweddaru'ch dewisiadau trwy'r ddolen yn unrhyw un o'n negeseuon e-bost.
​