top of page
Background

Y Rhaglen Lleoliadau Myfyrwyr Uwchraddio Cynaliadwy

Gwybodaeth am y Rhaglen Lleoliadau Myfyrwyr

​

Ar y cyd ag Ysgol Fusnes Caerdydd, roedd y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy wedi treialu rhaglen lleoliadau myfyrwyr a oedd yn cefnogi myfyrwyr i ymuno â chwe busnes gweithgynhyrchu bwyd uchelgeisiol yng Nghymru lle roeddent wedi cyflawni prosiect rheoli mewn amryw o feysydd arbenigol, gan gynnwys adnoddau dynol, y gadwyn gyflenwi, marchnata, rheolaeth gyffredinol a chyllid.

 

Dechreuodd y chwe myfyriwr llwyddiannus, a oedd yn ail flwyddyn eu gradd BSc mewn Rheoli Busnes yn Ysgol Fusnes Caerdydd, gyda’u busnesau cynnal ym mis Ionawr 2022 am gyfnod o 20 wythnos. Yn ystod eu cyfnod gyda’r busnesau, daethant i ddeall y cwmni, ei gynnyrch, ei amcanion a’r heriau a wynebir gan fusnesau bwyd bach a chanolig uchelgeisiol yng Nghymru. Nod y prosiect peilot hwn oedd cyfrannu’n uniongyrchol at effeithlonrwydd a/neu allu’r busnes cynnal i uwchraddio. Yn ogystal â derbyn cefnogaeth ac arweiniad gan y busnes cynnal, cafodd y myfyrwyr eu mentora gan diwtoriaid o Ysgol Fusnes Caerdydd a chan arbenigwyr o’r diwydiant yn y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy. 

CWRDD Â’R MYFYRWYR

Cliciwch ar enw’r myfyriwr i gael rhagor o wybodaeth.

Y BUSNESAU

Craddoc's Logo.jpg
Castle-Dairies.jpg
Just Love Food.png
SSULockedLogo-01_edited.png
logo.webp
SamosaCo_Logo_500x.png.webp
Terrys-gold.jpg
Alex Hicks 03.jpg

“Yn Ysgol Fusnes Caerdydd rydym yn gwneud amrywiaeth o leoliadau gwahanol. Mae’r lleoliad penodol hwn yn rhaglen flaenllaw ar gyfer yr ysgol. Roedd y cynllun peilot wedi bod yn bosibl drwy’r berthynas â Linda a BIC Innovation a rhywfaint o gyllid gan y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy. Roedd yn ffordd wych i fusnesau bwyd a diod bach a chanolig yng Nghymru gael gafael ar y myfyrwyr disgleiriaf yn Ysgol Fusnes Caerdydd.”

ALEX HICKS |RHEOLWR LLEOLIADAU

YSGOL FUSNES CAERDYDD

bottom of page