Cyfarwyddwyr Anweithredol
Rôl Cyfarwyddwr Anweithredol
Llywodraethu a Gwybodaeth
A ydych chi wedi gweithredu yn y sector bwyd a diod ac yn deall amgylchedd cyfreithiol a rheoleiddiol y sector? A oes gennych chi brofiad ar lefel Cyfarwyddwr? Bydd NED yn deall beth sy’n dda ac yn cyfrannu at rediad effeithiol Bwrdd y Cyfarwyddwyr.
Profiad
‘Yn hen law arni!’ A allwch chi ddangos profiad personol o gyfarwyddo neu arwain busnes drwy gyfnod tyfu llwyddiannus? Mae NEDs wedi cael llwyddiant ardderchog o fewn cwmpas rôl benodol e.e. ariannol, gweithrediadau, cadwyn gyflenwi, gwerthu neu farchnata. A allwch chi roi eich hun yn esgidiau cyfarwyddwyr eraill a’r tîm rheoli, a dangos bod gennych chithau hefyd brofiad a dealltwriaeth o’r sefyllfaoedd maen nhw yn eu hwynebu? Yn enwedig os yw’r sefyllfa yn un anodd ac yn newid yn gyflym.
​
Mae NEDs hefyd wedi sefydlu rhwydweithiau dibynadwy ac fe allant ddefnyddio adnoddau maent yn ymddiried ynddynt o’r tu allan pan fo hynny’n briodol.
Yn edrych ar y Darlun Mawr
Bydd NEDs yn meddwl yn strategol ac yn deall pwysigrwydd gweledigaeth a diben y busnes, ac yn cadw golwg ar nodau ac amcanion tymor hwy. A ydych chi’n gallu gofyn cwestiynau perthnasol a deall data perfformiad allweddol, heb orfod turio i mewn i’r manylder?
Sgiliau
A ydych chi’n hoffi herio’r status quo? Bydd NEDs yn awgrymu neu’n argymell dulliau gwahanol gyda phendantrwydd a dadl resymedig, ac mae hynny’n gwneud sgiliau cyfathrebu da ar bob lefel yn hanfodol, ond yn enwedig gyda chyd-gyfarwyddwyr er mwyn herio’r darlun mawr, a chyfeiriad a strategaeth y busnes yn barhaus.
Egni ac Ymrwymiad
Mae angen i NEDs fod yn ymroddedig ac yn wrthrychol am lwyddiant y busnes, a bod yn gallu gyrru drwy broblemau ac anawsterau a allai godi ar y ffordd. A oes gennych chi’r egni i gymell cydweithwyr?
Cymwysterau
Er nad oes dim cymwysterau penodol y dylai NED feddu arnynt, mae’n helpu os yw eich datblygiad proffesiynol parhaus yn ddiweddar neu eich bod yn aelod o sefydliad proffesiynol. Dylech hefyd gadw mewn cysylltiad â’r tueddiadau diweddaraf a bod â chyswllt da ag arbenigedd yn y maes o’ch dewis.
Podlediad: George Adams & John Taylerson
Ydych chi'n ddarpar Gyfarwyddwr Anweithredol? Ydych chi'n teimlo bod gennych chi'r profiad, y sgiliau a'r wybodaeth i gefnogi busnes ar eu taith ehangu?
I ddarganfod beth sydd ei angen i fod yn NED llwyddiannus mae ein Rheolwr Rhaglen, John Taylerson, yn ymweld â George Adams i ddarganfod mwy am y rôl.
Mae George wedi’i benodi’n ddiweddar gan Fanc Datblygu Cymru yn Gadeirydd Anweithredol y busnes twf uchel Cymreig, Just Love Food.
Rhwymedigaethau
​
Mae’n bwysig cydnabod bod y dyletswyddau, y cyfrifoldebau a’r rhwymedigaethau cyfreithiol posibl ar gyfer NEDs yr un fath ag ar gyfer cyfarwyddwyr gweithredol, hyd yn oed os ydych yn ‘gweithredu’ fel cyfarwyddwr, heb ystyried a ydych wedi eich cofrestru neu eich penodi’n swyddogol gyda ThÅ·’r Cwmnïau ai peidio. Gall NED sy’n tramgwyddo’r dyletswyddau neu’r rhwymedigaethau hyn gael ei ddwyn i gyfrif a’i anghymhwyso dan y Ddeddf Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmni 1986, yn yr un modd â chyfarwyddwyr gweithredol. Sicrhewch eich bod yn deall yn iawn yr hyn a ddisgwylir gennych chi, a’r hyn rydych chi’n atebol amdano cyn ymrwymo.
Llenyddiaeth bellach ar gyfrifoldebau cyfarwyddwr:
Deddf Cwmnïau 2006 – fel cyfarwyddwr, rhaid ichi gyflawni set o 7 o ddyletswyddau dan Ddeddf Cwmnïau 2006.
UK.gov – Bod yn gyfarwyddwr cwmni
Deall eich rôl fel cyfarwyddwr cwmni a’ch cyfrifoldebau i DÅ·’r Cwmnïau.
Camau Nesaf
​
A ydych chi’n teimlo y gallech chi fod yn addas i helpu busnes bwyd neu ddiod Cymreig fel Cyfarwyddwr Anweithredol?
​
A ydych chi’n gallu dod â safbwynt ffres a diduedd i fusnes?
A ydych chi’n gallu helpu busnes i dyfu yn gyflymach drwy ganfod cwsmeriaid, partneriaid busnes, cyflenwyr, aelodau tîm neu fuddsoddwyr newydd?
​
A oes gennych chi brofiad y tu allan i’ch busnes eich hun?
​
A ydych chi’n gallu helpu busnes i edrych ar ei berfformiad a’i strategaeth i sicrhau ei fod yn gweithredu’n effeithiol?
​
A ydych chi’n gallu helpu i gael gafael ar fuddsoddiad?
​
Os ydych chi wedi ateb ‘ydw’ i un neu ragor o’r cwestiynau hyn ac fe hoffech gynnig eich hun fel NED, llenwch y ffurflen datganiad o ddiddordeb isod, wedyn bydd aelod o dîm y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy yn cysylltu â chi i drafod ymhellach.