top of page
Background

Cyllid Ased

Y MANTEISION A'R ANFANTEISION: CYLLID ASED VS BENTHYCA

CYLLID ASED - HURBRYNU (HP) A PHRYDLESU

Ni ddylid cymysgu hurbrynu a phrydlesu, er eu bod nhw yn tueddu i gynnig ffordd debyg o gaffael peiriannau, offer a cherbydau. Mae'r gwahaniaeth allweddol yn ymwneud â phwy sy'n berchen ar yr ased / offer, p'un a yw'n ymddangos ar eich mantolen ai peidio, ac, o ganlyniad, pwy all hawlio'r TAW yn ôl.

 

Mae hurbrynu yn golygu mai chi fydd yn berchen ar y cerbyd neu offer yn y pen draw, ond nid nes bod y taliad terfynol wedi'i setlo. Mae'n caniatáu prynu cerbydau ac offer dros gyfnod penodol gyda thaliadau misol.

 

Mae dau fath o brydlesu: prynu ar brydles sy'n galluogi chi i brynu'r cerbyd neu offer dros gyfnod penodol, a chi fydd yn ei berchen; neu logi contract, prydlesu sylfaenol lle nid yw'r cerbyd neu'r offer yn eiddo i chi, ac yn cael ei ddanfon yn ôl i'r prydleswr pan mae'r cytundeb yn gorffen.

MANTEISION

ANFANTEISION

Llif Arian: Yn caniatáu ichi ledaenu cost prynu asedau ar gyfer eich busnes. Mae'r llog fel arfer yn sefydlog sydd yn golygu bod chi'n gwybod yn union faint y byddwch chi'n ei wario

Yn addas ar gyfer prynu asedau newydd a rhai ail-law

Os na allwch barhau â'r ad-daliadau, dim ond yr ased dan sylw sy'n cael ei hawlio’n ôl, nid yw rhannau eraill eich busnes yn cael ei effeithio. Ond, byddech yn parhau i fod yn atebol am unrhyw ddiffyg ac yn debygol o gael CCJ yn erbyn y busnes

Hawdd ei drefnu ac yn aml yn gyflym i'w dderbyn

Yn ddrytach na defnyddio arian parod yn y tymor hir oherwydd llog a thaliadau gwasanaeth. Mae cyfraddau llog fel arfer yn ddrytach na chyfraddau benthyciadau traddodiadol

Mae'r ased yn rhan o'r sicrwydd ariannol, felly geith ei dynnu pe baech yn syrthio’n ôl gyda eich ad-daliadau

 

 

Fel arfer mae angen taliad arian parod ymlaen llaw ar ffurf blaendal

​

Gall canslo'r cytundeb fod yn gostus pe bai defnyddioldeb yr ased yn darfod

BENTHYCIADAU BANC

Gall benthyciadau banc fod yn ddewis arall da i helpu prynu ased. Mae benthyciadau banc yn tueddu i fod naill ai wedi'u sicrhau neu'n ddiwarant.

 

Mae sicrhau benthyciadau yn golygu bod arwystl cyfreithiol neu ddyledeb yn erbyn asedau'r busnes neu'r perchnogion, ac fel rheol mae'n rhatach na benthyciad diwarant.

 

Ond cofiwch, mae unrhyw asedau a addawyd fel diogelwch mewn perygl tan y ad-delir neu ail-drafodir benthyciad. Mae dyled heb ei sicrhau yn tueddu i fod am gyfnod byrrach ac mae'n costio mwy na rhai wedi'i sicrhau.

MANTEISION

ANFANTEISION

 

Mae benthyciadau banc traddodiadol gyda chyfraddau llog isel fel arfer, yn enwedig pan gânt eu sicrhau. Yn aml mae ganddyn nhw gyfraddau llog is nag ased cytundebau prynu

​

Mae cyfraddau llog sefydlog ar gael ac felly fyddwch yn gallu rhagweld eich taliadau misol

Trwy brynu ased gyda benthyciad chi sydd yn berchen ar yr ased ar unwaith a gallwch wneud yr hyn yr ydych yn dymuno ag ef

​

Mae defnyddio benthyciad banc i bob pwrpas yn eich gwneud yn brynwr ‘arian parod’ ac o bosibl yn gallu negodi prisiau llai neu delerau gwell gan y gwerthwr

Yn aml, sicrheir benthyciadau yn erbyn asedau eich busnes ar sail sefydlog ac fel y bo'r angen, ac felly os na fyddwch yn gwneud ad-daliadau, gall y rhain cael ei adfeddiannu gan y banc. Yn ogystal, gall fod gofyn i chi ddarparu'ch asedau personol fel diogelwch

Trwy brynu ased gyda benthyciad banc, rydych chi yn gyfrifol ar unwaith am unrhyw waith cynnal a chadw y tu allan i warant

Gall y broses ymgeisio fod yn anodd, yn enwedig gyda banciau traddodiadol, gyda'r busnes yn aml yn gorfod darparu rhagolygon P&L a llif arian, yn ogystal â chynlluniau busnes yn profi o lle bydd yr ad-daliad yn dod

Mae yna gostau amrywiol fel ffioedd trefniant, llog a ffioedd setlo cynnar

NODWCH:

Bwriad y ddogfen hon yw bod yn gymorth i'ch helpu chi i ystyried gwahanol fathau o gyllid a pha rai a allai fod yn briodol i'ch busnes; nid yw'n ganllaw cynhwysfawr i bob math o gyllid. Gallai fod goblygiadau treth a chyfreithiol gwahanol yn gysylltiedig â gwahanol fathau o gyllid. Dylid ceisio cyngor treth a chyfreithiol proffesiynol i baratoi ar gyfer y gwahanol fathau hyn o gyllid.

bottom of page