1) Cyfrifwch faint sydd angen i chi ei fenthyg, pam mae ei angen arnoch chi, a sut y byddwch chi'n ei ad-dalu. Ychwanegwch hyn i'ch cynllun busnes
2) Ymchwiliwch i'r benthyciadau sydd ar gael sy'n gweddu orau i'ch anghenion.
3) Gwnewch restr fer o'r benthycwyr rydych am ofyn am ddyfynbris. Bydd rhai banciau yn fwy addas i'ch busnes nag eraill.
4) Gwiriwch eich sgôr credyd, os oes angen ei wella, darllenwch ein blog ‘Gwella Eich Sgôr Credyd' i gael awgrymiadau.
5) Ystyriwch a ydych chi'n barod i gynnig sicrwydd yn erbyn y benthyciad, ac os felly, yr hyn sydd gennych ar gael. Gall sicrwydd roi ffynhonnell arall o ad-daliadau i'r banc os ydych yn diffygdalu, yn ogystal â chynyddu eu hyder ynoch i allu ad-dalu'r benthyciad.
6) Paratowch y dogfennau y bydd y banc eisiau gweld:
- Cyfrifon llawn a ffurflenni treth
- Datganiadau banc am y 6 mis diwethaf
-rhagolygon (llif arian a P&L yn hollbwysig)
- Cynllun busnes
- Prawf perchnogaeth / cyfarwyddiaeth
7) Gwnewch gais - gadewch i'r banciau wybod y byddwch chi'n siopa o gwmpas. Fodd bynnag, peidiwch â gwneud cais i fwy nag un banc ar yr un pryd, gall hyn effeithio'n negyddol ar eich sgôr credyd.
8) Cyn llofnodi am fenthyciad, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n deall cost lawn y goblygiadau, gan gynnwys:
- Hyd y tymor
- Ffioedd
- Costau cyfradd llog misol
- Cosbau am daliadau hwyr neu ddiffyg talu
NODWCH:
Bwriad y ddogfen hon yw bod yn gymorth i'ch helpu chi i ystyried gwahanol fathau o gyllid a pha rai a allai fod yn briodol i'ch busnes; nid yw'n ganllaw cynhwysfawr i bob math o gyllid. Gallai fod goblygiadau treth a chyfreithiol gwahanol yn gysylltiedig â gwahanol fathau o gyllid. Dylid ceisio cyngor treth a chyfreithiol proffesiynol i baratoi ar gyfer y gwahanol fathau hyn o gyllid.