top of page
Background

Angylion Busnes

Unigolion sy’n gwneud buddsoddiadau mewn busnesau twf uchel posib yn gyfnewid am ecwiti yw angylion busnes. Gwneir hynny’n aml drwy brynu cyfranddaliadau yn y cwmni. Yn aml mae cwmnïau sy'n tyfu yn chwilio am angylion er mwyn iddyn nhw ariannu’r broses ehangu, boed hynny drwy ddatblygu cynnyrch, caffael busnes arall neu i ariannu gwariant cyfalaf.

 

Fel arfer, mae angylion busnes yn entrepreneuriaid neu’n fuddsoddwyr profiadol sydd eisoes â phrofiad o dyfu busnes naill ai fel buddsoddwr neu o'r tu mewn. Maen nhw’n aml yn chwarae rôl debyg i fentor, gan helpu'r sylfaenydd a'r tîm rheoli i wella sgiliau a fydd yn helpu i ddatblygu’r busnes ymhellach.

 

At hynny, bydd gan angylion busnes gysylltiadau busnes allweddol, sy’n gallu helpu busnes i dyfu drwy rwydweithio.

 

Mae faint o arian y gallech ei dderbyn yn dibynnu ar faint rydych ei eisiau, ym mha gam y mae eich busnes, eich rhagolygon twf a gwerth eich busnes ar hyn o bryd.

 

Weithiau bydd angylion busnes yn dod at ei gilydd i fuddsoddi swm mwy o arian. Gelwir hyn yn syndicet angylion busnes, ac mae hyn yn addas i fusnes sy'n chwilio am fuddsoddiad mwy o faint.

Maint Arferol y Buddsoddiad: £5,000 - £500,000 (Unigolyn) £50,000 - £2m (Syndicet)

Cyfran: Fel arfer llai na 30%

Amserlen: 7-10 Mlynedd

MANTEISION

ANFANTEISION

Gall fod yn fath rhad o gyllid. Nid yw llawer o angylion yn disgwyl enillion difidend, ond yn hytrach enillion cyfalaf.

Bydd angylion yn llysgenhadon ar gyfer eich busnes ac yn cynnig cymorth busnes, gan gynnwys help i’ch cyflwyno i bobl drwy rwydweithio.

Mae'n rhoi hyder yn eich cynnyrch a all helpu i gael cyllid ychwanegol wrth y banc.

Yn weddol hawdd ei sefydlu (o'i gymharu â buddsoddiadau eraill drwy gronfeydd cyfalaf menter neu gyllido torfol).

Yn gwanhau perchnogaeth y sylfaenydd o'r busnes.

Efallai y bydd angen taliadau llog ar drefniadau y gellir eu trosi, sef benthyciadau y gellir eu trosi'n ecwiti yn hwyrach.

Nid oes unrhyw sicrwydd y byddwch yn cyd-dynnu â'ch buddsoddwr, a allai arwain at gwrthdaro.

NODWCH:

Bwriad y ddogfen hon yw bod yn gymorth i'ch helpu chi i ystyried gwahanol fathau o gyllid a pha rai a allai fod yn briodol i'ch busnes; nid yw'n ganllaw cynhwysfawr i bob math o gyllid. Gallai fod goblygiadau treth a chyfreithiol gwahanol yn gysylltiedig â gwahanol fathau o gyllid. Dylid ceisio cyngor treth a chyfreithiol proffesiynol i baratoi ar gyfer y gwahanol fathau hyn o gyllid.

bottom of page