CHUN YU CHU (AYU)
JUST LOVE FOOD COMPANY
Cawsom sgwrs gydag Ayu tuag at ddiwedd ei lleoliad i ofyn ychydig o gwestiynau iddo am ei gyfnod yng nghwmni Just Love Food.
Helo Ayu, beth wyt ti wedi bod yn ei wneud yn Just Love Food Company yn ystod dy leoliad?
Rwy’n rheoli’r broses o ailgyflenwi deunyddiau crai, gan sicrhau bod gan y ffatri ddigon o gynhwysion i gynhyrchu’r holl gacennau mewn pryd. Mae hyn yn golygu cyfri’r stoc, ailarchebu deunyddiau gan wahanol gyflenwyr yn y ffordd fwyaf effeithiol / briodol o ystyried y gwahanol sefyllfaoedd. Mae fy rôl yn rhan annatod o weithrediadau Just Love Food gan fy mod yn eu galluogi i greu’r nifer fawr o gynhyrchion a wneir ar y safle. Rwyf hefyd yn rheoli’r gadwyn gyflenwi a logisteg yn absenoldeb y rheolwr logisteg, yn yr ystyr o greu adroddiadau dyddiol ar raddfa cwmni cyfan.
Yn dy farn di, sut mae’r Rhaglen Lleoliadau Myfyrwyr wedi helpu o ran dy baratoi ar gyfer dechrau dy yrfa?
Mae wedi fy ngalluogi i gael profiad o fyd gwaith proffesiynol, drwy brofi’r da a drwg. Rwyf hefyd wedi cydnabod fy mod, o ran dyfodol fy ngyrfa, yn dymuno cael rôl fwy creadigol gan nad yw fy nhasgau presennol yn rhoi lle i fod yn greadigol. Mae’r cyfle hwn wedi gwneud i mi sylweddoli hefyd nad oes gennych brofiad o rai swyddogaethau mewn busnesau ac maent yn gallu ymddangos yn frawychus, ond mae’n wastad yn braf gwneud eich gorau glas, a dyna wnes i.
​
Pa sgiliau wyt ti wedi’u dysgu wrth fod ar leoliad yn Just Love Food?
Rwyf wedi dysgu llawer yn broffesiynol ac yn bersonol. Rwyf wedi dysgu sut i reoli sector hanfodol o fusnes. Fel sut mae creu nifer o fathau o adroddiadau, megis stociau mewnol a symudiadau cadwyni cyflenwi, rhagolygon sy’n cael eu cyflwyno i gyflenwyr i helpu i reoli deunyddiau crai, yn ogystal â lefelau uchel o gwrteisi wrth gyfathrebu ar draws cwmnïau. Er hynny, rheoli amser ydy’r sgil fwyaf rwyf wedi’i datblygu.
I gloi, a fyddet ti’n argymell y Rhaglen Lleoliadau Myfyrwyr i fyfyrwyr eraill, a pham?
Yn sicr, byddwn yn argymell hyn i fyfyrwyr eraill oherwydd mae’n rhoi blas i chi ar y byd go iawn ac yn rhoi profiad na fyddai’r un myfyriwr arall ar y cwrs yn gallu ei gael. Hefyd, mae’n rhoi llawer o foddhad pan rydych yn sylweddoli eich bod wedi cael dylanwad mawr ar eich cwmni.
Mae’r Rhaglen Lleoliadau Myfyrwyr wedi bod yn hynod fuddiol gan fod gan y myfyriwr a leolwyd y gallu a’r agwedd i wneud gwahaniaeth. Mae wedi bod yn bleser pur cael Ayu yn gweithio gyda ni am 20 wythnos a byddai’n dda petai’n aros am fwy o amser. Mae ei ymroddiad a’i frwdfrydedd, ynghyd â’i allu, wedi golygu ei fod yn aelod gwerthfawr o’r tîm. Roedd Ayu yn sicr yn cael mwy o effaith ac wedi bod angen llai o gefnogaeth nag yr oeddem wedi'i ddisgwyl. Daeth cyfle i Ayu ymgymryd â rhan o rôl rhywun a adawodd y busnes yn fuan ar ôl iddo ddechrau. Roedd hyn wedi rhoi rôl ‘go iawn’ i Ayu o ddydd i ddydd, yn hytrach na’n bod ni wedi gorfod dod o hyd i brosiectau penodol ar ei gyfer. Bu hyn yn llwyddiannus iawn iddo ef ac i’r cwmni.