Cyfalaf Menter Corfforaethol
Yn debyg i gyfalaf menter, mae cyfalaf menter corfforaethol yn ymwneud â buddsoddiadau ecwiti a wneir gan gorfforaeth (neu ei endid buddsoddi ar wahân) mewn busnesau bach, arloesol y gellir eu datblygu ymhellach. Lle bo cyfalaf menter yn cynnig cyllid fel un buddsoddiad ecwiti unigol, ar gyfer cyfalaf menter corfforaethol, oherwydd yr adnoddau sydd ar gael, megis dechrau y mae’r buddsoddiad ecwiti cychwynnol. Yn aml, gall corfforaethau gynnig cyllid dyled, yn ogystal â mynediad hanfodol i sianeli marchnata a dosbarthu corfforaethol.
Mae cyfalaf menter corfforaethol yn gweithredu’n debyg i gyfalaf menter neu angylion busnes wrth drosglwyddo gwybodaeth a chymorth strategol neu fusnesau cyffredinol. Mae'n bwysig bod gwerthoedd ac amcanion eich busnes yn cyd-fynd â’r gorfforaeth.
Mae amcanion cyfalaf menter corfforaethol yn debyg mewn rhai ffyrdd i gyfalaf menter arferol, sef bod y buddsoddiad yn cynnig rhyw fath o enillion ariannol. Serch hynny, amcan allweddol arall yw bod cyfalaf menter corfforaethol yn ystyried y buddsoddiad fel ffordd o ddatblygu gallu strategol eu corfforaeth h.y. mae’n cynnig mynediad i farchnad y gallai eich cwmni preifat fod yn ei gwasanaethu
Maint Arferol y Buddsoddiad: £500,000 - Miliynau
Cyfran: Cyfran leiafrifol, gyda'r potensial am gyfran fwyafrifol
Amserlen: 5-10 Mlynedd
MANTEISION
ANFANTEISION
Gall fod yn fath rhad o gyllid. Nifer o gynlluniau menter corfforaethol ddim yn disgwyl enillion difidend, ond yn hytrach enillion cyfalaf.
Gall cyfalaf menter corfforaethol gynnig arweiniad strategol ar gyfer eich busnes a bydd hefyd yn rhoi mynediad i sianeli dosbarthu allweddol.
Rhoi hyder yn eich cynnyrch a all helpu i gael cyllid ychwanegol wrth y banc.
Gall ymrwymo i gytundeb cyfalaf menter gyda chorfforaeth arwain at gaffaeliad yn hwyrach, gan ddarparu strategaeth ymadael i chi.
Yn gwanhau perchnogaeth y sylfaenydd o'r busnes.
Gall y broses fod yn gostus, yn heriol a chymryd cryn amser.
Mae’n hanfodol bod eich diwylliant a’ch strategaeth yn cyd-fynd â’r gorfforaeth sy’n berchen ar y cyfalaf menter corfforaethol. Gall hyn fod yn anodd i’w alinio.
Gall cyfalaf menter corfforaethol deimlo’n llethol oherwydd amcanion ariannol a strategol y gronfa.
NODWCH:
Bwriad y ddogfen hon yw bod yn gymorth i'ch helpu chi i ystyried gwahanol fathau o gyllid a pha rai a allai fod yn briodol i'ch busnes; nid yw'n ganllaw cynhwysfawr i bob math o gyllid. Gallai fod goblygiadau treth a chyfreithiol gwahanol yn gysylltiedig â gwahanol fathau o gyllid. Dylid ceisio cyngor treth a chyfreithiol proffesiynol i baratoi ar gyfer y gwahanol fathau hyn o gyllid.