top of page
Background

A Allai Eich Busnes Elwa o Gyfarwyddwr Anweithredol?

2E6A0129.jpg

Beth yw cyfarwyddwr anweithredol?   

​

Mae Cyfarwyddwyr Anweithredol (NEDs) yn swyddogion gweithredol profiadol; mae ganddynt olwg eang ar fusnes a’r sector a gallant adlewyrchu darlun da o strategaeth fusnes. Maent yn aml yn elfen allweddol mewn prosesau llywodraethu busnes, gan eu gwneud yn llinell amddiffyniad ar gyfer penderfyniadau sy’n gallu effeithio ar y busnes.  Mae gan NEDs yr un dyletswyddau, cyfrifoldebau a rhwymedigaethau cyfreithiol posibl â chyfarwyddwyr gweithredol, ac mae rhagor o fanylion am hyn i’w gweld yma: Bod yn Gyfarwyddwr Cwmni

Beth sy’n gwneud rhywun yn gymwys i fod yn NED?

​

Yn amlwg, profiad yw’r elfen allweddol, mae ‘bod yn hen law arni’ yn bwysig, ond fe all y profiad hwnnw fod o sector arall weithiau, os yw’n berthnasol i’r busnes neu’n cynnig dealltwriaeth wahanol ond perthnasol. Er enghraifft, mae adwerthwyr yn hoff o gael NEDs o’r gadwyn gyflenwi, fel y mae busnesau bwyd-amaeth yn hoffi NEDs o’r maes adwerthu. Fodd bynnag, mae proses a disgyblaeth yn bwysig hefyd. Dylent fod yn gyfarwydd â gofynion allweddol bod yn gyfarwyddwr, megis dyletswydd ymddiriedol, fel y gallant osod esiampl dda o ofal proffesiynol.

​

Ystyrir bod cymwysterau mewn cyllid a chyfrifo yn aml yn werthfawr. Mae cefndir mewn marchnata neu adnoddau dynol hefyd yn fanteisiol. Y thema gyffredin yw eu bod yn dod ag arbenigedd, dealltwriaeth a chyngor doeth i’r busnes.

2E6A0228.jpg
2E6A0160.jpg

A yw NEDs yn cael tâl? 

​

Mae pob NED yn wahanol, ac mae gofynion pob busnes yn wahanol. Efallai bod ar rai busnesau angen llawer o fewnbwn gan NED, tra bod eraill yn gweld gwerth cael NED wrth gefn neu fel ymgynghorydd sy’n cael ei dalu ar gyfradd ddyddiol am ychydig ddyddiau’r flwyddyn i roi’r cyngor doeth hwnnw.  Mae’n bwysig cytuno o’r dechrau yr hyn sy’n ddisgwyliedig gan y ddwy ochr. 

​

Efallai bod gan rai BBaChau fuddsoddwr gweithredol sy’n gweithredu fel cadeirydd neu NED i gefnogi eu buddsoddiad.

​

Am faint dylwn ni benodi NED? 

​

Gan fod NED yn gweithredu fel cyfaill beirniadol, ni fydd yr un o’r ddwy ochr eisiau i’r berthynas fynd yn rhy gyfarwydd na chyfeillgar, felly mae cytuno ar gyfnod penodedig ffurfiol yn ffordd ddefnyddiol o osgoi sgyrsiau “symud ymlaen” annifyr.  Mae hyn hefyd yn caniatáu i wahanol safbwyntiau ac arbenigeddau gael eu cyflwyno i’r busnes ar wahanol adegau yng nghylch oes y busnes.   

NEDs Question Marks-20.png

Sut ydw i’n gwybod a wyf fi angen NED? 

​

Os nad ydych chi’n sicr a oes ar eich busnes angen NED, gallech lawrlwytho a chwblhau’r Archwiliad o Sgiliau Bwrdd isod i weld a oes bylchau yn eich busnes lle gallai NED fod o fantais i’ch helpu i gyflawni eich cynlluniau tyfu.  

Matrics Archwilio Sgiliau Bwrdd

​

Gan fod NED yn gweithredu fel cyfaill beirniadol, ni fydd yr un o’r ddwy ochr eisiau i’r berthynas fynd yn rhy gyfarwydd na chyfeillgar, felly mae cytuno ar gyfnod penodedig ffurfiol yn ffordd ddefnyddiol o osgoi sgyrsiau “symud ymlaen” annifyr.  Mae hyn hefyd yn caniatáu i wahanol safbwyntiau ac arbenigeddau gael eu cyflwyno i’r busnes ar wahanol adegau yng nghylch oes y busnes.   

Screenshot 2022-10-19 at 11.28.31.png

Enghraifft o Gyfarwyddwyr Anweithredol

NEDs Icons-21.png
Richard

Rheolwr Gyfarwyddwr profiadol yn y sector bwyd a diod, gyda hanes blaenorol llwyddiannus o reoli ac uwchraddio busnesau bwyd a diod sy’n tyfu’n gyflym.  Aeth ati i droi busnes fferm bach yn fusnes byd-eang gwerth dros £100M. 

 

Meysydd Arbenigedd: 

Strategaeth Busnes; Datblygiad Masnachol; Datblygu Cynnyrch Newydd (NPD); Marchnata; y Gadwyn Gyflenwi; Gweithrediadau; Llywodraethu; Cysylltiadau Buddsoddwyr; Uwchraddio Busnes

NEDs Icons-22.png
Miles

Rheolwr Cyffredinol gyda dros 40 mlynedd o brofiad yn y diwydiant bwyd yn cwmpasu portffolio eang o arbenigedd rheoli, masnachol a thechnegol, gydag awydd am waith heriol a chyflawniad personol. Mae ganddo gysylltiadau rhwydwaith helaeth yn y diwydiant sy’n golygu bod modd rhannu gwybodaeth ac arferion gorau. 

 

Meysydd Arbenigedd: 

Cynllunio ar gyfer olyniaeth, symleiddio systemau a gweithrediadau, cynyddu cynhyrchiant. 

NEDS-23.png
Steve

Gyrfa 40 mlynedd yn y diwydiant bwyd gyda phrofiad eang o adeiladu a rhedeg busnesau llwyddiannus, gan gynnwys cwmnïau rhyngwladol mawr, yn cwmpasu ystod eang o gategorïau o ran cynnyrch, marchnadoedd a llwybrau i’r farchnad. Cefndir cryf ym maes rheoli gweithrediadau, marchnata categori, dylunio a datblygu sefydliadol, datblygu strategaeth a dealltwriaeth o ‘beth sy’n dda’.

 

Meysydd Arbenigedd: 

Arweinyddiaeth busnes, Meithrin cysylltiadau â chwsmeriaid, Pobl a datblygu diwylliannol, Gwybodaeth a Sgiliau’r Diwydiant Bwyd.

NEDs Icons-25.png
Jo

Uwch-weithiwr proffesiynol profiadol, sy’n uchel ei pharch a chynhyrchiol iawn ym maes marchnata, gydag enw da am gyflawni yn y sector bwyd a diod – mae’n ddeinamig, yn chwilfrydig, yn ystyriol ac yn drefnus. 

 

 

Meysydd Arbenigedd: 

Cynnyrch, brand, categori, marchnata adwerthu a siopwyr, gan gynnwys defnyddio dull prosesu/strwythuro/technoleg/data ar gyfer rhagoriaeth fasnachol.

NEDs Icons-24.png
David

Peiriannydd Siartredig gyda dros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad o weithio mewn busnesau bwyd, gan gynnwys rolau gweithredol mewn cwmnïau bach a mawr, ac yn atebol am bob agwedd ar weithrediadau a chadwyni cyflenwi gan gynnwys caffael, gweithgynhyrchu a logisteg fewnol ac allanol, iechyd, diogelwch a’r amgylchedd, diogelwch ac ansawdd bwyd, peirianneg a gwariant cyfalaf, arloesi gyda chynnyrch a gwasanaeth i gwsmeriaid.

 

Meysydd Arbenigedd: 

Gweithrediadau, y Gadwyn Gyflenwi, Strategaeth a Newid, Rheoli Prosiectau

NEDs Icons-23.png
Alun

42 mlynedd yn y sector cyllid, gan gynnwys rhedeg ei fusnesau ei hun ddwywaith. Mae profiad ariannol wedi cynnwys meysydd dyled, ecwiti, buddsoddiad mesanîn a buddsoddiad sy’n seiliedig ar asedau, a darparu datrysiadau ar gyfer busnesau newydd i gwmnïau cyfyngedig cyhoeddus.  Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, mae wedi arbenigo mewn cynorthwyo cwmnïau drwy gynlluniau twf ac er ei fod wedi helpu busnesau mewn sawl maes, mae wedi treulio llawer o amser gyda busnesau ym meysydd bwyd, diod a hamdden.  

 

Meysydd Arbenigedd:

Olyniaeth, adeiladu timau rheoli, ceisio’r buddsoddiad cywir, tyfu busnes.

2E6A0142.jpg

Podlediad: Mike Woods a John Taylerson

 

Sut ydych chi'n gwybod a fyddai'ch busnes yn elwa o gael Cyfarwyddwr Anweithredol ar y Bwrdd?


Mae gan fusnes Cymreig, Just Love Food, nid yn unig un ond dau NEDs yn rhan o’u busnes. Eisteddodd y Rheolwr Rhaglen, John Taylerson, i lawr gyda’r Rheolwr Gyfarwyddwr, Mike Woods, i siarad am sut mae NEDs wedi elwa a chefnogi cynlluniau twf Just Love Food.

2E6A0129_edited.jpg

Camau Nesaf

​

A ydych chi’n teimlo y gallech chi fod yn addas i helpu busnes bwyd neu ddiod Cymreig fel Cyfarwyddwr Anweithredol? 

​

A ydych chi’n gallu dod â safbwynt ffres a diduedd i fusnes?

 

A ydych chi’n gallu helpu busnes i dyfu yn gyflymach drwy ganfod cwsmeriaid, partneriaid busnes, cyflenwyr, aelodau tîm neu fuddsoddwyr newydd?

​

A oes gennych chi brofiad y tu allan i’ch busnes eich hun?

​

A ydych chi’n gallu helpu busnes i edrych ar ei berfformiad a’i strategaeth i sicrhau ei fod yn gweithredu’n effeithiol?

​

A ydych chi’n gallu helpu i gael gafael ar fuddsoddiad?

​

Os ydych chi wedi ateb ‘ydw’ i un neu ragor o’r cwestiynau hyn ac fe hoffech gynnig eich hun fel NED, llenwch y ffurflen datganiad o ddiddordeb isod, wedyn bydd aelod o dîm y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy yn cysylltu â chi i drafod ymhellach. 

Cofrestrwch Eich Diddordeb

I gofrestru, llenwch y wybodaeth isod.

bottom of page