top of page

ELLIE BURR
CRADOC'S SAVOURY BISCUITS

Cawsom sgwrs ag Ellie tuag at ddiwedd ei lleoliad i ofyn ychydig o gwestiynau iddi am ei chyfnod yn Cradoc's.

 

Helo Ellie, beth wyt ti wedi bod yn ei wneud yn Cradoc’s yn ystod dy leoliad?

 

Rwyf wedi bod yn ymwneud â’r ochr Gyllido yn Cradoc’s. Rwyf wedi bod yn rheoli cost cynhyrchu, gan nodi lle mae modd gwneud toriadau i leihau costau a chanfod cyflenwyr newydd a rhatach.

 

Rwyf hefyd wedi cyfrannu at edrych ar batrymau gwerthu a rhoi gwybod i’r busnes am eu cynnyrch lleiaf/mwyaf proffidiol. Fel busnes bach, rwyf hefyd wedi cael cysylltiad â’r gwaith gwerthu, ymchwil i'r farchnad a datblygu cynnyrch newydd.

 

Yn dy farn di, sut mae’r Rhaglen Lleoliadau Myfyrwyr wedi helpu o ran dy baratoi ar gyfer dechrau dy yrfa?  

 

Rwy’n credu bod y rhaglen hon wedi fy ngalluogi i ddeall y cyfleoedd sydd ar gael i mi ac i bobl eraill yn y diwydiant bwyd a diod. Mae gweithio yn Cradoc’s wedi dysgu i mi hefyd beth yw ystyr bod yn berchen ar fusnes, yn enwedig yn ystod cyfnod o dwf.

Rwyt ti’n iawn – mae cymaint o gyfleoedd ar gael yn y diwydiant bwyd a diod. Pa sgiliau wyt ti wedi’u dysgu wrth fod ar leoliad yn Cradoc’s?

​

Rwyf wedi cael cyfle i ddatblygu sgiliau cyfathrebu da drwy fod mewn cysylltiad cyson â chwsmeriaid a chyflenwyr posibl. Rwyf hefyd wedi ennill sgiliau rheoli amser da a’r gallu i flaenoriaethu tasgau sydd angen eu cwblhau ar adegau penodol.

 

I gloi, a fyddet ti’n argymell y Rhaglen Lleoliadau Myfyrwyr i fyfyrwyr eraill, a pham?

 

Byddwn - byddwn yn argymell y Rhaglen Lleoliadau Myfyrwyr. Mae’n gyfle gwych i gael cipolwg ar bob agwedd ar redeg busnes a bydd yn eich galluogi i ddefnyddio theori academaidd mewn modd ymarferol. Mae’n dangos diwydiant bwyd a diod Cymru mewn goleuni gwahanol ac yn dangos ei fod yn gallu cynnig cymaint o gyfleoedd i bobl ifanc a busnesau. 

Ellie & Ali At Cradocs 01_edited.jpg

Mae Cradoc’s wedi elwa o gael myfyriwr lleoliad parod iawn yn Ellie Burr. Mae Ellie wedi cwblhau’r tasgau a osodwyd iddi ac wedi cyfrannu’n frwdfrydig at weinyddu’r prosiectau cyllid, y cyfarfodydd tîm a’r gwaith o gynhyrchu syniadau. Mae wedi bod yn werthfawr i ni gael person dibynadwy sy’n gallu rheoli taenlenni cynhwysfawr a chymhleth.  Mae Ellie wedi llenwi’r Adnodd Model Costau ac mae hi’n ein galluogi i wneud y gorau o’i allbynnau drwy gynhyrchu gwybodaeth sy’n cyfrannu at benderfyniadau a chynllunio yn y dyfodol. Nid oedd yr opsiwn hwn gennym cyn y cynllun lleoliadau. Mae Ellie wedi cyfrannu at ddiogelwch ariannol y cwmni ac wedi rhoi hyder i ni symud ymlaen. Rydyn ni’n gweld y fantais o ddefnyddio’r rôl yma.      

ALLIE THOMAS | RHEOLWR-GYFARWYDDWR

CRADOC'S SAVOURY BISCUITS

bottom of page