GEORINA AMEY-JONES
SAMOSACO
Cawsom sgwrs â Georgina tuag at ddiwedd ei lleoliad i ofyn ychydig o gwestiynau iddi am ei chyfnod yn SamosaCo.
Helo Georgina, beth wyt ti wedi bod yn ei wneud yn SamosaCo yn ystod dy leoliad?
Fel rhan o fy lleoliad, fy nod oedd cyfeirio cymaint o draffig â phosib at wefan y busnes. Er mwyn gwneud hyn, roeddwn i’n gyfrifol am y sianeli cyfryngau cymdeithasol ar gyfer y busnes. Mae hyn yn golygu amserlennu a chreu cynnwys a dadansoddi sut mae pobl yn ymgysylltu â’r negeseuon. Rwyf hefyd wedi creu ymgyrchoedd marchnata drwy e-bost a chylchlythyrau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i gwsmeriaid am y busnes, gyda hyrwyddiadau i’w hannog i brynu eto.
Yn dy farn di, sut mae’r Rhaglen Lleoliadau Myfyrwyr wedi helpu o ran dy baratoi ar gyfer dechrau dy yrfa?
Mae’r Rhaglen Lleoliadau Myfyrwyr wedi rhoi sgiliau i mi a fydd yn sicr yn fy helpu i ddechrau fy ngyrfa yn y dyfodol. Er enghraifft, rwyf wedi dysgu sut i rwydweithio gydag unigolion yn y diwydiant, sydd wedi bod yn hollbwysig yn fy natblygiad personol. Hefyd, rwyf wedi dod yn fwy hyderus o ganlyniad i’r lleoliad gan ei fod wedi gwneud i mi gamu allan o fy man cyfforddus.​
Pa sgiliau wyt ti wedi’u dysgu wrth fod ar leoliad yn SamosaCo?
Rwyf wedi dysgu sgiliau dadansoddi tra ar leoliad, gan ddadansoddi ymgysylltiad cynulleidfaoedd ar negeseuon cyfryngau cymdeithasol ac ymgyrchoedd marchnata drwy e-bost, gan ddefnyddio hyn i wella’r ymgyrchoedd nesaf sy’n mynd allan ar sail y dadansoddiadau o’r rhai blaenorol. Rwyf hefyd wedi datblygu fy sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig drwy ysgrifennu copi ar negeseuon cyfryngau cymdeithasol gan ei bod yn bwysig datblygu llais brand clir ar y cyfryngau cymdeithasol.
I gloi, a fyddet ti’n argymell y Rhaglen Lleoliadau Myfyrwyr i fyfyrwyr eraill, a pham?
Byddwn i’n sicr yn argymell y Rhaglen Lleoliadau Myfyrwyr i fyfyrwyr eraill gan ei bod yn meithrin eich hyder drwy wneud i chi gamu allan o’ch man cyfforddus i sefyllfaoedd busnes yn y byd go iawn, a rhaid i chi ddysgu gweithio’ch ffordd drwy’r rheini eich hun. Mae wedi bod yn hanfodol o ran cynyddu fy ymwybyddiaeth o fusnes a datblygu fy ngwybodaeth am weithrediad mewnol busnesau.