top of page

JOSEPH PAYNE-KUMAR
CASTLE DAIRIES

Cawsom sgwrs gyda Joseph tuag at ddiwedd ei leoliad i ofyn ychydig o gwestiynau iddo am ei gyfnod yn Castle Dairies.

 

Helo Joseph, beth wyt ti wedi bod yn ei wneud yn Castle Dairies yn ystod dy leoliad?

 

Fy nhasg i yn Castle Dairies oedd cyflwyno i’r Rheolwr Gyfarwyddwr, y Rheolwr Adnoddau Dynol a’r Rheolwr Cyffredinol safbwyntiau’r sefydliad ar Gyfathrebu, Arweinyddiaeth a Datblygu, yn ogystal ag argymhellion ynglÅ·n â ffyrdd o wella’r meysydd hyn pan fo angen. Rwyf wedi gwneud hyn drwy gynnal arolwg manwl o’r cwmni, wedi’i gynllunio i fynd i’r afael â’r meysydd hyn.

 

Yn dy farn di, sut mae’r Rhaglen Lleoliadau Myfyrwyr wedi helpu o ran dy baratoi ar gyfer dechrau dy yrfa?

 

Mae’r Rhaglen Lleoliadau Myfyrwyr wedi fy helpu i gael profiad mewn amrywiaeth o wahanol feysydd ac adrannau. Mae hyn wedi fy helpu i ddewis pa agweddau ar y meysydd hyn rwy’n eu mwynhau ac nad wyf yn eu mwynhau.​

Mae’n dda clywed dy fod wedi llwyddo i archwilio ambell faes gwahanol yn ystod dy leoliad. Mae’n rhyw fath o ‘roi cynnig cyn prynu’. Pa sgiliau wyt ti wedi’u dysgu wrth fod ar leoliad yn Castle Dairies?

 

Rwyf wedi cael cyfle i ddatblygu sgiliau personol fel cyfathrebu clir, cyflwyno’n hyderus, dyfalbarhad a hunangymhelliant, yn ogystal â sgiliau academaidd fel sgiliau Excel, ysgrifennu adroddiadau, casglu data a dadansoddi data.

 

I gloi, a fyddet ti’n argymell y Rhaglen Lleoliadau Myfyrwyr i fyfyrwyr eraill, a pham?

 

I mi, mae’r lleoliad wedi bod yn daith ddifyr, cafodd fy mhrosiect gwreiddiol ei ddiddymu, gan fy arwain at ganfod/awgrymu fy mhrosiect fy hun. Mae’r Rhaglen Lleoliadau Myfyrwyr yn fuddiol i’r rhai sy’n barod i fod yn benderfynol ac yn bendant wrth ddod o hyd i ffyrdd o gael y gorau o’r profiad. Mae cael cymhwyso’r theori a ddysgwyd yn ein blwyddyn gyntaf a’n hail flwyddyn yn y brifysgol yn werthfawr iawn. 

castle-dairies-banner-1.png
bottom of page