top of page
Search

CRADOC'S SAVOURY BISCUITS



Pam oeddech chi eisiau ymuno â’r Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy?

Mae Cradoc’s yn tyfu, ac mae angen dod o hyd i gymorth i wneud hyn gam wrth gam – rydyn ni’n clywed am bobl yn tyfu’n rhy gyflym, ac am y problemau maen nhw’n eu cael yn sgil hynny. Mae’r clwstwr yn rhoi gwybodaeth a hyder i chi wneud y penderfyniadau iawn.


Beth ydych chi wedi’i gael gan y clwstwr hyd yma?

Rydyn ni wedi dysgu bod angen i ni gymryd amser i dyfu. Mae hynny’n golygu cael popeth mewn trefn, deall bod cyllid ac adnoddau’n hanfodol ar gyfer twf llwyddiannus, ystyried amrywiol opsiynau a derbyn cyngor pan fyddwn yn ansicr.


Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fusnesau bach a chanolig eraill yn y sector bwyd a diod yng Nghymru sy’n awyddus i uwchraddio a thyfu?

Rydw i’n brysur iawn yn gwneud yr hyn rwy’n arfer ei wneud, sef pobi i’n capasiti presennol, a gwneud y gorau allwn ni o’r hyn sydd gennym. Dydw i ddim yn gorfod gwneud hyn ar fy mhen fy hun. Mae ‘na bobl gyda phrofiadau gwych yn barod i roi cefnogaeth a chyngor i mi - fyddwn i ddim yn gall petawn i’n meddwl y gallwn i ehangu’n gyflym heb ymgynghori ag unigolyn neu sefydliad sy’n barod i fy arwain i, a phersonél sy’n barod i’m llywio’n llwyddiannus drwy’r broses. Mae arbenigedd ym maes cyllid, gweithgynhyrchu, uwchraddio a rheoli pobl ar gael. Dim ond gofyn sydd raid.



ALLIE THOMAS

Sylfaenydd, Cradoc's Savoury Biscuits

3 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page