Pam oeddech chi eisiau ymuno â’r Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy?
Mae The Pudding Compartment Ltd wedi cael budd o’r clwstwr ers mis Mai 2021. Fel Rheolwr Gyfarwyddwr, bu’n fuddiol tu hwnt cael help a chyngor gan reolwyr y clwstwr mewn sawl maes gwahanol, yn enwedig o ran datblygu a gweithredu strategaethau.
Beth ydych chi wedi’i gael gan y clwstwr hyd yma?
Yn ogystal â’r cymorth o safbwynt cyfeiriad strategol, mae hyn hefyd wedi cynnwys amrywiaeth eang o bynciau penodol fel prosesau costio cynnyrch, cyfrifon rheoli, cyflwyno i gwsmeriaid newydd posib, a systemau ERP. Dwi’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’r clwstwr yn y dyfodol.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fusnesau bach a chanolig eraill yn y sector bwyd a diod yng Nghymru sy’n awyddus i uwchraddio a thyfu?
Mae cael mynediad at wybodaeth, profiad a rhwydwaith eang y tîm yn ased gwerthfawr iawn i allu manteisio arno.
STEVE WEST
Rheolwr Gyfarwyddwr, The Pudding Compartment
Comentários