top of page
Background

Ecwiti Preifat

Mae cwmnïau ecwiti preifat fel cronfeydd cyfalaf menter gan eu bod yn codi eu cyfalaf gan fuddsoddwyr sefydliadol, fel cronfeydd pensiwn neu gwmnïau yswiriant. Y gwahaniaeth allweddol yw y bydd cwmni ecwiti preifat fel arfer yn prynu cyfran fwyafrifol yn y cwmni yn hytrach na chyfran leiafrifol. Mae hynny’n golygu bod bargeinion ecwiti preifat fel arfer at ddiben y sylfaenydd a buddsoddwyr eraill i adael y busnes. O ganlyniad, mae'r mathau o dargedau busnes yn ôl ecwiti preifat fel arfer wedi ennill eu plwyf, yn broffidiol iawn ac mae ganddyn nhw hanes o dwf. Yn aml, bydd hyn yn eithrio busnesau sydd â throsiant o lai na £10m, hyd at £100m, ond gall fod eithriadau i hyn.

​

Mae cwmnïau ecwiti preifat yn aml yn prynu cwmnïau eraill gan ddefnyddio dyled. Mae hyn yn golygu eu bod yn chwilio am fusnesau sy'n cynhyrchu elw. Byddant eisiau gweld y gall y busnes fforddio cario dyled, gan gynnwys elfennau fel offer cyfalaf oherwydd gallai hyn hefyd cefnogi benthyca (cyllid asedau).

 

Yna maen nhw'n cynnig cefnogaeth yn debyg iawn i gronfeydd cyfalaf menter er mwyn helpu'r busnes i dyfu fel ei fod yn edrych yn fwy deniadol i fuddsoddwyr / perchnogion mwy.

Maint Arferol y Buddsoddiad: £10m–£100m

Cyfran: Fel arfer mwy na 50%

Amserlen: 3-5 Mlynedd

MANTEISION

ANFANTEISION

 

Mae buddsoddiad ecwiti preifat yn aml yn sylweddol iawn a gall helpu i hwyluso cynlluniau twf.

Mae buddsoddwyr ecwiti preifat eisiau gweld y cwmni’n gwneud yn dda er mwyn gweld elw ar eu buddsoddiad. Felly, byddan nhw’n defnyddio eu harbenigedd i helpu i gefnogi strategaeth dwf y cwmni.

Mae ecwiti preifat yn helpu i hwyluso strategaeth ymadael gan y byddan nhw’n aml yn prynu'ch cyfran reoli yn y busnes sy'n paratoi'r cwmni ar unwaith tuag at adael ymhen 3 i 5 mlynedd.

​

Mae cwmnïau rhestredig wedi’u rheoleiddio’n sylweddol a bydd rhaid iddyn nhw fod yn llawer mwy tryloyw yn eu gweithrediadau a'u hadroddiadau ariannol. 

Mae ecwiti preifat yn aml yn rhoi gwerth ar fusnes o safbwynt ariannol yn unig. Fel perchennog busnes efallai yr hoffech i'r busnes ddangos ysgogwyr eraill o ran gwerth, fel effaith gymdeithasol.

Gall fod yn anodd cael cyllid ecwiti preifat oherwydd mae buddsoddwyr ecwiti preifat yn dueddol o ddod atoch chi. Bydd angen i chi sicrhau bod eich busnes yn cynnig cyfleoedd i dyfu’n sylweddol ac yn gallu troi’n gyflym tuag at sicrhau’r cyllid pan ddaw'r cyfle.

NODWCH:

Bwriad y ddogfen hon yw bod yn gymorth i'ch helpu chi i ystyried gwahanol fathau o gyllid a pha rai a allai fod yn briodol i'ch busnes; nid yw'n ganllaw cynhwysfawr i bob math o gyllid. Gallai fod goblygiadau treth a chyfreithiol gwahanol yn gysylltiedig â gwahanol fathau o gyllid. Dylid ceisio cyngor treth a chyfreithiol proffesiynol i baratoi ar gyfer y gwahanol fathau hyn o gyllid.

bottom of page