Dewch i siarad â’r tîm am gynyddu eich busnes bwyd neu ddiod.
Rydyn ni’n crwydro’r ffyrdd gyda’n Cymorthfeydd Uwchraddio. Ymunwch â ni am sgwrs gyfrinachol gyda’n harbenigwyr uwchraddio am eich cynlluniau i dyfu eich busnes a sut gallwn ni eich helpu i’w gwireddu.
Gallwn eich helpu gyda'r canlynol:
​
• Manteisio i’r eithaf ar eich systemau cyfrifyddu a gwybodaeth reoli
• Pryd a sut i gynyddu capasiti
• Pryd i fuddsoddi mewn systemau Cynllunio Adnoddau Menter neu Gynllunio Gofynion Deunyddiau
• Dod o hyd i'r math cywir o gyllid ar gyfer eich busnes
• Deall proffidioldeb llinellau cynnyrch
• Rhagolygon a modelu costau mewn byd ansicr
• Cynllunio allanfeydd/llwyddiant/caffaeliadau
• Graddio eich busnes drwy ddatblygu cynnyrch newydd
Y Lleoliadau
Cliciwch ar y lleoliad yr hoffech ei fynychu isod i fwcio eich cyfarfod.
Cwrdd â'r Arbenigwyr
JOHN TAYLERSON
Gall John helpu i gynnig atebion i’ch heriau o ran capasiti yn ogystal â rhoi cyngor i chi ar eich strategaeth tyfu busnes.
JOAN EDWARDS
Gall Joan eich helpu i ddeall eich systemau ariannol a’r wybodaeth bwysig sydd ynddynt, yn ogystal â rhoi cyngor i chi ar faterion cydymffurfio gyda TAW neu TWE.
WYN JONES
Mae Wyn yn helpu busnesau bwyd a diod i ddod o hyd i’r math cywir o gyllid ar gyfer eu busnes, yn ogystal ag adolygu a diwygio eu strategaethau busnes.
KEVIN IFANC
Gall Kevin eich helpu i asesu pa mor broffidiol yw eich busnes drwy ein hymarfer model costau, a’ch helpu i benderfynu pryd yw’r amser iawn i fuddsoddi mewn Cynllunio Adnoddau Menter/ Cynllunio Gofynion Deunyddiau.
ANDREW
MACPHERSON
Mae Andrew yn helpu busnesau bwyd a diod i ddod o hyd i’r math cywir o gyllid ar gyfer eu busnes, yn ogystal â sut i ddefnyddio gwybodaeth reoli i wneud penderfyniadau gwell.
ALISON
HASELGROVE
Oes angen help arnoch i adolygu a datblygu cynnyrch? Mae gan Alison dros 35 mlynedd o brofiad o weithio yn y diwydiant bwyd a diod, gan arbenigo mewn datblygu cynnyrch a brynwyr o archfarchnadoedd.
RHYS
GEDRYCH
Mae Rhys yn weithiwr cyllid proffesiynol profiadol iawn sy’n helpu busnesau i adolygu eu cyfrifon drwy’r Rhaglen Barod Am Fuddsoddiad