top of page
Huw Thomas:
Puffin Produce
Huw yw Rheolwr Gyfarwyddwr Puffin Produce a ddychwelodd i'w dreftadaeth ffermio yn Sir Benfro yn 2009 ar ôl blynyddoedd o ymchwil ac ymarfer proffesiynol mewn meysydd cysylltiedig. Yn ogystal â bod y Rheolwr Gyfarwyddwr mae Huw hefyd yn gyfrifol am y tîm Gwerthu a Marchnata. Mae'n parhau i hyrwyddo cynnyrch o Gymru, p'un ai trwy ei label ei hun neu frand premiwm Puffin, Blas y Tir. Mae hefyd yn sicrhau bod tyfwyr yn cael pris teg am eu cynnyrch, a bod Puffin yn "lle da a hapus i weithio." Mae Huw hefyd yn aelod o Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru.
bottom of page