top of page
Nick Stork:
Banc Datblygu Cymru
Mae Nick Stork yn Rheolwr Cronfa i dîm buddsoddiadau newydd Banc Datblygu Cymru. Mae’r tîm yn canolbwyntio ar weithio gyda busnesau yng Nghymru i strwythuro atebion ariannu pwrpasol i'w cefnogi yn ystod pob cam o'u twf.
Cyn ymuno â Banc Datblygu Cymru, gweithiodd Nick i Fanc Lloyds a HSBC mewn amrywiaeth o rolau gan ganolbwyntio ar fusnesau corfforaethol a BBaCh.
Mae ganddo 15 mlynedd o brofiad o ariannu busnesau ar sail ddomestig a rhyngwladol, yn cynnwys tair blynedd yn y maes trosoli corfforaethol. Mae’n gydymaith gyda Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr.
bottom of page