Angharad Evans:
Rheolwr Marchnata a Digwyddiadau
Fel Rheolwr Marchnata, Cyfathrebu a Digwyddiadau ar gyfer y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy, mae Angharad yn gweithio'n agos gyda'r Rheolwr Rhaglen a Rheolwyr Rhanbarthol y Clwstwr er mwyn sicrhau bod cyflawniadau'r Clwstwr yn cael eu cyfleu'n glir ac yn effeithiol i'r holl aelodau a rhanddeiliaid.
Mae gan Angharad dros ugain mlynedd o brofiad o reoli digwyddiadau, o gynadleddau a gwyliau ffilm i arddangosiadau coginio, seremonïau gwobrwyo a hyd yn oed twrnameintiau pêl-droed yr Uwch Gynghrair! Wedi iddi ymuno â'r diwydiant dair blynedd ar ddeg yn ôl, mae Angharad yn hynod angerddol am fwyd a diod Gymreig. Ers iddi ymuno â BIC Innovation yn 2016, mae Angharad wedi cydlynu ymweliadau masnach bwyd a diod i 18 gwlad ar ran Llywodraeth Cymru.