top of page
Y Siaradwyr
Bydd ein siaradwyr yn rhannu eu gwybodaeth a'u harbenigedd o amgylch prif themâu o cynhyrchiant, technoleg a cyllid.
Mae Brian yn newyddiadurwr, darlledwr a chyflwynydd a enillodd amryw o wobrau. Fo yw sylfaenydd a chyfarwyddwr Stay Gold Media, cwmni ymgynghori cyfathrebu, cyfryngau a digwyddiadau. Mae hefyd yn gyd-sylfaenydd, cyd-gyfarwyddwr a chadeirydd ar Å´yl Lyfrau Caerdydd ac yn gyfarwyddwr anweithredol ar FairPlay Trading, cwmni hyfforddiant ac Adnoddau Dynol masnachol wedi’i gysylltu â’r elusen cydraddoldeb rhyw, Chwarae Teg.
Frances Haque yw Prif Economegydd Santander UK, sy’n gyfrifol am ddadansoddi economaidd a’r rhagolygon macroeconomaidd a ddefnyddir gan y banc adwerthu. Mae ei thîm yn gyfrifol am ddatblygu: dadansoddi senarios risg economaidd i gefnogi’r prosesau profi straen ac IFRS9; dadansoddi ar gyfer cynllunio a dibenion strategol; siarad mewn digwyddiadau allanol; ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiadau; a darparu sylwebaeth ar gyfer rhaglenni newyddion gan gynnwys BBC News, Sky News a’r rhaglen Today.
Mae gan Andrew dros 20 mlynedd o brofiad o ddarparu atebion sy’n cael eu harwain gan fusnes a datblygu partneriaethau strategol i sbarduno twf economaidd yng Nghymru. Mae’n arwain ar ddefnyddio technoleg newydd yn AMRC i sbarduno mwy o gynhyrchiant ar yr un pryd â gyrru diwydiant sero net yn ei flaen. Mae Andrew yn frwd dros dwf economaidd sy’n cael ei arwain gan fusnes drwy fabwysiadu technoleg newydd ond hefyd datblygu talent i gyflawni’r nod hwn.
Mae Linda yn gweithio gyda tim Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy i gefnogi busnesau bwyd a diod o Gymru i gyflawni eu huchelgeisiau ar raddfa fawr. Mae Linda hefyd yn arwain sawl prosiect bwyd a ariennir gan Ewrop yn ogystal â gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ar y rhaglenni allforio bwyd.
Dechreuodd stori Radnor Hills pan ddaeth y sylfaenydd, William Watkins, yn ôl o Brifysgol Newcastle gyda gradd mewn Amaethyddiaeth a Marchnata Bwyd. Daeth ei dad o hyd i ffynhonnell ddŵr ar fferm y teulu, gan gynllunio i ddefnyddio’r ffynhonnell i ddarparu cyflenwad dŵr i’w wartheg. Roedd y dŵr yn blasu mor dda nes i William benderfynu ei fod yn haeddu cynulleidfa ehangach. Dros 30 mlynedd yn ddiweddarach, nid yw’r galw erioed wedi bod yn uwch ar gyfer Radnor Hills a’u hamrywiaeth eang o ddiodydd meddal!
Yash yw Cyfarwyddwr Nashville Food Group o Ben-y-bont ar Ogwr, sy’n prosesu ffa coffi o dan eu brand Ferrari’s ynghyd a chynnig gwasanaeth prosesu i eraill.
Yn dilyn gyrfa mewn rolau rheoli gweithgynhyrchu ac ymgynghori, newidiodd Steve yn ei yrfa yn 2007 pan sefydlodd The Pudding Compartment sydd bellach yn cyflogi 25 o bobl yn gwneud cynhyrchion becws gyda sylfaen cwsmeriaid cenedlaethol. Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar weithredu sawl technoleg ddigidol i gefnogi uchelgeisiau twf y busnes.
Mae Joan yn gyfrifydd cymwysedig sy'n helpu perchnogion busnes i ddeall eu systemau ariannol a'r wybodaeth bwysig sydd ynddynt. Mae Joan hefyd yn helpu cwmnïau i ddod o hyd i fuddsoddiad trwy grantiau, sefydliadau ariannol, neu ecwiti preifat. Mae Joan yn arwain Rhaglen Cyfarwyddwyr Anweithredol y Clwstwr.
Mae Rhodri Evans yn Ddirprwy Reolwr Cronfa gyda Banc Datblygu Cymru, yn gweithio fel rhan o’r tîm Buddsoddiadau Newydd. Gyda dros 20 mlynedd o brofiad o gyflawni buddsoddiad dyled ac ecwiti ar draws sectorau a maint busnesau amrywiol, mae Rhodri wedi gweithio gyda nifer o fusnesau gweithgynhyrchu bwyd ledled Cymru i gyflawni eu cynlluniau twf.
Arbenigwr awtomeiddio amlsector sefydledig sy'n darparu atebion safonol wedi'u teilwra i ofynion gweithgynhyrchu. Mae gan Michael dros 40 mlynedd o brofiad traws-sector byd-eang mewn cwmnïau gweithgynhyrchu amlsector a busnesau bach a chanolig ac mae bellach yn darparu cyngor, peiriannau cynhyrchu ac atebion awtomataidd i'r sector bwyd.
Mae cefnir Tim yn y diwydiant bwyd, fel Cyfarwyddwr Whitworths a Northern Foods, nid o fanc, felly mae'n deall eich prosiectau a sut i'w hariannu. Mae'n siarad eich iaith chi, a nhw nawr, gan wneud cyllid yn haws ei gael.
Mae Kevin yn gyfrifydd ACMA cymwysedig sy'n awyddus i helpu busnesau i ddiffinio cynllun strategol clir ar gyfer y dyfodol trwy wella eu hymwybyddiaeth ariannol a'u defnydd o wybodaeth reoli amserol.
Mae gyrfa Richard wedi bod yn y diwydiant bwyd yn gweithio ar lefel uwch i amrywiaeth o gwmnïau, o ‘blue chip’ i fusnesau newydd, a gydag amrywiaeth o gynnyrch. Mae Richard wedi gweithio gyda BIC Innovation am dros 10 mlynedd yn rhoi cymorth a chyngor ymarferol i nifer o gwmnïau bwyd a diod yng Nghymru.
Mae Joe Matthews CEng MIMechE, Rheolwr Dylunio Peirianneg, yn arwain adran Dylunio Peirianneg Proses Sycamore o Beirianwyr Proses a Mecanyddol arbenigol, gan ddylunio i'r canllawiau diweddaraf ac arwain at yr atebion proses mwyaf effeithlon o'r dechrau i'r diwedd, gan ganolbwyntio ar gynaliadwyedd a hyrwyddo'r OPEX gorau. Mae'n angerddol am beirianneg prosesau a chefnogi eu cwsmeriaid
Yn gyfreithiwr eiddo tiriog am 20 mlynedd, camodd Ruth i ffwrdd o’r gyfraith i ymuno â busnes ei gŵr, The Cake Crew, fel Cyfarwyddwr. Ddaeth â set werthfawr o sgiliau gyda hi sydd wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu strategaeth fusnes cadarn i fynd i’r afael â’r heriau busnes presennol o werthiant is, chwyddiant uchel ac aneffeithlonrwydd gweithredol.
Nick yw Cyfarwyddwr Rheoli a chyd-sylfaenydd Oxbury Bank, yr unig fanc yn y DU sy'n ymroddedig i amaethyddiaeth ym Mhrydain. Yn raddedig mewn amaethyddiaeth o Brifysgol Aberystwyth, mae Nick wedi treulio ei yrfa yn y diwydiant ffermio, mewn gwasanaethau ariannol yn y DU ac yn ddiweddarach ym maes TG amaethyddol rhyngwladol nes iddo gyfarfod â chyn cydweithiwr o’i ddyddiau Bank of Scotland, a dechrau cynllunio Oxbury Bank. Lansiodd Oxbury fel banc a reoleiddir yn llawn ym mis Chwefror 2021.
As a former managing director of food businesses, and starting several of his own, John has first-hand experience of running and scaling food businesses. John also works on the Investor Ready Programme, helping businesses turn around their finances.
Mae Duncan wedi treulio dros 30 mlynedd yn y diwydiant bwyd mewn nifer o uwch rolau gweithredol a masnachol. Mae wedi treulio 20+ mlynedd yn cyflenwi prydau parod oer i'r prif archfarchnadoedd, ac yn ddiweddarach yn y maes gwasanaeth bwyd. Mae ganddo ddealltwriaeth fanwl o alluoedd cynhyrchu ac felly mae'n gallu paru cyfleoedd masnachol yn effeithiol â galluoedd ffatri.
Mae Beatriz Albo yn gyn-wyddonydd ymchwil sydd yn ail-greu sawsiau ei mam-gu a ddatblygwyd ym mwyty arobryn y teulu yn Sbaen sy’n cysylltu ag archwaeth y cyhoedd am flasau Sbaenaidd dilys. Enillodd ei saws Paella y saws crefftwr gorau ar raglen deledu’r BBC “Top of the Shop with Tom Kerridge”
Mark Roberts yw sylfaenydd a chadeirydd Wrexham Lager Beer Company Ltd. Dechreuodd Mark ei yrfa fusnes ym 1984 yn y diwydiant cyfanwerthu bwyd. Yna aeth i faes datblygu eiddo ochr yn ochr â diddordebau ac yn 2011 ar ôl cyfarfod ar hap, ailddechreuodd y Wrexham Lager Beer Company. Mae gan Mark gyfoeth o wybodaeth yn y diwydiannau peirianneg ac adeiladu.
bottom of page