Cyfalaf Menter
Mae cyfalaf menter yn gweithio mewn ffordd debyg i angylion busnes. Mae nhw’n buddsoddi arian mewn busnesau sydd â rhagolygon twf uchel i gael enillion uchel.
Yr hyn sy’n wahanol rhwng cronfeydd cyfalaf menter ac angylion busnes yw y daw cyllid cronfeydd cyfalaf menter o ffynonellau sefydliadol, fel cynlluniau pensiwn a chwmnïau buddsoddi, yn ogystal â chorfforaethau a buddsoddwyr unigol. Gyda’i gilydd, gelwir y rhain yn ‘Bartneriaid Cyfyngedig’. Bydd eu harian yn cael ei gyfuno i gronfa fuddsoddi, wedi’i rheoli gan reolwr buddsoddi, a fydd yn defnyddio'r cronfeydd i adeiladu portffolio sydd fel arfer yn cynnwys nifer o fusnesau risg uchel. Mae nifer o'r busnesau hyn yn methu, ond mae'r rhai sy'n llwyddo yn tyfu i'r fath raddau fel bod yr enillion yn fwy na'r colledion.
Er eu bod yn fusnesau risg uchel, maen nhw’n aml yn gwmnïau sydd wedi profi eu hunain y tu hwnt i’r cyfnod cychwynnol gyda rhagolygon twf uchel.
Yn debyg i angylion busnes, daw buddsoddiad cyfalaf menter hefyd â chyfoeth o brofiad sydd yn aml yn benodol i'r sector. Wedi dweud hynny, oherwydd nifer y cwmnïau o fewn eu portffolio, ni fyddan nhw’n ymwneud cymaint â'r busnes ag angylion busnes ac yn fwy tebygol o fod yn rhan o'r strategaeth fusnes gyffredinol.
Oherwydd strwythur a gofynion dod yn gwmni portffolio mewn cronfa cyfalaf menter, gall gymryd cryn dipyn o amser i sicrhau buddsoddiad. Mae angen llawer iawn o ddiwydrwydd dyladwy, a gallai’r ffioedd cyfreithiol fod yn sylweddol gan fod y swm o arian a fuddsoddir yn aml yn fwy, at ddibenion twf yn unig.
Maint Arferol y Buddsoddiad: £500,000 - Miliynau
Cyfran: Fel arfer llai na 30%
Amserlen: 5-10 Mlynedd
MANTEISION
ANFANTEISION
Gall fod yn fath rhad o gyllid. Nid yw llawer o gyfalafwyr menter yn disgwyl enillion difidend, ond yn hytrach enillion cyfalaf.
Gall cyfalafwyr menter gynnig arweiniad strategol i'ch busnes a byddan nhw hefyd yn cael effaith bositif ar rwydweithio.
Rhoi hyder yn eich cynnyrch a all helpu i gael cyllid ychwanegol wrth y banc.
.
Yn gwanhau perchnogaeth y sylfaenydd o'r busnes.
Gall y broses fod yn gostus, yn heriol a chymryd cryn amser.
Yn gyffredinol, nid yw’n addas i bobl sy’n dechrau arni neu’n chwilio am fuddsoddiadau bach.
Mae'n anodd sicrhau buddsoddiad cyfalaf menter. Weithiau mae'n anodd dod o hyd i'r un sy’n gweddu’n iawn, ac mae hefyd yn hynod gystadleuol.
NODWCH:
Bwriad y ddogfen hon yw bod yn gymorth i'ch helpu chi i ystyried gwahanol fathau o gyllid a pha rai a allai fod yn briodol i'ch busnes; nid yw'n ganllaw cynhwysfawr i bob math o gyllid. Gallai fod goblygiadau treth a chyfreithiol gwahanol yn gysylltiedig â gwahanol fathau o gyllid. Dylid ceisio cyngor treth a chyfreithiol proffesiynol i baratoi ar gyfer y gwahanol fathau hyn o gyllid.