Morgais Masnachol
Y MANTEISION A'R ANFANTEISION: MORGAIS MASNACHOL
Yn debyg i brynu tÅ·, gellir prynu adeilad busnes gan ddefnyddio benthyciad tymor hir, dros gyfnod o 10/15/20 mlynedd, ac wedi'i sicrhau gan yr adeilad rydych chi'n ei brynu. Mae banciau fel arfer yn disgwyl i fusnesau gyfrannu blaendal o tua 20/25% o gyfanswm y gost.
Mae cyfraddau llog yn gymharol isel, ond byddwch yn talu llog am lawer o flynyddoedd. Bydd costau ymlaen llaw yn cynnwys ffi trefnu/sefydlu a ffi brisio. Bydd hefyd costau cyfreithiol, treth stamp o bosib, a TAW * yn dibynnu ar y gwerthwr.
​
* Gwiriwch hyn cyn cytuno i brynu.
MANTEISION
ANFANTEISION
Gallai'r adeilad gynyddu mewn gwerth
Mae gennych ryddid llawn (o fewn cyfyngiadau cynllunio) i newid yr adeilad fel y dymunwch
Gallwch ddewis is-osod yr adeilad os oes gennych chi ofod gwag
Gallwch drefnu eich taliadau morgais fel eich bod chi'n gwybod faint fydd y taliadau am y blynyddoedd nesaf
Bydd eich blaendal yn defnyddio cyfran sylweddol o'ch arian parod a bydd yn debygol o adael chi'n brin o arian parod yn y tymor byr
Gall y costau prynu adio i f yny, gan gynnwys treth, treth stamp, ffioedd cyfreithiol a ffioedd arolwg
Efallai y bydd gwerth yr adeilad yn cwympo, felly fydd y benthyciad yn fwy na gwerth yr adeilad sy’n golygu ecwiti negyddol
Mae hwn yn ymrwymiad hirdymor i gymharu â phrydlesu, ac felly ddim yn briodol os oes angen eich busnes i aros yn ystwyth
NODWCH:
Bwriad y ddogfen hon yw bod yn gymorth i'ch helpu chi i ystyried gwahanol fathau o gyllid a pha rai a allai fod yn briodol i'ch busnes; nid yw'n ganllaw cynhwysfawr i bob math o gyllid. Gallai fod goblygiadau treth a chyfreithiol gwahanol yn gysylltiedig â gwahanol fathau o gyllid. Dylid ceisio cyngor treth a chyfreithiol proffesiynol i baratoi ar gyfer y gwahanol fathau hyn o gyllid.