top of page
Search

Diogelu Hawliau Gweithwyr yn y Sector Bwyd a Diod yng Nghymru

Bydd Sgiliau Bwyd Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â Chyfarwyddiaeth Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a Gwaith Teg Llywodraeth Cymru, yn cynnal 3 gweithdy ar-lein ym mis Ionawr 2023 i roi cyfle i ddysgu mwy am hawliau gweithwyr yng nghyd-destun y sector bwyd a diod yng Nghymru. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn clywed ac yn ymgysylltu â siaradwyr o amrywiaeth o sefydliadau sy’n hyrwyddo hawliau gweithwyr ac yn mynd i’r afael â cham-drin a chamfanteisio yn y farchnad lafur.


Nod y gweithdai yw:


  • Cryfhau dealltwriaeth o hawliau gweithwyr, cyfrifoldebau cyflogwyr a gorfodi

  • Deall ble i gael cyngor, gwybodaeth ac arweiniad

  • Dysgu sut i adnabod arwyddion camfanteisio ar lafur a sut i adrodd am bryderon

  • Dysgu am fynd i’r afael â chamfanteisio ar lafur ac arferion cyflogaeth anfoesegol mewn cadwyni cyflenwi


Bydd sefydliadau gan gynnwys y canlynol yn darparu diweddariadau llawn gwybodaeth ar y pwnc:

  • Llywodraeth Cymru

  • Cyllid a Thollau EM

  • ACAS

  • Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Llafur

  • Arolygiaeth Safonau Asiantaethau Cyflogaeth

  • BSI


Mae’r gweithdai yn rhad ac am ddim i ymun a byddant yn cael eu cyflwyno ar-lein ar y dyddiadau canlynol:


Dydd Mercher 11 Ionawr 2023 - Cliciwch i gofrestru 11 Ionawr 2023 am 10yb

Dydd Mercher 18 Ionawr 2023 - Cliciwch i gofrestru 18 Ionawr 2023 am 10yb

Dydd Mercher 25 Ionawr 2023 - Cliciwch i gofrestru 25 Ionawr 2023 am 10yb



Os hoffech ragor o wybodaeth cysylltwch â wales@lantra.co.uk

www.sgiliaubwyd.cymru

8 views0 comments
bottom of page