Mae'r National Skills Academy ar gyfer bwyd a diod, mewn partneriaeth â'r Food and Drink Federation, wedi'u cymeradwyo fel porth swyddogol ar gyfer cynllun Kickstart y Llywodraeth gwerth £2bn a fydd yn chwarae rhan allweddol wrth ailadeiladu economi'r DU a bydd yn cefnogi pobl ifanc yng Nghymru fewn i gyflogaeth gynaliadwy.
Fel un o sectorau gweithgynhyrchu mwyaf Cymru, mae'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru yn parhau i gynnig ystod hynod amrywiol o swyddi ar bob lefel sgiliau ac mae wedi parhau i fod yn un o'r ychydig ddiwydiannau sy'n recriwtio ledled y pandemig.
Dyluniwyd ein rhaglen gymorth cofleidiol yn benodol ar gyfer y diwydiant bwyd a diod ac mae'n unigryw ei dull.
Bydd yr holl gyfranogwyr sy’n cwblhau eu lleoliad drwy’r porth hwn yn derbyn ‘pasbort’ bwyd a diod yn cadarnhau eu parodrwydd i ymgymryd â swydd yn y sector, ynghyd â rhaglen gyflogadwyedd a ddarperir gan Youth Employment UK. Y gobaith yw y bydd llawer o gyfranogwyr Kickstart yn cael eu cyflogi fel prentisiaid ar ôl iddynt gwblhau eu lleoliadau.
Am ragor o wybodaeth ewch i https://kickstart.nsafd.co.uk neu cysylltwch â James j.hicks@nsafd.co.uk
Comments