top of page
Search

Mae rhaglen Accelerator NatWest nawr AR AGOR i geisiadau ar gyfer carfan Mawrth 2023


Wedi'i datblygu dros y chwe blynedd diwethaf, mae'r rhaglen gynhwysfawr Accelerator , a arienni'r yn llawn, wedi chwyldroi'r cefnogaeth i entrepreneuriaid, ac wedi profi ei bod yn gweithio.


Mae’r rhaglen hon yn cynnwys:

  • Hyfforddiant 1:1 a grŵp.

  • Mewnwelediad, arweinyddiaeth meddwl a mentora.

  • Cymuned o entrepreneuriaid o'r un anian i gyd yn gweithio i dyfu eu busnesau.

  • Mynediad i un o'n 15 o leoedd cydweithio, neu'r opsiwn i ddewis ein Digital Accelerator i gael mynediad at yr holl gymorth yn rhithiol.

Pwy sy'n gymwys?

Os ydych chi'n fusnes sydd eisoes yn masnachu - yn cynhyrchu trosiant neu wedi derbyn buddsoddiad - gydag uchelgais i ehangu, gallai rhaglen Accelerator NatWest helpu.


Efallai eich bod am adeiladu eich tîm, mentro i farchnadoedd newydd neu chwilio am fuddsoddiad pellach. Gallai’r rhaglen eich helpu i ennill y wybodaeth a’r sgiliau i ragori mewn ystod o feysydd busnes:


  • Cael mynediad i farchnadoedd newydd

  • Denu talent ac adeiladu tîm effeithiol

  • Mynediad at gyllid twf

  • Datblygu arweinyddiaeth

  • Datblygu seilwaith graddadwy

Nid oes rhaid i chi fod yn gwsmer NatWest i gymryd rhan yn Accelerator.


Amserlen

Mae'r rhaglen yn dechrau gyda digwyddiad 'Ignition' yn yr wythnos sy'n dechrau ar Fawrth 13eg 2023, ac yn ymestyn dros chwe mis gyda digwyddiadau bob pythefnos, cyfleoedd a sesiynau hyfforddi 1:1 a sesiynau gwrp bob pythefnos.


Mae opsiwn i ailymgeisio am hyd at 18 mis o gymorth i gyd, gyda’r chwe mis cyntaf o gymorth yn agored i bob busnes, a’r 12 mis ychwanegol wedi’u neilltuo ar gyfer cwsmeriaid Grŵp NatWest.


Cynhelir cyfweliadau trwy gydol Rhagfyr, Ionawr a dechrau Chwefror. Mae lleoedd yn gyfyngedig.


Ceisiadau

Barod i wneud cais? Cliciwch ar y ddolen hon, cofrestrwch, yna cwblhewch y ffurflen gais byr. Gweler y gwefan am feini prawf cymhwyster, telerau ac amodau.


Darganfod mwy

Os oes gan ddarpar ymgeiswyr gwestiynau, eu bod eisiau deall yn well yr hyn sydd ar gael a chwrdd â’r tîm, mae NatWest yn cynnal 'Discovery Events' rhithwir yn ogystal â 'Discovery Events' wyneb yn wyneb a gynhelir yn eich Accelerator Hub lleol.


  • Mae amserlen lawn y Discovery Events ar gyfer opsiwn Accelerator Caerdydd yma;

  • Mae'r amserlen lawn o ddyddiadau ar gyfer y Digital Accelerator yma;

  • neu gallwch anfon e-bost at eich hwb lleol i gael gwybod pryd maent yn cynnal Discovery Events. Mae rhestr lawn o hybiau ffisegol a manylion cyswllt ar gael yma.

5 views0 comments
bottom of page