top of page
Search

Atal bwyd da rhag mynd i wastraff, a lleihau ôl troed carbon Cymru



Mae FareShare Cymru am siarad â busnesau bwyd a diod sy’n wynebu problemau gyda’r bwyd sydd dros ben, ac sydd am fynd i’r afael â’u hôl troed carbon. Rydym yn troi problem amgylcheddol yn ateb cymdeithasol, drwy weithio gyda phartneriaid yn y diwydiant bwyd a diod i ddargyfeirio eu bwyd dros ben i bobl sy'n agored i niwed ledled Cymru. Rydym yn gweithio gyda dros 170 o grwpiau cymunedol ac elusennau, gan ddarparu cyflenwad rheolaidd o fwyd da a maethlon iddynt, a fyddai fel arall wedi cael ei wastraffu.


Bydd bwyd dros ben am nifer o resymau, er enghraifft: gwallau mewn rhagolygon, gwallau mewn labelu, hen stoc dymhorol, problemau gyda phecynnu neu dreialon cynhyrchu. O ran y bwyd y gallwn ei dderbyn fel rhoddion, ein prif feini prawf yw bod gan y bwyd o leiaf 48 awr o fywyd sylfaenol ar ôl ei dderbyn, a’i fod yn dal yn ddiogel i’w fwyta. Mae FareShare Cymru yn credu bod y bwyd hwn bob amser yn well i’w ddarparu ar blatiau i fwydo pobl sy’n agored i niwed.


Byddem yn croesawu trafodaeth gyda busnesau bwyd o unrhyw faint, o bob cwr o Gymru, i’w helpu i wneud gyda’u bwyd dros ben. Yn benodol, rydym am roi mynediad i bobl sy'n agored i niwed at y nwyddau y mae llawer yn eu cymryd yn ganiataol yn eu siop wythnosol. Mae gennym angen parhaus i gael gafael ar brif nwyddau diet Prydain Fawr, gan gynnwys te, coffi, siwgr, menyn ac wyau. Byddai FareShare Cymru yn croesawu trafodaethau gydag unrhyw gynhyrchwyr neu weithgynhyrchwyr yng Nghymru sy’n cronni’r eitemau hyn fel stoc dros ben, i sicrhau nad ydynt yn mynd i wastraff.


Yn ogystal â helpu rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru, mae rhoi eich bwyd dros ben i FareShare yn ei atal rhag cael ei anfon i safleoedd tirlenwi – y gyrchfan fwyaf cyffredin ar gyfer gwastraff bwyd. Mae hyn yn ychwanegu gostyngiad sylweddol at ôl troed carbon eich cwmni, sy’n golygu bod eich bwyd dros ben yn dda i bobl a’r blaned. Yn 2021-22, achubodd FareShare Cymru ddigon o wastraff bwyd a diod i arbed 2650 tunnell o allyriadau CO2 cyfatebol rhag mynd i mewn i’n hamgylchedd.


I drafod cyfrannu bwyd dros ben eich cwmni, cronfa ‘Surplus with Purpose Cymru’, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â Simon Stranks (Cydlynydd Cyrchu Bwyd) yn Simon@fareshare.cymru



Fareshare Flyer CY
.pdf
Download PDF • 1.94MB



8 views0 comments
bottom of page