top of page
Search

Beth Ddysgais i yn y Gynhadledd Arian i Dyfu

Gan Reolwr y Rhaglen Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy, John Taylerson


Ar 24 Mawrth, roeddwn yn bresennol yng nghynhadledd flynyddol gyntaf y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy yn y Bathdy Brenhinol gyda grŵp mawr o fusnesau bwyd a diod, banciau a chyllidwyr, cyfarwyddwyr anweithredol a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant i ddangos beth mae gweithgynhyrchwyr bwyd a diod yn gallu ei wneud ar raddfa fawr, a chlywed hefyd am y gefnogaeth ariannol sydd ar gael gan y cyllidwyr proffesiynol.


Yn gyntaf, trafodwyd y tair her sy’n codi wrth uwchraddio: Cyfalaf, Capasiti a Chymwyseddau; ac roedd Will Jennings, prif weithredwr Rabobank yn y DU a’n prif siaradwr wedi ychwanegu pedwaredd her, ‘Cydweithio’. Tynnodd Will sylw at raddfa a chwmpas gweithrediadau Rabobank yn y DU ac mewn gwledydd tramor, ond pwysleisiodd fod cydweithio yn elfen hanfodol yn Rabobank, fel cydweithfa a grëwyd gan ffermwyr, a bod hynny’n fwy gwir nag erioed yn y cyfnod hwn o ansicrwydd.


Yr eitem nesaf ar yr agenda oedd arian – faint mae’n ei gostio a sut i gael gafael arno. Awgrymodd y banciau fod digon ohono ar gael, hyd yn oed os oedd nifer o’r cynhyrchwyr yn ymddangos yn llai sicr o hynny ac, o’u safbwynt nhw, nad yw’r ffynonellau cyllid sydd ar gael yn cynnig llawer o help mewn gwirionedd ar gyfer trafodiadau llai. Mae graddfa’n bwysig i fanciau yn ogystal â gweithgynhyrchwyr bwyd a diod. Un o brif themâu’r diwrnod oedd bod tyfu at raddfa fawr yn galw am gynllunio, cyllidebu a rhagamcanu gofalus mor gynnar â phosibl er mwyn sicrhau cyfalaf ar gost synhwyrol.


Roedd James Walton, y Prif Economegydd yn y Sefydliad Dosbarthu Nwyddau Groser (IGD) wedi cychwyn y drafodaeth am gapasiti gweithgynhyrchu bwyd drwy dynnu sylw at y bwlch cynhyrchiant yn y DU yn gyffredinol, yn ogystal ag effeithiau tebygol y pwysau chwyddiant sy’n wynebu ein sector. Roedd Pete Robertson (FDF Cymru/AMRC Cymru) a Richard Elmitt (y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy) wedi nodi pa mor bwysig oedd cynllunio ar gyfer cynhyrchu a gweithredu i sicrhau bod unrhyw gapasiti sy’n bresennol ond yn gudd yn cael ei roi ar waith cyn troi at fuddsoddi mewn peiriannau newydd.


Un uchafbwynt i mi’n bersonol oedd clywed gan ddau o fyfyrwyr Ysgol Fusnes Caerdydd, Ellie a Joseph, a oedd wedi cwblhau rhan o’u lleoliadau 20 wythnos mewn busnesau bwyd yng Nghymru, yn rhan o Raglen Lleoliadau Myfyrwyr y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy. Roedd Ellie a Joseph wedi siarad yn huawdl a hyderus am y ffordd y mae’r rhaglen wedi agor eu llygaid i weld y cyfleoedd sydd i raddedigion busnes yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru. Mae’n hollbwysig denu pobl ifanc dalentog i’r diwydiant er mwyn sicrhau twf a chadernid y sector at y dyfodol.


Roedd y gynhadledd yn gyfle delfrydol i lansio un arall o raglenni’r Clwstwr, y Rhaglen Cyfarwyddwyr Anweithredol. Clywsom gan Mike Woods, Rheolwr Gyfarwyddwr Just Love Foods, sydd wedi sicrhau buddsoddiad a Chadeirydd Anweithredol newydd, George Adams, ar gyfer y busnes yn ddiweddar er mwyn hyrwyddo ei dwf. Os oeddech wedi methu’r sesiwn hon, gallwch wrando ar y cyfweliadau a gefais â George a Mike lle maent yn ymhelaethu ar y manteision y mae Cyfarwyddwyr Anweithredol yn gallu eu cynnig i fusnesau ar ddwy ochr y bwrdd. Mae’r rhaglen yn ceisio cysylltu Cyfarwyddwyr Anweithredol addas â busnesau bwyd neu ddiod yng Nghymru a fydd yn gallu elwa o’r profiad a’r sgiliau y mae Cyfarwyddwr Anweithredol yn gallu eu cynnig i’w busnes a chyflymu ei dwf.


Roedd Bernie Davies a Maggie Ogunbanwo o’n grŵp buddiant arbennig Pontio’r Bwlch wedi rhannu eu mewnwelediadau i bwysigrwydd amrywiaeth yn sector bwyd a diod Cymru a’i rhan mewn hyrwyddo arloesedd, gan gydnabod rhai o’r heriau a wynebir gan fusnesau ac entrepreneuriaid newydd o gefndiroedd amrywiol wrth uwchraddio eu busnesau.


Roedd y sesiynau grŵp yn y prynhawn yn rhoi cyfle i ystyried cyllid ar gyfer cynaliadwyedd gyda Sian Williams o HSBC, ac i edrych yn fwy manwl am gyllid ecwiti, gan gymharu cyllido torfol a buddsoddi gan angylion busnes.


Yn gyffredinol, yr adborth a gawsom gan gyfranogwyr oedd bod y gynhadledd wedi eu helpu i edrych o’r newydd ar argaeledd cyfalaf, capasiti a chymwyseddau, sut y gellir harneisio’r ffactorau hyn a phwy y gallant gydweithio â nhw wrth uwchraddio eu busnesau


5 views0 comments
bottom of page