top of page
Search

Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy Cylchlythyr – Mawrth 2023



Cyflwyniad


A gawsoch chi gyfle i ymuno â’n cynhadledd Cynhyrchiant: Trefnu er mwyn Tyfu y mis diwethaf yn AMRC Cymru? Roedd yn braf gweld cymaint o fusnesau’n rhwydweithio, yn crwydro o amgylch arddangosiadau AMRC ac yn gwrando ar ein cyfres o siaradwyr. Os ydych chi wedi colli rhywbeth, mae Rheolwr y Rhaglen John Taylerson yn crynhoi’r hyn roedd wedi’i ddysgu yn y gynhadledd yn ei flog isod, neu ewch i dudalen y gynhadledd ar ein gwefan YMA




Yr hyn a Ddysgwyd am Gynhyrchiant yn Cynhyrchiant: Trefnu er mwyn Tyfu


Ar 2 Chwefror croesawyd Lesley Griffiths AS i’r Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy i agor yr ail gynhadledd flynyddol yn swyddogol yng nghyfleusterau gwych AMRC Cymru (Y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch) ym Mrychdyn, Sir y Fflint, gyda chynhyrchiant fel thema’r dydd.


Roedd y siaradwyr ar yr agenda’n amrywio o Brif Economegydd Santander i’r arbenigwr mewn arloesi Tom Abbott o Marks and Spencer, gydag amrywiaeth o arbenigwyr mewn cynhyrchiant a busnesau bwyd a diod yn gwmni iddynt.





5 Rheswm Pam y Dylech Ddeall eich Cyfrifon


Fel perchennog busnes bwyd neu ddiod, mae’n hanfodol eich bod yn deall ac yn cymryd rheolaeth dros gyllid eich busnes; fodd bynnag, mi all hyn weithiau fod yn ddigon i’n brawychu a’n drysu os nad ydym wedi cael hyfforddiant mewn cyllid, ac oni dyna pam yr ydym yn talu am gyfrifydd?





Banc Gwybodaeth: Geirfa Ariannol


Mae gan y diwydiant ariannol, fel cymaint o ddiwydiannau eraill, ei iaith dechnegol ei hun sydd, os nad ydych yn gyfarwydd â hi, yn gallu bod yn anodd ei deall. Er enghraifft, efallai na fydd termau fel hylifedd, enillion argadwedig neu elw gweithredol yn rhan o’ch geirfa bob dydd. Mae cyllid hefyd yn ddiwydiant sy’n esblygu’n barhaus, ac mae termau a chysyniadau newydd yn cael eu cyflwyno gydol yr amser. Mi all hyn ei gwneud yn anodd cadw i fyny â’r derminoleg a’r tueddiadau diweddaraf.


Er mwyn eich helpu i ddygymod â pheth o’r jargon y gallech ddod ar ei draws wrth ddelio â’ch cyllid, rydym wedi datblygu rhestr chwiliadwy o dermau. Rhowch gynnig ar chwilio am rai o'r termau sy'n gallu eich drysu YMA. Byddwn yn ychwanegu at y rhestr yn rheolaidd, felly os na allwch weld derm rydych yn chwilio amdano, cysylltwch â ni.



Beth sy’n Bwysig neu Ddim mewn Cyllid


Grant Thornton: Food and beverage insights Q4 2022


Beth yw’r dyfodol i fwyd a diod?


Darllen mwy YMA



Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd Banc Datblygu Cymru


Helpu busnesau i leihau costau ynni: Mae Banc Datblygu Cymru a Llywodraeth Cymru wedi lansio Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd


Darllen mwy YMA



Cronfa Fuddsoddi Cymru gwerth £130M y British Business Bank


Mae disgwyl i gronfa fuddsoddi gwerth £130 miliwn sydd â’r nod o hybu twf busnesau bach a chanolig yng Nghymru gael ei lansio yn ystod hydref 2023.


Darllenwch ragor YMA



Adroddiad Chwarterol Dirnad Economi Cymru


Mae Adroddiad Chwarterol diweddaraf Dirnad Economi Cymru wedi olrhain yr amodau economaidd sy’n dirywio ac sy’n effeithio ar fusnesau, fel y gwrthdaro yn Wcráin a phwysau chwyddiant.


Darllenwch ymlaen i glywed am y rhagolygon economaidd yn fyd eang, yn y DU ac yn rhanbarthol, a mwy am eu gweithgarwch a’u cymorth.



Adroddiad Skills Insights & Labour Market AM DDIM yr Academi Sgiliau Cenedlaethol


Un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu’r sector FDMP yw prinder llafur, gydag adroddiadau niferus am swyddi gwag heb eu llenwi a chyflogau’n codi. Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar y prif ddylanwadau ac mae’n dangos pa sgiliau sydd eu hangen i alluogi’r diwydiant i ddal i ffynnu.


Lawrlwythwch YMA




Cwricwlwm Arweinyddiaeth Bwyd Cynaliadwy – a hoffech chi gymryd rhan?


Mae Miller Research wedi’u comisiynu gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i wneud ymchwil i hwyluso datblygiad Academi Bwyd Cyfoes, ac yn benodol i ganfod a oes galw am gwricwlwm Arweinyddiaeth Bwyd Cynaliadwy.


Byddai’r maes llafur wedi’i leoli yn y Brifysgol ac allan ar ffermydd, mewn ffatrïoedd bwyd neu letygarwch, gan ymdrin â phynciau fel diogelwch bwyd, maethiad ac iechyd y cyhoedd, arweinyddiaeth timau, cynaliadwyedd bwyd, gwleidyddiaeth bwyd, diet a choginio dim gwastraff.


Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn cyrsiau yn y meysydd pwnc hyn, cwblhewch yr arolwg YMA




Cysylltu


Os ydych chi’n fusnes bwyd neu ddiod Cymreig sydd ag uchelgais i dyfu ac yn chwilio am yr adnoddau a’r arbenigedd i helpu â’ch cynlluniau i dyfu, cysylltwch â ni am ymgynghoriad un i un ag un o’n Rheolwyr Clystyrau YMA




7 views0 comments
bottom of page